HOELION WYTH - TRAED O GLAI ~
Helen Ramage yn olrhain

RHAI o bencampwyr y pulpud yn y ganrif ddiwethaf a roddwyd yn bwnc i mi, a'r rheini nid yn unig thraed o glai, ond yn glai i gyd, sef y `ffigurau Stafford' o rai o hoelion wyth Cymru.

Nid yn swydd Stafford yn unig y cynhyrchid y crochenwaith a elwir ar l y sir honno, ond yno 'roedd y man cychwyn, bron i dri chan mlynedd yn l, a daeth yn ganolfan bwysicaf y diwydiant crochenwaith.

Yn oes Fictoria go brin y ceid aelwyd yng Nghymru heb ryw fath o grochenwaith 'Stafford'; bythynnod a chestyll, dynion a merched, cŵn a chathod a chathod yn llawer prinnach na chŵn, ac felly'n ddrutach heddiw, ac yn wir, anifeiliaid o bob math.

Ym myd y ffigurau dynol, 'roedd y frenhines a'i theulu'n boblogaidd iawn wrth gwrs, a hefyd drwgweithredwyr; adlewyrchai'r ffigurau hanes cymdeithasol Lloegr, actorion a chwaraewyr yn gricedwyr a phaffwyr, a'r 'Grapplers' yn ddrud iawn heddiw; arweinwyr crefydd, gwŷr y fyddin a'r llynges, a gwleidyddwyr wrth gwrs, er enghraifft, mae o leiaf bymtheg o fodelau gwahanol o'r Duc Wellington.

Ac nid gwleidyddwyr Lloegr yn unig a bortreadid, ond rhai tramor fel Garibaldi a oedd yn eilun gan lawer ym Mhrydain, ac ar l ei ymweliad Lloegr yn 1864, gwnaethpwyd tua deuddeg o wahanol fodelau ohono.

Edmygai fy hen daid Garibaldi ymhell cyn yr ymweliad; darllenai ei hanes yn Yr Amserau, a dywedir iddo fynd i lewyg yn ei weithdy wrth ddarllen yn Yr Amserau fod Garibaldi wedi ei orchfygu mewn rhyw frwydr (cwymp Rhufain yn 1849 efallai).

Gresyn na symbylodd ei edmygedd ef i brynu am ychydig geiniogau ffigur o Garibaldi yn ei grys coch gyda'i geffyl gwyn; mae'n werth rhai cannoedd o bunnau heddiw.

***

FAINT o ddarlunio bywyd Cymru a fu drwy'r ffigurau? Ychydig iawn; mae yna ffigurau o Edward Morgan a Jenny Jones o fferm Pontblyddyn ger Llangollen, eithr cn Seisnig mewn ffars boblogaidd yn Llundain a ddaeth hwy i enwogrwydd.

Ond gan mai pregethwyr mawr oedd y gwŷr mwyaf poblogaidd yng Nghymru, naturiol oedd i ryw grochenydd farnu y byddai marchnad (yng Nghymru) i ffigurau o rai o'r hoelion wyth.

A dyna i chwi'r tri a ddewiswyd, John Elias (1774-1841), Christmas Evans (1776-1838) a John Bryan (1770-1856).

Mae tebygrwydd dilys yn y ffigurau i ddarlun neu lithograff cyfoes ohonynt, ond nid oedd Christmas Evans o angenrheidrwydd yn gwisgo hosanau gwynion a'r ddau arall hosanau duon. Darlun o'r pen a'r ysgwyddau'n unig a oedd gan y crochenydd i'w gopo, gan amlaf; profir hyn gan y ffigur o'r Pab Pius IX yn gwisgo trywsus!

Hyd y gwn i, nid oes wybodaeth am y crochenydd celfydd a'u lluniodd. Defnyddiwyd ar y tri, is-sglein (underglaze) du yn hytrach nag enamel du; gofynnai hyn am fwy o fedrusrwydd.

***

BETH am eu gwerth heddiw? Anodd dweud yn union. Mae yna wahaniaeth wrth gwrs rhwng pris prynu a phris gwerthu, a dibynna llawer ar gyflwr y ffigur. Ac nid wyth modfedd (fel yr hoelen) oedd eu maint. Mae John Bryan, y lleiaf o'r tri yn ddeg modfedd a hanner, John Elias yn bedair modfedd ar ddeg a Christmas Evans yn dair modfedd ar ddeg a hanner.

 

Mae John Bryan yn rhatach na'r ddau arall; tuedda delwyr i drin y ddau arall fel pr. Oherwydd mai marchnad yn gyfyngedig i Gymru oedd iddynt gynt, gwnaed llai ohonynt nag o John Wesley, er enghraifft, ac felly mae John Bryan heddiw yn fwy gwerthfawr na'r ffigur cyffredin o John Wesley.

Rhyw ddeuddeng mlynedd yn l 'roedd yna John Bryan ar werth mewn siop ym Mangor am bum punt ar hugain, heddiw fe fyddai ei bris rhwng cant a hanner a dau gant o bunnau pris prynu cofier.

***

 

DYWED Mr Bil Prydderch, Wrecsam wrthyf ac mae'n arbenigwr ym maes ffigurau Stafford iddo weld mewn siop yn Llundain rhyw dair blynedd yn l, Christmas Evans a John Elias ar werth, fel pr, am saith gant o bunnau. Gofynnais innau ddoe i'r un deliwr am eu gwerth heddiw; nid oedd ganddo'r un o'r ddau, ac nid oedd yn fodlon awgrymu pris heb weld y ffigur.

