TRWY DWLL BACH Y CLO ~ Meredydd Evans yn sbecian
UN O'R cerddi a ddysgais ar yr aelwyd gartref ac yn y gymdeithas o'm hamgylch, pan oeddwn fachgen yn Nhanygrisiau, oedd TWLL BACH Y CLO, ac arferai fy mam ei chanu gyda chytgan ar ôl pob pennill, gan ofalu hefyd canu'r pennill olaf. Dychwelaf at y pwyntiau hyn yn nes ymlaen. Yn y cyfamser y mae'n werth sylwi nad oedd J. Lloyd Williams yn hollol dawel ei feddwl ynglŷn â'i chynnwys ymhlith ein caneuon gwerin. Dengys hyn ei ragoriaeth fel golygydd oherwydd gŵr oedd ef a fynnai drin ei fater yn wyddonol, wrthrychol. Ond ei chyhoeddi a wnaeth, a hynny yng nghyfrol 4, Rhif 1, o Gylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru.
Daeth y fersiwn arbennig a gyhoeddwyd yno oddi wrth Ifan ab Owen Edwards a thebyg iddi gael ei nodi ym Meirionnydd. Ond y mae'n amlwg y gwyddai J. Lloyd Williams am fersiwn arall, wahanol o Arfon, a genid, meddai, ar y dôn Seisnig 'Ring the bells Watchman', a dichon mai hyn a barodd iddo betruso rhag ei chyflwyno fel alaw werin. Ofnai weld cynnwys alaw a gyfansoddwyd gan gyfansoddwr gweddol ddiweddar ymhlith corff yr alawon gwerin.
Beth a dorrodd y ddadl iddo? Dyma frawddeg agoriadol y nodyn eglurhaol a gynhwysodd yn y Cylchgrawn:
- I hesitated about including this song in the Journal, but finally decided
that its popularity, in N. Wales especially, having made it truly
traditional, there ought to be a record of it.
Sylwer ar y maen prawf – 'roedd ei phoblogrwydd wedi ei gwneud yn draddodiadol.
Ond diamau bod rhagor mewn golwg gan J. Lloyd Williams na phoblogrwydd y gân fel y cyfryw, hynny yw, poblogrwydd dros ryw un cyfnod penodedig. Nodwedd arall, ac ychwanegol, ar boblogrwydd cân i'r golygydd cydwybodol hwn oedd y ffaith ei bod yn cael ei throsglwyddo ar lafar, o un genhedlaeth i'r llall. Dyma galon y mater.
Mynnai rhai ardaloedd ei chadw o gyfnod i gyfnod a hon oedd y ffactor 'draddodiadol' allweddol. Y mae'n werth pwysleisio hyn rhag inni gymysgu'n rhy rwydd rhwng cân werin a chân boblogaidd. Fel y gwyddom yn well heddiw nag erioed, o bosib, gall cân fod yn eithriadol o boblogaidd am ychydig wythnosau yn unig ac yna fynd mor farw â hoel; a da hynny, ar lawer cyfrif!
Byr eu hoedl, ar y gorau, yw campweithiau y siartiau. Ond efallai y bydd rhai ohonynt fyw ymhell wedi i'w hawduron a'u cyfansoddwyr ddiflannu o olwg y cyhoedd ac y bydd rhieni fory yn eu canu i'w plant, a'r rheini yn eu tro, yn eu cyflwyno i'w plant hwythau. Dyna'r gadwyn geidwadol ac fel dolen yn honno y gwelai J. Lloyd Williams TWLL BACH Y CLO.
***
SYLWN yn gyntaf ar yr alaw. Mae'n amlwg nad oedd E.T. Davies yn gwybod am ei tharddiad ond teimlai ef yn sicr bod naws Gymreig iddi: "I suggest", meddai yn y Cylchgrawn, "that this is derived from a Scotch, or possibly an Irish tune". 'Roedd yn weddol agos i'w le. Gwelsom i J. Lloyd Williams gyfeirio at fersiwn Arfon fel cân Seisnig; nid oedd yntau, 'Chwaith, ymhell o daro deuddeg.
Ond nid ym Mhrydain y cychwynnodd ar ei thaith. Alaw a gyfansoddwyd gan un o gyfansoddwyr poblogaidd America yn y ganrif ddiwethaf yw hi, gŵr o'r enw Henry Clay Work (1832-84). Daeth ei ganeuon yn boblogaidd iawn yn ystod Rhyfel Cartref yr Unol Daleithiau, dwy ohonynt yn neilltuol felly, sef 'Wake Nicodemus' a 'Marching through Georgia'.
Ef hefyd a gyfansoddodd 'My Grandfather's Clock', ac un gân sentimental arall a ddaeth i fri mawr gyda'r Mudiad Dirwest yng Nghymru o dan y teitl 'Dewch Adref fy Nhad'. Mynyddog a gyfieithodd eiriau honno i'r Gymraeg a chyhoeddwyd y gân gyfan yn 'Ceinion y Gân', casgliad o ganeuon a oedd mor amlwg, bron, ar silffoedd ein cyndadau â Songs of Wales, Brinley Richards.
