Y CYNFELYN FFRAETH gan M.Euronwy James
Thomas Cynfelyn Benjamin 1850-1922 |
I RYWUN sydd â diddordeb yn hanes ei ardal, gall gweithiau bardd lleol fod yn werthfawr, er i arwyddocâd llawn rhai o'r penillion a gyfansoddodd fynd i golli gydag amser. Un bardd gwlad toreithiog ar droad y ganrif hon oedd y Parch. Thomas Cynfelyn Benjamin. Ymddangosodd llawer o'i weithiau ym mhapurau a chylchgronau Cymru a'r Amerig; rhai ohonynt o dan yr enw 'Creiglyn'. Ceir rhestr o'i lyfrynnau yn Llyfryddiaeth Ceredigion 1600-1964 gan Glyn Lewis Jones.
Y cynharaf ohonynt oedd Caniadau Byrion (1896). Ynddo ceir caneuon am ddyffryn Rheidol. Yno y maged Cynfelyn gan ei fodryb wedi iddo gael ei adael yn amddifad. Pan oedd tuag ugain oed aeth yn löwr, fel ei dad o'i flaen, gan fyw yn y Gilfach Goch; ond collodd ei wraig yn ifanc, ac ymfudodd i'r Amerig, lle'r ordeiniwyd ef yn weinidog. Y gân gyntaf yn y gyfrol yw 'Ar y môr o'r Amerig'; ond nid oes sôn am fywyd yn yr Amerig, nac am Dde Cymru ychwaith, yn y gyfrol hon.
Wedi dychwelyd i Gymru yn 1896, bu'n weinidog yn Nhalgarreg. Yn ystod ei arhosiad yno cyhoeddwyd Pelydrau Ceredigion, Myfyrion yr Hwyr, a Cherddi Pisgah (Pencader; 1901). (Nid yw'r olaf yn y Llyfryddiaeth). Moeswersi digon difyr yw llawer o'r caneuon hyn, gyda rhai marwnadau o ddiddordeb lleol. Cyhoeddwyd yn gynharach Marwnad am y diweddar Mr. William Rees, Beechwood, Llanarth (Buddugol yn eisteddfod Llanarth, 1900) gan T. Cynfelyn Benjamin (Caerfyrddin; – ). Yn anffodus, y dudalen deitl yn unig yr wyf wedi ei gweld. Ys gwn i a oes copi o'r farwnad ar gael yn rhywle? Mae'n ddigon posibl ei bod yn un o lawysgrifau Cynfelyn sydd ar gadw yn y Llyfrgell Genedlaethol, ond gorchwyl digon diflas fyddai ceisio dod o hyd iddi, gan fod ei ysgrifen mor wael.
Wrth ddarllen ei lawysgrifau, deuir i'r casgliad ei fod o gymeriad cymhleth iawn, a cheir llawer o hanesion amdano ar lafar, o hyd. Yr oedd ganddo feddwl cyflym a miniog, a byrlymai'n ddi-ball. Digiodd rhai o aelodau blaenllaw ei eglwys wrtho oherwydd ei ffraethineb.
Wedi iddo ymddiswyddo yn 1905, aeth i Rydlewis i fyw. Ac yn fuan wedi mudo, cyhoeddwyd Odlau'r Awelon, a'i lond o benillion dychanol am drigolion yr ardal yr oedd newydd ei gadael, gyda'r addewid am lyfr arall – Gwreichion Athrylith – i ddilyn. Ond ni chredir i'r olaf weld golau dydd.
Cyhoeddai'r llyfrau ar ei draul ei hun, gan fynd o amgylch i'w gwerthu am chwe cheiniog y copi. Nid oedd ganddo'r modd i dalu am argraffu rhagor o'i ganeuon; ddim hyd yn oed gyda chymorth y trigain a rhagor o siopwyr a chrefftwyr lleol a hysbysebai eu nwyddau a'u gwasanaeth yn ei lyfrau.
Yn The Bookman, 1917, LIII, mewn erthygl ar 'Caradog Evans', cyfeiria Edward Wright at Gynfelyn Benjamin, gan ddweud amdano, "He became the most famous of Welsh satirists ... Caradog Evans, from childhood, sat at the feet of the mendicant poet who used to come to his mother's house for milk, butter and other food, and declaim the latest of his works. The boy clearly caught the satirist's spirit . . ."
Wn i ddim faint o goel sydd ar hyn, oherwydd yr oedd Caradog yn ddwy ar bymtheg oed pan ddychwelodd Cynfelyn o'r Amerig ac yn chwech ar hugain pan aeth i Rydlewis i fyw. Ond efallai i Gynfelyn ddylanwadu rhywfaint ar Garadog. Fel y dywedodd D. Pryse Williams (Brythonydd), "Ni welais erioed ei gystal fel carreg hogi i ddyn arall.
***
Y MWYAF diddorol o'i weithiau y gwn i amdano yw'r copi sydd yn llyfrgell Coleg y Brifysgol yn Aberystwyth, o Cymru, sef Pryddest Goronog Eisteddfod Eglwys Dewi Sant, Llundain . . .1900 gan Cynfelyn (Caerfyrddin). Y tu mewn i glawr y copi hwn gludiwyd llythyr yn llaw Cynfelyn:
Pisgah,Talgareg,
Llandysul,
Mawrth 1af, 1901.
Proff. John Rhys etc. Anwyl Frawd,
Yr wyf yn amgáu copi o'm Pryddest ar "Gymru" i chwi, ac ar yr un pryd, yr wyf yn dymuno
gofyn i chwi am gynhorthwy i ddwyn allan fy Mhryddest ar y diweddar Barchedig T.C.
Edwards, D. D., Bala. Nid yw fy amgylchiadau yn fforddio i mi dalu am ei hargraffu heb ofyn
am gymorth. Un o'ch disgyblion chwi yn Hen Ysgoldy fach Penllwyn ydwyf. Cefais y fraint o
adolygu llyfr bach barddonol eich tad yn America. Cofion cynhes,
Yr eiddoch yn bur, T. Cynfelyn Benjamin.
Ni ddywedir a dderbyniodd ateb ai peidio. Diddorol yw deall fod Huw Rees, tad Syr John Rhys, hefyd yn prydyddu. A ŵyr rhywun rywbeth am ei lyfryn o farddoniaeth?