Y CYNNIG HAEL - Y Golygydd

PETHAU byr eu parhad, neu na fwriadwyd iddynt fod tros byth yw effemera. I gasglwyr gall y gair olygu manion a oedd yn ddefnyddiol ar y pryd - taflenni printiedig, fel enghraifft.

Y mae gan y Dr E.D. Jones, gasgliad o effemera, neu waith printiedig o waith Gwasg Gregynog. Yn hanes y wasg fe brintiwyd nifer o'r defnyddiau tymhorol yma, a rhoddwyd yr un gofal i'w pryd a'u gwedd ag a roddid i gyfrolau'r Wasg, ac fe'u rhestrwyd. Erbyn hyn, wrth gwrs, maent i gyd yn eithriadol o brin, ac yn anodd iawn, iawn gosod pris arnynt, gan nad ydynt yn bethau a welwyd ar werth. Digon yw dweud eu bod yn gasgladwy a gwerthfawr iawn.

Golyga Dr E.D. Jones eu gwerthu a chyflwyno'r arian i Gymdeithas Bob Owen, a chytunodd mai'r ffordd ddoethaf fuasai eu gosod ar ocsiwn yn gyhoeddus ar ddydd Iau yn y Brifwyl yn Abertawe. Ceir manylion llawn o'r cynnig anarferol o hael hwn yn nau rifyn nesaf y Casglwr. Gweler Tud. 3.

PENTYMOR

Gydag Ysgrifennydd a Chasglwr Hysbysebion Taledig Y Casglwr yn ffarwelio a'u swydd, ond nid a'u mawr ddiddordeb yn y Gymdeithas, ar derfyn y flwyddyn hon dyma geisio hoelio eich sylw ar hynny yma ac ymhelaethu a manylu ar yr ail dudalen. Ond os ydych mewn dyled fe fedrwch barhau i glirio'r biliau trwy'r hen Ysgrifennydd neu'r newydd yn ôl eich dymuniad - a'r un modd gyda'ch tanysgrifiadau ar gyfer y flwyddyn newydd. Os ydych yn talu gydag Archeb Banc ni raid i chi godi bys - fe ofala'r banc fod popeth yn dda, ac yr ydym ninnau wedi gofalu nad yw'r tâl wedi codi. Ac, ynglŷn â'r hysbysebion, cofier y medr darllenwyr Y Casglwr hysbysebu am ddim am bethau sydd ganddynt i'w gwerthu neu bethau y maent am eu sicrhau.