LLÊN CYMRU A RHYFEL gan Bruce Griffiths

SYNHWYRAF y bydd cyplysu 'llên Cymru' a 'rhyfel' yn taro sawl un fel rhywbeth di-chwaeth, anweddus, rywsut. Onid gwlad y menig gwynion yw Cymru? Gwlad heddychiaeth a'r dulliau di-drais? Oni syniwn am ein hunain fel cenedl fwy heddychlon, fwy gwaraidd na'n cymdogion? Ynteu, fel yr amheuaf i, onid hunan-gysur hunangyfiawn yw syniad felly, hunan-gysur am ein bod yn genedl fach ddibwys na fu erioed mewn lle i ryfela yn erbyn neb? Testun diddorol i rywun fynd ar ei ôl, fyddai Agweddau at Ryfel yn Llên Cymru'r Ugeinfed Ganrif.

Tystia silffoedd y siopau llyfrau Saesneg, a'r teledu yntau, nad oes ddiwallu ar y diddordeb ysol – afiach, efallai, nid yn unig yn yr Ail Ryfel Byd, ond bellach hyd yn oed yn y Rhyfel Cyntaf. 'Beth oedd effaith rhyfel ar fyd llyfrau? Rhan o ddinistr ehangach rhyfel oedd y dinistrio a fu ar lyfrgelloedd – megis yn yr Amgueddfa Brydeinig – ar weisg, ar archifau – meddylier am Dresden, er enghraifft, prifddinas cyhoeddi'r Almaen gynt.

A sawl llyfr, papur a phamffledyn prin a ddiflannodd yn yr ymgyrchoedd casglu papur gwastraff yn Lloegr yr oedd swyddog a chanddo gyfrifoldeb tros achub pethau o'r fath rhag mynd i ddifancoll: ond yng Nghymru? Ar y llaw arall, yn sgîl rhyfel cyhoeddir sawl pamffledyn a phapur amserol, byrhoedlog, a phrin. Yma ni ellir ond bwrw cipolwg dros y maes.

Mewn cyfrol o 'amryw', syndod imi oedd cael copi o'r unig lyfr Cymraeg, am a wn i, ar Ryfel y Crimea: Hanes y Rhyfel yn y Dwyrain, o'i Ddechreuad hyd Gwymp Sebastopol, wedi ei gasglu o lythyrau gohebydd y "London Times", ac ereill, gan John Roberts, Llanllechid, a Thomas Levi, Ystradgynlais. Dan olygyddiaeth J. W. Jones, Efrog Newydd: Arg. gan Richards & Jones, 133 Heol Nassau. 1856. Mae ynddo nifer o ysgythriadau dur gan J.G. Wells, yn dangos ysgarmesoedd gwaedlyd ar faes y gad, ac yn y bennod ar frwydr Balaclafa ceir disgrifiad grymus llygad-dyst o ymosodiad arwrol ond trychinebus y marchlu ysgafn (y chwe chant), a darlun ohono.

Ar droad y ganrif ymddangosodd yr unig lyfr Cymraeg (am a wn i) ar y rhyfel yn erbyn y Boeriaid: Y Rhyfel yn Neheudir Affrica (:) Ei Achos a'i Ddygiad Ymlaen, cyfieithiad W. Eilir Evans o waith neb llai na'r llenor enwog A. Conan Doyle. Mae'n waith cwbl annheilwng o'r awdur, yn drahaus a jingoaid i'r eithaf. Ystyriwch, er enghraifft, frawddeg fel hon: "Y mae yn beth i'w obeithio yn gryf y derfydd yr iaith werinaidd, y Taal, yr hon ni fedd lenyddiaeth, ac y sydd ymron mor annealladwy i'r Isellmon ag i'r Sais, a bod yn iaith gydnabyddedig."

A chyhoeddi hynny yn Gymraeg! A fydd yn syn gennych glywed mai'r Western Mail a ddosbarthai'r llyfr?

***

GYDA'R Rhyfel Byd Cyntaf, mae'r deunydd yn fwy toreithiog. Eisoes (yn Y Casglwr, Rhif 10) cyfeiriodd Huw Walters at y pamffledi jingoaid o waith Syr John Morris-Jones, ond ni soniodd am ei waith yn golygu'r gyfrol Gwlad Fy Nhadau - llyfr mawr hardd, yn cynnwys detholiadau o farddoniaeth ac o ryddiaith, yn ogystal â darluniau hardd gan arlunwyr megis Augustus John, Frank Brangwyn ac eraill. Cyhoeddwyd ef ar ran Cronfa Genedlaethol y Milwyr Cymreig, a ddarparai gysuron ar gyfer y milwyr Cymreig gartref a thros y môr.