Eithr mewn casgliad bach arall y cyhoeddwyd Ring the bells Watchman yng Nghymru, am y tro cyntaf, a hynny dan y teitl 'Clywch y floedd fechgyn'. Casgliad mewn pedwar rhifyn oedd hwnnw, a gyhoeddwyd gan E. Ylltyr Williams ac a alwyd ganddo yn 'Caneuon y Bobl'. Hyd y gwelaf, Ylltyr Williams ei hun a gyfansoddodd y geiriau 'Clywch y floedd fechgyn' ond y mae'n gofalu nodi, yn ddigon clir, o b'le y cafodd yr alaw. Dyma fel y cyfeirir at y ffynhonell: 'Musical Bouquet, No. 3936', ac nid oedd y gân arbennig hon ond un o gyfres enfawr o ganeuon poblogaidd Seisnig a gyhoeddid, bob yn daflen, gan C. Sheard, Musical Bouquet Office, 192 High Holborn, Llundain.
Wedi gweld y cyfeiriad hwn anfonais am gopi o'r rhifyn perthnasol at Yr Amgueddfa Brydeinig a derbyniais un gyda'r troad. O'i ystyried daeth yn amlwg nad cyfieithu geiriau Work a wnaeth Ylltyr Williams ond, serch hynny, fe gadwodd yn eithaf agos at naws y geiriau gwreiddiol. Cadwodd yn ffyddlon, yn ogystal, at ffurf y gân wreiddiol gan ofalu cynnwys y cytgan. Wele un pennill:
- Fry, fry yn uchel, anrhydedd a bri
Floeddiant yn wastad "Pwy ddaw atom ni?"
Yma mae'r parch a'r gogoniant i gyd,
Dringwch, dringwch i'r fan hyn drigolion y byd: Cytgan:
Clywch y floedd fechgyn! Clywch, clywch, clywch,
Fry, fry ymddyrchwn yn uwch ac yn uwch,
Fry mae doethineb yn galw ar g'oedd,
Fry mae coron anfarwoldeb, clywch, clywch y floedd.
***
DYWEDAIS ar gychwyn hyn o lith y byddai fy mam yn ddieithriad yn canu TWLL BACH Y CLO gan ychwanegu cytgan at bob pennill a hwnnw'n un pur anghyffredin, nad oedd i'w gael gyda'r geiriau gwreiddiol, fel y cawn weld yn nes ymlaen. Dyma'r cytgan hwnnw:
- Clywch y gân ferched, clywch, clywch, clywch,
Mae'r cathod yn mewian yn uwch ac yn uwch,
Mae cŵn y drws nesa' yn myned o'u co,
A Huwcyn bach yn sbecian trwy dwll bach y clo.
Mae'n debygol mai ar ffurf geiriau Ylltyr Williams y seiliwyd y cytgan cathod-a-chŵn hwn ond sut ar wyneb daear y daeth y creaduriaid hyn i mewn i'r gan? Nid yw'n beth anghyffredin mewn canu gwerin i weld cymysgu un gân ag un arall a dyna, mae'n ddiamau a ddigwyddodd yn yr achos hwn. Ond pa gân arall?
Bu hyn yn ddirgelwch i mi am hir hyd nes i gyfeilles imi o'r hen ardal, Menna Williams, fy ngosod ar ben y ffordd. Bûm yn sôn am y gân mewn rhaglen radio rywbryd, gan gyfeirio at y cytgan hwn, a'i ganu mae'n debyg. Ymhen deuddydd neu dri cefais lythyr oddi wrth Menna yn cynnwys y wybodaeth hon:
- Os dalltis i'n iawn, 'roeddech yn deud bod eich mam yn arfer canu fersiwn
â chytgan iddi a hwnnw'n crybwyll am gathod. 'Roeddwn innau'n gyfarwydd
â'r alaw, a'r geiriau fyddai 'nhad yn ganu pan o'n i'n hogan bach oedd –
- Bu farw cath Modryb,
Bu farw cath Gwen,
Bu farw'n cath ninnau
Dan gur yn ei phen;
Mae cath yn tŷ nesa'
Yn wael o'r un clwy,
Mae melltith wedi dyfod
Ar gathod y plwy.
- A dyna'r cyfan, heb gytgan. Ond tybed a oedd y pennill hwn yn rhan o'r un
gân ag eiddo'ch mam? 'Roedd fy nhad yn ddeg oed pan ddaeth y teulu i Stiniog
o Harlech a chan ei fam mae'n debyg y byddai yntau wedi dysgu'r geiriau, ac
efallai bod 'na fersiwn am anifeiliaid yn perthyn i arfordir Sir Feirionnydd.