John Bryan

Am bedwar cant o bunnau y prisiodd Arthur Negus Christmas Evans mewn rhaglen deledu.

Mater o lwc ydyw prynu mewn arwerthiant (pe gwelsech un ar werth). Fe fydd delwyr yno yn gwybod eu gwerth, a gall fod yno ddau o'r cyhoedd (neu yn waeth fyth, ddwy!) a'u bryd ar ei gael, costied a gostio, ac fe all y pris fynd yn uchel.

  Meddylier am John Elias o dan y morthwyl mewn ocsiwn 'Pwy cymer ef?' fe gofiwch mae'n siŵr am yr hanes amdano'n cael y fath hwyl at ei bregeth wrth roddi'r meddwyn ar werth.

Os ydych yn berchen un o'r ffigurau ac am sicrhau y bydd yn ddiogel yng Nghymru am byth, (gwerthwyd miloedd lawer o ffigurau Stafford i'r Unol Daleithiau er y rhyfel) beth am ei roi yn eich ewyllys i un o'n sefydliadau cenedlaethol? Nid oes yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan yr un John Elias.

Mae yno ddau o Christmas Evans, yr un adnabyddus, yn ysblennydd ac yn unllygeidiog ac mewn siwt ddu, ac un arall ohono, diddorol dros ben, mewn siwt wen ac yn hwn mae ganddo ddau lygad! Er bod cryn ffugio ym maes hen bethau, ni chredaf mai ffug ydyw hwn.

Dywed Mr Alun Davies (a diolchaf iddo am ei gymorth) i'r Amgueddfa ei brynu cyn y rhyfel gan wraig o Gaerdydd a bu'r ffigur yn ei theulu am un genhedlaeth, o leiaf.

Fe sylwch i'r ddau (y du a'r gwyn) gael eu gwneud o'r un mowld ond mae yna graciau yn y pedestl yn yr un gwyn, ac nid yw'r llaw chwith ychwaith mor gelfydd 'r llaw chwith yn y llall. Ai defnydd diweddarach o'r mowld a gyfrif am hyn, ac a roddodd y crochenydd siwt wen iddo mewn anwybodaeth?

                         

Ni wyddai ychwaith i Christmas Evans golli ei lygad pan ymosodwyd arno pan oedd yn llanc yn Llwynrhydowen.

A welodd rhywun o ddarllenwyr 'Y Casglwr' ffigur cyffelyb i'r ail, ynteu a yw hwn yn unigryw?

***

MAE gennym felly gynrychiolaeth o dri o'r enwadau Y Methodistiaid, y Bedyddwyr a'r Wesleaid, i roddi iddynt eu hen enwau. Nid oes sn am ffigur o offeiriad o'r Eglwys Esgobol yng Nghymru, ond beth am yr Annibynwyr?

Gofynnais i'r Dr Tudur Jones pwy fuasai ei ddewis ef; ei ateb 'Williams o'r Wern' (1781-1840), ond nid oes ffigur o'r pregethwr dawnus hwnnw.

Mae yna ffigur prin a'r enw Robert Evans arno, a honna dau awdurdod Seisnig ar ffigurau Stafford mai Robert Evans (Trogwy) (1824-1901), gweinidog gyda'r Annibynwyr ydyw.

Yn y Bywgraffiadur dywedir fod Roberts Evans yn enedigol o Drefeglwys, Mn, camgymeriad am Heneglwys, Mn, ac fel y gwelir oddi wrth Lyfr Achau J.E. Griffiths, Tre'r go, ym mhlwyf Heneglwys oedd ei gartref a chartref ei hynafiaid Eglwysig o ochr ei dad. Annibynwraig oedd ei fam.

Swta yw'r cyfeiriadau ato yn hanes Annibyniaeth. O Athrofa'r Bala aeth yn weinidog i Fanceinion, ac yn 1857 symudodd i Faes Glas ger Treffynnon cyn ymfudo i'r Unol Daleithiau yn 1870 lle y bu farw.

Cefais ychwaneg o'i hanes gan y Dr Tudur Jones o Hanes Coleg Bala-Bangor, 'roedd yn ddadleuwr selog dros ddirwest a chyfrifid ef yn yr Unol Daleithiau yn 'bregethwr cryf, gwresog.'

***

MAE'R ffigur Robert Evans yn od o debyg (ond fod y pennau'n wahanol) i'r un o'r Dr William Palmer, gwenwynwr a grogwyd yn 1856. Ar y ffigur o Robert Evans ychwanegwyd `Mr' o flaen yr enw; 'roedd defnyddio'r teitl `Mr' yn beth anghyffredin, a pham nid 'Rev.'?

A oedd Robert Evans, neu Trogwy i roddi iddo ei enw barddol yn ddigon adnabyddus i gael ffigur ohono? Wn i ddim. Byddai llun ohono'n setlo'r ddadl ac mae gobaith cael un oherwydd bu gorwyres iddo o Texas yng Ngholeg Bala-Bangor y llynedd.

Heb gael llun, ni ellir dweud a gynrychiolwyd y pedwar enwad Ymneilltuol yn yr oriel o ffigurau Stafford.

Yn y cyfamser, a ydyw'r ffigur o Robert Evans gan un o ddarllenwyr Y Casglwr, neu a oes rhyw wybodaeth amdano?