MANION ~ Brynley F.Roberts yn hela

YR OEDD yn ddiddorol darllen yn rhifyn diwethaf Y Casglwr sylwadau Robin Williams am ei gopi cain o Astudiaethau T. Gwynn Jones. Yn fy nghopi o'r un argraffiad o Beirniadaeth a Myfyrdod (1935) y mae deg o ddail octavo rhyddion, papur hynod denau ond er hynny gyda dyfrnod 'Extra Strong', a'r tudalennau wedi'u rhifo o 105 hyd 115. Arnynt argraffwyd trosiad Saesneg, gan yr awdur mae'n siŵr gennyf, o ysgrif Gymraeg T. Gwynn Jones ar Richard Ellis a gyhoeddwyd yn Cymeriadau yn 1933, tudalennau 105-116. Nid oes enw argraffydd arno nac unrhyw fath o 'imprint'.

Credaf, er na allaf gofio ar ba sail, mai ar gais teulu Richard Ellis y paratowyd y cyfieithiad, ond ni wn a geir ef mewn ffurf fwy diogel a pharhaol nag yn y casgliad o ddail rhyddion. Ni wn ychwaith a roddwyd cylchrediad ehangach iddo neu ai ymysg cyfeillion yr awdur yn unig yr oedd ar gael.

Fel y cofir, ysgrifennai T. Gwynn Jones mewn arddull Gymraeg lenyddol gyfewin, a mesur ei gamp yn y fersiwn Saesneg yw nad oes ôl cyfieithu arno. Y mae mor Seisnig goeth ag yw'r gwreiddiol yn Gymreigaidd fel y byddai astudio'r ddwy ffurf ochr yn ochr yn dysgu'r efrydydd gryn dipyn am grefft cyfieithu o'r naill iaith i'r llall.

***

LLAI chwaethus o dipyn yw gwedd trosiad arall o ysgrif gofiannol gan awdur gwahanol iawn i T. Gwynn Jones. Yn Y Llenor, XXIV, 1 a 2, Gwanwyn-Haf 1945 yr ymddangosodd ysgrif bortread R.T. Jenkins "Siop John lfans". Llwyddodd yr awdur, gyda'r ddawn honno a oedd ganddo i rannu'i ddiddordeb mewn pobl a'i ddarllenwyr, i wneud John Evans y llyfrwerthwr archdeipaidd sydd mor hoff gan gasglwyr sôn yn rhamantus amdanynt ac sy'n prysur ddiflannu o'r tir erbyn hyn.

Diau fod lle cynnes gan bob llyfrbryf i'r ysgrif garedig a dynol hon, fel i bob un debyg iddi megis honno gan Gomer Roberts am Siop Ralph gynt, ac odid na rannwn y chwithdod sy'n nodweddu portread R.T. Jenkins gan fod mwy na siop John Evans wedi'i golli o Gaerdydd ac o Gymru erbyn hyn.

Dilynwyd ef yn ei siop newydd' yn y Queen's Street Arcade gan y Celtic Book Co., ac ar eu cais hwy lluniodd R.T. Jenkins fersiwn Saesneg, "John Evans's", o'i ysgrif Gymraeg. Dwy ddalen blyg ydyw gyda llun John Evans a'i siop ar y 'clawr', ac enw'r cyhoeddwr a'r argraffydd, Celtic' Book Co., 5 Queen's Arcade, Cardiff, Priory Press Ltd., The Friary, Cardiff. Nid oes dyddiad wrtho.

Dichon mai ffurf ar hysbyseb oedd y cyhoeddiad ond yr oedd y bwriad yn glodwiw, oblegid tu mewn ceir tamaid o bapur yn egluro'r gobaith:

Tybed a ydyw'r rhy hwyr i wireddu'r gobaith a chael cyfres o ysgrifau am yr hen siopau a oedd â chymeriad iddynt ac am eu perchnogion, cyn i'r cof amdanynt gilio'n llwyr?

***

DRO'N ôl yn Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, XXI, 2, Gaeaf, 1978, cafwyd ymdriniaeth ddiddorol â bywyd a gwaith yr athrylith ryfedd honno Timothy Lewis. Mae'r awdur, Mr. Beynon Davies, yn sôn am yrfa academaidd ddisglair a chyhoeddiadau'r 'robin-y-gyrrwr o ysgolhaig na allai ac na fynnai dderbyn llawer o syniadau a damcaniaethau sylfaenol yr ysgolheigion' a oedd yn olyniaeth Syr John Rhŷs.

