ANTURIAETHAU'R GYMRAES gan Ceridwen Lloyd Morgan
DYMA restr o ysgrifau a ymddangosodd yn y rhifyn cyntaf o gylchgrawn i ferched: addysg i ferched – ai dymunol dewis diaconesau yn yr eglwysi – gwragedd yn yfed – gwragedd yn ysmygu – priodi ynte peidio. Ym mha gylchgrawn y cafwyd trafodaeth ar y pynciau llosg, cyfoes hyn? Yn Pais? Spare Rib? Na, yn Y Gymraes, ym 1896.
Tueddwn weithiau i feddwl am ferched diwedd oes Fictoria yn ôl ystrydebau llenyddiaeth y cyfnod. Yno cawn y 'fam Gvmraeg' yn ei hanterth, yn ddedwydd ar ei haelwyd, boed hwnnw'n dŷ parchus, dosbarth canol, neu'n fwthyn wedi ei wyngalchu. Ond dengys Y Gymraes, a gyhoeddwyd o Hydref 1896 ymlaen, nad hon oedd yr unig ddelwedd.
Bu Cymraes arall cyn hynny, sef cylchgrawn byrhoedlog Ieuan Gwynedd, a sefydlwyd ym 1850 ond a ymunodd a'r Tywysydd y flwyddyn ddilynol. Ceridwen Peris oedd golygydd yr ail Gymraes a bu ei menter yn dra llwyddiannus. 'Cyhoeddiad misol darluniadol i Ferched Cymru' oedd hwn i fod, a gofalodd Ceridwen Peris amdano tan 1919. Aeth Y Gymraes ymlaen, yng ngofal Mair Ogwen B.A. tan y tridegau.
Er y sicrhawyd addysg elfennol i bawb erbyn cyfnod y cylchgrawn hwn, mae'n debyg mai merched y dosbarth canol oedd ei ddarllenwyr ar y cyfan. Ceiniog oedd y pris, ond go brin y gallai gwraig i dyddynnwr, er enghraifft, fforddio ei brynu bob mis, heb sôn am gael hamdden i'w ddarllen.
At ferched Gogledd Cymru yr anelai Ceridwen Peris yn bennaf, oherwydd yr oedd gan ferched y De eu cylchgrawn hwy er 1879, sef Y Frythones, dan olygyddiaeth Cranogwen.
***
ELENI digwyddais brynu cyfrol ail-law, yn cynnwys rhifynnau 1912-1913 o'r Gymraes ac wrth i mi bori trwy'r rhain ac wedyn trwy'r cyfrolau cynharach, fe'm syfrdanwyd gan yr agwedd fodern a'r drafodaeth fywiog ar broblemau sy'n dal i'n poeni heddiw.
Ar y cyfan ceir yma, mae'n wir, ysgrifau sy'n adlewyrchu'r ddelwedd Fictoraidd o'r ferch ifanc, landeg, bur neu o'r fam addfwyn ddoeth a chrefyddol.
Bu'r Gymraes, yn union fel Y Frythones, yn lladmerydd brwdfrydig i Undeb Dirwestol Y Merched, ac nid anaml y cynhwysai erthygl ar 'genhadaeth merch' neu `bod yn bur', 'Mair fel mam rinweddol', neu 'teyrnas merch yw yr aelwyd'. Broliai'r olygyddes 'fod gwersi Y Gymraes yn rhai pur, a'u bod yn sicr o ddylanwadu yn dda ar yr ieuainc'. Ond er mor barod yr oedd hi, ar un olwg, i amddiffyn y status quo yn aml ceir yma hefyd safbwynt gwahanol.
Yn rhifyn 1918 cyhoeddodd ysgrifau ar oblygiadau ennill y bleidlais i ferched, ar amodau'r bleidlais, safle merch yn y llywodraeth ac yn y blaen, a phwysleisiodd yr her a'r cyfrifoldeb a olygai'r orchest honno. Credaf y bu'r Gymraes yn gyfrwng pwysig iawn i ledaenu gwybodaeth am hawliau a statws y ferch.
Cyfraniad arbennig arall oedd y gyfres ar swyddi merched ac eto honno ar ferched enwog, lle gosodwyd siamplau cig a gwaed o ferched llwyddiannus a phenderfynol ger bron y darllenydd. Cafwyd portreadau o rai a enillodd eu plwyf, nid yn unig awduron a 'gweithwyr cymdeithasol' ond hefyd o'r wyddones Mary Somerville a'r seryddwraig o'r Almaen, Caroline Herschel.
Ac i ddangos unwaith ac am byth nad oedd Y Gymraes yn blwyfol nac yn gul, nid oes raid enwi dim ond un erthygl, sef yr un ar Josephine Butler, lle mae'r awdures yn ddi-ofn ymaflyd â phwnc mor sensitif â hawliau puteiniaid.
Nid wyf am awgrymu mai nain Gymraeg i gylchgronau'r 'hawliau merched' oedd Y Gymraes. Go brin y bu bob un o'i darllenwyr yn ffeminist neu'n radical, ond ni chafodd yr Ysgol Sul a'r mudiad dirwest fonopoli yn ei thudalennau. A rhwng y pregethu a'r moeswersi ar un ochr, a'r drafodaeth ddewr ar annhegwch safle'r ferch ar y llall, ceir hefyd ysgrifau o gyngor hollol ymarferol i wraig tŷ.
Ond diddorol yw sylweddoli nad oes yma dudalennau ffasiwn, na sôn am goluro; ofer edrych am eich horosgob. Ymdrechai i ehangu gorwelion y darllenydd ac i ddarparu defnydd y gellid cnoi cil arno.
0 1919 ymlaen trodd Y Gymraes, yn nwylo Mair Ogwen, i gyfeiriad mwy ceidwadol.
Ond y mae Cymraes Ceridwen Peris yn wahanol iawn i'r cylchgronau Saesneg arwynebol a ddarllenir gan filoedd o ferched yng Nghymru heddiw, ac y mae Pais hefyd yn ddof iawn wrth ei hymyl. Ymdrechodd yr olygyddes i blesio'r parchus ond ni ofnai herio rhai o ragfarnau ei dydd.