CRYNHOAD O HANES gan Iorwerth Jones

YN SGÎL sylwadau Emyr Price (Y Casglwr, rhif 14) ac ymholiadau ar Radio Cymru gofynnwyd i mi sôn am fy nghysylltiad â'r Crynhoad.

Tua Medi 1948, a minnau wedi bod yn weinidog yn Ystalyfera am ddeng mlynedd, y dechreuais deimlo fod angen Digest Cymraeg darllenadwy. Er bod Ystalyfera gyda'r Cymreiciaf o bentrefi Morgannwg, ac er mor swynol iaith lafar yr ardal – deunydd crai storïau Islwyn Williams, a oedd yn ddiacon yn fy eglwys – cymharol ychydig o'r bobl a arferai ddarllen Cymraeg.

Cwynai amryw fod Cymraeg llyfr (a phulpud) yn rhy `ddwfwn'. Gwyddwn mai tebyg oedd y stori mewn rhannau eraill o'r De ymhlith Cymry eithaf rhugl eu parabl, hyd yn oed yng nghefn gwlad.

Yr oedd y Reader's Digest yn anterth ei fri. Mentrodd rhai cyhoeddwyr yn Lloegr roi efelychiadau Seisnig ar y farchnad. Faint ohonoch sy'n cofio'r World Digest, Magazine Digest, English Digest a Synopsis? Heb sôn am yr Irish Digest a gyhoeddid yn Nulyn.

Y rhain, yn enwedig Synopsis, yn hytrach na'r R.D. gwreiddiol (a'u goroesodd i gyd) a blannodd y cwestiwn yn fy mhen: pam na allwn i wneud rhywbeth tuag at hybu efelychiad Cymraeg? Bum am rai misoedd yn cofnodi syniadau am erthyglau a phytiau a materion busnes.

***

YN GYNNAR yn 1949 sgrifennais at dri chwmni adnabyddus o gyhoeddwyr Cymraeg i'w holi a oedd ganddynt ddiddordeb. Un yn unig a gododd i'r abwyd. Gan imi dderbyn atebion hynod garedig oddi wrth y ddau a ofidiai na allent roi ateb cadarnhaol nid oes un diben eu henwi. Y Wasg a ddangosodd barodrwydd i drafod y posibiliadau oedd Gwasg y Brython, Lerpwl.

Gwallus yw'r gosodiad yn erthygl Emyr Price mai 'Hughes a'i Fab, Gwasg y Brython' a gyhoeddodd Y Crynhoad. Hugh Evans a'i Feibion – cyhoeddwyr Y Brython am flynyddoedd, papur wythnosol Cymry Lerpwl – oedd piau Gwasg y Brython. Yr oedd Hugh Evans, sefydlydd y Wasg ac awdur Cwm Eithin, wedi marw yn 1934.

Diau i feibion Hugh Evans, Meirion a Howell, ymateb yn ffafriol am fy mod yn un o hogiau Lerpwl, wedi fy ngeni a'm magu yn ymyl y Wasg, yn Kirkdale. Gallwn weld cefn Gwasg y Brython o lofft -ffrynt fy nghartref.

Yn un o festrïoedd y capel a fynychai'r Evansiaid (Stanley Road, Bootle) y cyfarfyddai Clwb Cyfeillgar Llywelyn, y perthynai nifer da o Gymry'r cylch iddo, a'm tad yn eu plith. Jabez Williams oedd yr ysgrifennydd gweithgar, ewythr Emlyn Williams, y sonia'r actiwr mewn ffordd mor ddifyr amdano yn ei hunangofiant.

Yn fanwl, bodloni i argraffu'r Crynhoad fel job a wnaeth Gwasg y Brython, ar ôl egluro'r ffigurau'n llawn, a minnau druan ŵr – gweinidog ifanc a thri o blant bach ganddo – i'w gyhoeddi a'i olygu. Yr oeddwn yn llawer llai bydol-ddoeth y pryd hwnnw.

Yr oedd yn ddealledig, debyg iawn, pe collid arian y gallwn dynnu allan o'r cytundeb ar fyrder. Trwy drugaredd, yr oedd derbyniadau'r rhifyn cyntaf (Hydref 1949) ychydig bunnoedd yn fwy na chostau argraffu tair mil o gopïau.