Yrŵan, nid oedd y pennill hwn yn rhan o'r gân a ganai fy mam; penillion arferol Twll Bach y Clo a ganai hi, ond y mae'r wybodaeth yn llythyr Menna yn dra awgrymog. Tybed nad oedd cytgan efo'r pennill uchod gan rywun yn rhywle? Byddai'n naturiol i ganu cytgan y cathod-a'r-cŵn gyda hwnnw, ac wedi i hwnnw ddod i fod ni fyddai'n broses mor anghyffredin â hynny iddo'i ddatgysylltu ei hun oddi wrth yr hen bennill gwerin a chael ei hun yn ddiweddarach yn rhan o saga Huwcyn a thwll bach y clo.
Pethau felly sy'n digwydd, fel y dywedais, ym myd canu gwerin.
***
BETH, bellach, am eiriau Twll Bach y Clo fel y cyfryw? Pwy a'u cyfansoddodd nhw? Fy nghyfaill Roy Saer, o Amgueddfa Werin Cymru, a'm gosododd ar drywydd yr awdur. John Williams (1811-91), neu 'Glanmor', oedd hwnnw, athro ysgol, clerigwr a hynafiaethydd a anwyd yn Y Foryd ger y Rhyl. Ceir nodyn arno yn Y Bywgraffiadur Cymreig gan Frank Price Jones a dyry ef le anrhydeddus iddo fel hanesydd tref Dinbych. Bu'n barddoni cryn dipyn yn y mesurau caeth a rhydd a chyhoeddodd un gyfrol o'i gynnyrch yn 1865. Yno, yn Gwaith Glanmor, y cynhwyswyd Twll Bach y Clo am y tro cyntaf, a dyma'r manylion llawn am y gyfrol honno – y byddai'n dda gennyf gael gafael arni! A oes rhywun yn gwrando tybed?
- Gwaith Glanmor: yn cynnwys: Hanes Cerddoriaeth Gyssegredig, yn cael ei
egluro a thonau a darluniau: yn gyda Chaniadau Amrywiaethol Cymreig,&.',&.,
John Williams (Glanmor) M.R.C.P. Awdwr "Ancient and Modern Denbigh",&.
Gwrecsam. Argraphwyd gan R.Hughes a'i Fab, Heol Estyn.
Ni wn ai ar gyfer alaw Henry Clay Work y cyfansoddwyd y geiriau gan Glanmor. Efallai nad felly y bu oherwydd ni chynhwysodd gytgan o unrhyw fath. Ond os mai dyna'r gwir pwy, tybed, a feddyliodd am eu canu ar yr alaw arbennig honno? Pwy bynnag oedd y brawd hwnnw, gwnaeth ei ran mewn cadw inni gerdd Gymraeg wirioneddol ddigrif.
Dyma'r geiriau fel yr argraffwyd nhw yng nghyfrol Glanmor, heb gytgan, ond yn cynnwys y pennill olaf allweddol nad argraffwyd mohono, am ryw reswm, yn fersiwn y Cylchgrawn. Nis ceir mohono chwaith mewn rhai argraffiadau eraill, er y gwelaf iddo gael ei gynnwys yn 'Forty Welsh Traditional Tunes'. Ond heb y pennill hwn y mae'r gerdd yn colli llawer o'i grym; dyma'i huchafbwynt, a gofalai fy mam i'w gynnwys bob amser:
- 'R oedd cap-nos o eira ar goryn pob bryn,
Y rhew wedi gwydro pob ffos-ddw'r a llyn,
'R oedd Gweno'n gweu 'sanau wrth oleu tân glo,
A Huwcyn yn gweled drwy dwll bach y clo. Y gath oedd yn cysgu yn dorch ar ei mat,
A'r tad yn pesychu wrth sugno ei gat,
Y fam oedd yn ffraeo, fel dynes o'i cho',
A Huwcyn yn clywed drwy dwll bach y clo. Yr hen wraig yn synnu fod Gweno, mewn gwangc,
Mor wirion a charu rhyw leban o langc,
A Huwcyn yn gwybod mai hwnnw oedd o,
A'i galon yn crynu wrth dwll bach y clo. Y tad aeth i'w wely i'r llofft oedd uwch ben,
A'r fam roes agoriad y drws dan ei phen,
Ond Gweno arosod i huddo'r tân glo
A disgwyl am lythyr drwy dwll bach y clo. 'R oedd cwyn y dylluan fel bwgan mewn coed,
A'r ei bach yn cyfarth wrth glywed sŵn troed,
A Huwcyn yn diangc fel lleidyr ar ffo,
'R ôl d'weyd gair yn ddistaw drwy dwll bach y clo. Cyn pen y ddwy flynedd 'r oedd Gwen Jones yn wraig,
A Huw Jones yn hwsmon i Ffowcs, Tan-y-graig,
A chanddynt un plentyn, y clysa'n y fro,
Ac arno'n faen-geni lun twll bach y clo.