Anghytunai'n ffyrnig ag uniongrededd ysgolheictod diweddar Cymru a chas oedd ganddo bob arwydd o'r ddysg a darddai o 'ysgol' John Rhŷs ac a ffrydiai i Gymru trwy weithgarwch Syr John Morris-Jones a Syr lfor Williams.

Arall oedd ei fagwraeth academaidd ef oblegid o'r tu allan i Gymru a Rhydychen yr enillodd ef ei ddysg Geltaidd, a gwŷr megis Kuno Meyer a John Strachan, ysgolheigion tramor megis Zimmer a Thurneysen, oedd ei athrawon. Ac er mai gyda Thomas Powel yng Nghaerdydd y gwnaeth ei radd, ni fuasai'r gŵr hynaws hwnnw'n ddisgybl i Rhŷs yn Rhydychen.

Wrth ymwrthod â dulliau 'ysgol Rhŷs' a chael esboniadau Ifor Williams ar yr Hengerdd a'r chwedlau'n annerbyniol, câi Timothy Lewis ei dynnu fwyfwy at wŷr anuniongred eraill megis Gwenogvryn Evans ac A.W. Wade-Evans ac ymroes i lunio'i ddamcaniaethau hedegog ei hun (ond er hynny a ddangosai lawer o ôl darllen). Gwelir erthyglau ganddo mewn nifer o gylchgronau o bob math ac mewn dwy gyfrol a gyhoeddodd ef ei hun yng Ngwasg y Fwynant, sef Beirdd a Bardd-rin Cymru Fu, 1929, a Mabinogi Cymru, 1931.

Ond cyhoeddodd hefyd ambell fonograff i ddadlau'i safbwynt ac i 'gywiro' camddehongliadau 'ysgol' Rhŷs. Ni wn faint o'r trafodaethau dyblygedig hyn ar bapur melyn llachar a gafwyd ond dyma'r rhai a welais:

sef ymateb beirniadol i Canu Aneirin Ifor Williams.

sef beirniadaeth ar drafodaeth Seebohm oherwydd ei ddiffyg dealltwriaeth o'r termau cyfraith Cymraeg.

***

COPI Timothy Lewis sydd gennyf o The Poetry of the Gogynfeirdd (1909) Edward Anwyl. Ar y clawr, yn ei law ddestlus, ysgrifennodd ei enw ac 'Aberystwyth, Jan. 22. 10., Cawsai'i benodi'n Ddarlithydd Cynorthwyol bedwar diwrnod ynghynt ar 18 Ionawr 1910 gan Anwyl ei hun. Ond yn gynnar yn 1916, fel y dengys Mr. Davies, ymunodd â'r fyddin ac yn 1917 yr oedd yn ymladd ar y Somme lle y clwyfwyd ef. Rhyddhawyd ef o'r fyddin yn 1919.

Y tu mewn i glawr y llyfr ceir Y 'book-plate' hwn sy'n dwyn y dyddiad 1915.

Y mae ar y clawr hefyd y geiriau Welsh Society/Cymdeithas Gymraeg, a rhifau silff L.13 a L.30.

Gan mai yn Aberystwyth y prynais y llyfr, ac y byddai ambell un o lyfrau Timothy Lewis yn ymddangos o bryd i'w gilydd, cyn ei farw yn 1958, yn siop S.V. Galloway, gellid tybio i'r llyfr fod yn ei feddiant o 1910 ymlaen, ond os felly, beth oedd a wnelai'r gyfrol â'r carcharorion rhyfel yn 1915? Fel yr awgryma'r plât, gwersyll i wŷr a gwragedd Prydeinig nad oeddynt yn y lluoedd arfog oedd yn Ruhleben. Yn ôl erthygl fer gan D. Rhys Phillips yr oedd yno tua 70 o Gymry a gafodd ganiatâd yn Chwefror 1915 i sefydlu Cymdeithas Gymreig, fel y sefydlwyd clybiau eraill mewn meysydd megis y ddrama, cerddoriaeth, llenyddiaeth ac athletau. Yn hydref 1915 llwyddodd yr ysgrifennydd, Tom Jones, M.Sc. a oedd ar staff ysgol dechnegol yn Karlsruhe, i ddechrau Adran Geltaidd lle y dysgid Cymraeg, a hanes llenyddiaeth Cymru ac Iwerddon. Rhoddion gan unigolion a chyhoeddwyr oedd llyfrau'r llyfrgell honno, ond pwy oedd Y Cyfeillion o'r Hen Wlad a drefnai'r gweithgarwch hwnnw ni wn i ddim.