Erbyn heddiw fe ymddengys yn syndod y gellid cyhoeddi cylchgrawn 64 tudalen (7¼" x 5") am gyn lleied â deunaw hen geiniog, heb yr un hysbyseb ynddo namyn tudalen i lyfrau Gwasg y Brython. Chwarae teg i'r brodyr, buont yn dyfal geisio hysbysebion gan ryw gant o gwmnïau masnachol, yng Nghymru gan mwyaf, ond prin iawn fu'r ymateb o fyd busnes.

Cafodd y Wasg hyd i rai hysbysebwyr yrhawg i dudalennau ii, iii a iv y clawr. Teirgwaith yn unig y cymerwyd y tri thudalen yn yr un rhifyn – a hynny pan oedd Y Crynhoad ar fin tynnu i ben yn niwedd 1953.

Coleg Harlech fu fwyaf cyson ei gefnogaeth. Un yn unig o Golegau Prifysgol Cymru a hysbysebodd, sef Abertawe. Pum mudiad neu gymdeithas arall a hysbysebodd fwy nag unwaith: Cartrefi Dr Barnardo; y `Royal Liver Friendly Society'. Yr Ymddiriedaeth (sic) Genedlaethol; y Bwrdd Nwy; a'r `Welsh Hospitals Association'.

***

ER MAI argraffu'n unig yr oedd y Wasg mewn enw, buont yn ddiwyd gyda'r gwaith o ddosbarthu. Anfonwyd samplau i bob un o'r 450 o gwsmeriaid a werthai eu Cardiau Nadolig. Gwyddai'r Wasg am bob siop a werthai lyfrau Cymraeg. Anfonwyd y rhan fwyaf o lawer o'r pecynnau cyntaf allan `i'w gwerthu neu i'w dychwelyd'.

Ymhen cryn amser gwelwyd parseli'n dod yn ôl heb eu hagor o rai o'r ardaloedd Cymreiciaf yng Ngwynedd. Yr oedd hyn er gwaethaf adolygiadau gwych o bob cyfeiriad.

"Y mae'n damaid amheuthun dros ben; y mae'n sylweddol heb fod yn drymaidd, ac yn ddigrif heb fod yn ffôl," meddai'r Cambrian News, gyda'r ychwanegiad gobeithiol-ochelgar, "Y mae'n debyg o fyw hyd yn oed yng Nghymru."

Y mae amryw o resymau, mae'n siŵr, pam na fu byw. Cyhoeddwyd pum rhifyn yn 1950. Cadwodd y gwir gylchrediad ei dir, ond ni chynyddodd. Ymsefydlodd y gwerthiant o gwmpas 2200, ac aeth y cylchgrawn yn amhroffidiol. Dyblodd pris papur mewn dwy flynedd. Chwarae teg i frodyr da Gwasg y Brython daliasant at y cyhoeddi, ar eu liwt eu hunain. Gostyngwyd y gylchgrawn i 56 tud., a'i gyhoeddi'n chwarterol.

Cynyddodd y gwerthiant yng Nghaerdydd, Caerfyrddin a Phwllheli, ond gostwng a wnaeth ym Mangor, Caernarfon a Dolgellau. Yr hen Forgannwg oedd y sir orau am werthiant erbyn dechrau 1952 (dros bedwar can copi), Sir Gaernarfon yn ail (tri chant a hanner), gyda Phenfro (25) a Maesyfed (6) ar y gwaelod. Gwerthid llawer mwy yn Lloegr (148) nag ym Môn (91) neu Faldwyn (77). Siâp pethau i ddyfod yn y ddwy etholaeth?

Pe bai Cyngor Llyfrau Cymraeg ar gael i roi cymorth gyda'r dosbarthu a'r cyllid buasai gobaith. Golygydd presennol Y Casglwr a ddywedodd yr adeg honno mai'r dosbarthu fyddai'r broblem fwyaf. Gofynnai cyfanwerthwyr am ddisgownt o 40%, ynghyd â thri chopi ar ddeg y dwsin.

Anfantais ddybryd arall oedd diffyg modd i gydnabod cynorthwywyr a chyfranwyr. Yn naïf ddigon, ond yn gyffredin ddigon yn yr oes honno, ar lafur cariad y dibynnid. Yng ngoleuni profiadau diweddarach synnaf yn ddirfawr fod awduron a chyhoeddwyr Saesneg wedi ymateb mor rasol i geisiadau am ganiatâd i gyfieithu erthyglau, neu ddarnau o lyfrau'n ymwneud â Chymru, pan eglurwyd iddynt nad oedd y cylchrediad yn ein galluogi i dalu hawlfraint.

