GWERTH PRES O LIAIN LLESTRI gan Megan J.Evans

 

YCHYDIG a feddyliais wrth ddechrau rhoi un lliain ar ôl y llall yn y drôr ryw chwarter canrif yn ôl y byddai erbyn hyn yn gasgliad o saith gant ac yn creu'r fath ddiddordeb. Mae'r ffaith fod rhai cwmnïoedd wedi mynd, ynghyd â chynllunio, neu yn wir, brintio lliain sydd â chysylltiad hanesyddol yn gwneud hyd yn oed bethau mor syml yn bethau pwysig ac 'rwy'n hynod o ddiolchgar i'r rhai a'u rhoddodd imi.

Mae'r un sy'n dynodi'r papur dwybunt o Fanc y Ddafad Ddu yn un arbennig iawn gan nad oes llawer o'r papurau hynny ar gael yn awr ac y mae'n werthfawr i'r casglwr. Felly fe ddeil y lliain printiedig a'r holl wybodaeth arno am flynyddoedd i ddod ac y mae hynny yn anhygoel, o gofio na fu'r Banc mewn bodolaeth ond o 1810 hyd 1814.

Ond mae enghraifft gennyf sy'n mynd yn ôl dipyn ymhellach - i gyfnod yn y seithfed neu'r wythfed ganrif pan ddaeth y mynachod o Ynys Iona i'r Iwerddon a dod â Llyfr Kells gyda nhw. Bu'r llyfr, sydd yng Ngholeg y Drindod, Dulyn er 1661, yn symbyliad i gwmni Linanne i ddefnyddio'r addurniadau sydd o gylch y prif lythrennau ac o gelfyddyd Geltaidd a'u gosod ar y lliain mewn lliwiau coeth, megis glas tywyll, coch ac aur-felyn.

Mae'r pysgodyn ar ben ucha'r lliain yn dynodi Crist ac y mae'n debyg fod y pedwar Apostol wedi'u cynnwys hefyd – Mathew fel dyn, Marc fel llew, Luc fel llo ac Ioan fel eryr.

Mae'r lliain yma wedi creu tipyn o ddiddordeb ac yn un o'r rhai mwyaf gwerthfawr yn fy nghasgliad oherwydd ei gefndir beiblaidd. Go brin y buaswn yn meddwl am ei ddefnyddio i'r pwrpas y'i gwnaed.