Talodd un awdur Saesneg poblogaidd y pwyth yn ôl trwy fedyddio gwleidydd gwan mewn nofel ddiweddarach o'r eiddo yn Iorwerth Jones!

***

CEFAIS help gwerthfawr anghyffredin gan Ben T. Jones, ysgrifennydd fy eglwys, yr athro Cymraeg yn Ysgol Ramadeg Ystalyfera a phrifathro wedi hynny. Bu Henry Lewis, Thomas Jones (Aberystwyth) a J.E. Caerwyn Williams yn ddisgyblion iddo. Yr oedd yn ieithegydd rhagorol. Gloywodd dipyn ar fy Nghymraeg Lerpwlaidd. Cyfieithiai'n afieithus o'r Saesneg erthyglau neu ddarnau o lyfrau'n ymwneud â'r bêl gron neu'r bêl hirgron.

Cafwyd peth cymorth gan sawl un heblaw ef. Rhoddai golygyddion cyfnodolion Cymraeg (cyfnewidiem gopïau) ganiatâd brwd yn ddieithriad i geisiadau am adgyhoeddi.

Bu Alun Oldfield-Davies ac Elwyn Evans yn garedig dros ben. Dichon eu bod yn dyner tuag ataf fel meibion gweinidogion Annibynnol! Cefais bob rhwyddineb am gryn ddwy flynedd i wneud defnydd o sgyrsiau radio. Sychodd y ffynhonnell helaeth hon i fesur yn nechrau 1952 pan ddechreuwyd cyhoeddi Llafar o dan olygyddiaeth Aneirin Talfan.

Teflid y rhwyd mor eang ag y gellid am erthyglau a phytiau. Gwelodd Emyr Price arwyddocâd hanesyddol yn y rhifyn y bu ef yn pori ynddo ac y bu mor hael ei glod iddo. Gwir mai'r bwriad pennaf oedd cyflwyno darlun mor lliwgar ag oedd yn bosibl o fywyd Cymru, ond nid oedd ymgais ymwybodol i adlewyrchu tyndrâu'r dydd.

Yn naturiol, parai'r slant golygyddol – a'r deunydd wrth law – nad oedd llawer o le i bwyslais yr adain dde. Ond teimlwn na fuasai canolbwyntio'n ormodol ar bynciau gwleidyddol yn lles. Yr amcan oedd darparu pryd Cymreig mor flasus ac amryfath ag y medrid ymhob rhifyn. Nid awn o'r ffordd chwaith i gynnwys stwff dadleuol.

Tua diwedd 1951 fe'm gwahoddwyd gan Undeb yr Annibynwyr i olygu'r Dysgedydd, misolyn yr enwad. Siarsiwyd fi gan gyn-gyd-fyfyriwr siriol a oedd wedi arbenigo mewn addysg grefyddol, John Wyn Roberts, (Nebo), i beidio ar unrhyw gyfrif â rhoi'r gorau i'r Crynhoad er mwyn cymryd at gylchgrawn enwadol! Gwerthfawrogwn ei garedigrwydd, ond gwneuthum y dewis iawn, er na freuddwydiwn ar y pryd yr arweiniai hynny i ddeng mlynedd ar hugain o gysylltiad di-dor ag adran gyhoeddi'r Annibynwyr, Tŷ John Penry.

Fy nghyfaill agos, R. Leonard Hugh, sefydlydd Urdd Siarad Cymraeg, a fu'n gyd-gyfrifol â mi am olygu'r pedwar rhifyn o'r Crynhoad a gyhoeddwyd yn 1952. Wrth reswm, ni allwn i'n bersonol barhau i fod â'm bys ym mrywas y ddau gylchgrawn.

Dewi ac Olwen Samuel, Glyn Ebwy, a olygodd y pedwar rhifyn a gyhoeddwyd rhwng dechrau 1953 a dechrau 1954. Sgwrs radio ganddi hi (ar y geiriau Cymraeg yn nhafodiaith Saesneg 'Sir Fynwy') oedd un o'r darnau mwyaf cofiadwy yn rhifyn cyntaf oll Y Crynhoad. Bu'r ddau o'r cychwyn yn ddosbarthwyr egnïol yng Ngorllewin Gwent.

Erbyn dechrau 1954 yr oedd y costau cynyddol, heb gynnydd cyfatebol yn y cylchrediad, wedi ei gwneud yn amhosibl i Wasg y Brython barhau i gyhoeddi'r Crynhoad, a rhifyn cyntaf y flwyddyn honno, deunawfed rhifyn y gyfres, oedd yr olaf.