Cyhoeddwyd fersiwn Saesneg (The Land of My Fathers) dan olygyddiaeth Syr John Morris-Jones a'r Athro W. Lewis Jones. Ynddo ni allaf beidio â chrybwyll am ddarlun o'r olygfa o Danygrisiau gan Augustus John (a fu'n byw yn yr ardal), a darlun o Bulpud Huw Llwyd yn afon Cynfal gan yr arlunydd lleol J. Kelt Edwards.

Er mai Margaret Lloyd George oedd cadeirydd y pwyllgor, enwau'r crachach lled-Gymreig a welir yng ngweddill aelodaeth y pwyllgor, a rhydd y ddau lyfr yr argraff mai llyfrau bwrdd coffi ydynt, y disgwylid i'r byddigions danysgrifio'n hael iddynt. Eithr coron a delais am fy nghopi i o'r un Saesneg, a hynny'n weddol ddiweddar: wyth bunt oedd y pris a welais ar gopi o'r un Cymraeg, yr wythnos o'r blaen.

I'r un cyfnod y perthyn llyfryn bach neilltuol o brin: Blwyddyn Newydd Dda i Chwi, a Buddugoliaeth fuan, detholiad o gerddi gwlatgarol a milwriaethus a wnaed gan M.S. Gee, Dinbych (1915). Yn y rhagair 'At Filwyr Cymru' dywed y detholydd ei fod yn gobeithio 'y cewch lawer o funudau difyr yn eu canu wrth y pentan, neu yn y trenches, pan fydd y gelyn allan o'r clyw'. Cynnwys y llyfr alawon hysbys fel 'Hen Wlad Fy Nhadau', `Gwnewch Bobpeth yn Gymraeg','Gwŷr Harlech' ,'Hob y Deri Dando' ac addasiad Cymraeg o'r 'Marseillaise', ond hefyd bennill gwrthun 'Pennill i'r Sais', gan 'Briton', sy'n cychwyn

Terfynnir y detholiad â'r emyn 'Marchog Iesu yn llwyddiannus,' a'r adnod "Ymgryfhâ ac ymwrola" (Josua i. 6-9).

Er nad oes arno ddyddiad, mi dybiwn mai i'r cyfnod hwn hefyd y perthyn Detholiad o Emynnau at wasanaeth o (sic) Y Milwyr Cymreig 38th Division Welsh Army Corps a gyhoeddwyd gan y National Council of the Evangelical Free Churches.

Mewn cywair gwahanol hollol, nodaf ddau bamffledyn o eiddo Cymdeithas y Cymod, a gyfieithwyd gan lenorion o bwys: Y modd i Atal Ysbryd Milwriaeth Henry T. Hodgkin, a gyfieithwyd gan T. Gwynn Jones; ac Yr Anturiaeth Fawr A. Maude Royden, trosiad W. J. Gruffydd.

***

YN LLOEGR, ceid adwaith beirdd a llenorion o fri i'w profiadau erchyll yn y rhyfel tra 'roedd y rhyfel yn mynd ymlaen, ond caf yr argraff mai tawedog at ei gilydd a fu llenorion Cymreig ar y pryd. Pa un bynnag, cyhoeddwyd cerddi rhyfel Hedd Wyn yn ddi-oed wedi diwedd y rhyfel : Cerddi'r Bugail: Cyfrol Goffa Hedd Wyn (Caerdydd, 1918), gydag wyneb-ddalen brudd-ramantus, yr wyf yn hoff iawn ohoni, gan yr arlunydd Kelt Edwards. Ysywaeth rhwygwyd y ffotograffau o'r copi sydd gennyf, gan ryw fandal. Pa sawl cyfrol goffa o'r fath, i fardd a gwympodd yn y gad, a gyhoeddwyd yr adeg honno?

Gorbrisiwyd gwaith Hedd Wyn, efallai, oherwydd ei farwolaeth drasig ymhell oddi cartref, yn ŵr ifanc ac yn arwr; gwrthun, er enghraifft, yw darllen, yn ei gerdd faith a barddonllyd, Gwladgarwch, bennill fel hwn:

cyfuniad o Brydeingarwch a chrefydd nodweddiadol iawn o'r oes; can gwell gennyf y cerddi byrion, mwy cartrefol, a welir yn yr adran Y Rhyfel. Mae'n syn cyn lleied y sylweddolid eironi'r ffaith bod Cymry ifainc yn aberthu eu bywydau mewn rhyfel yr honnid ei fod yn rhyfel dros hawliau a rhyddid cenhedloedd bychain, tra'n mawrygu Prydain a'i himperialaeth ar yr un pryd!

Cyn diwedd y rhyfel, dechreuasai John Ellis Williams, yn llanc deunaw oed, gyhoeddi ei ddrama gyntaf, Rhamant y Rhyfel, yn wythnosol yn rhifynnau'r hen Darian. Yn Inc yn Fy Ngwaed dywed: " 'Roedd y Rhyfel Mawr yn tynnu at ei derfyn, a'i ogoniant cynnar wedi hen bylu. Yng nghysgod y rhyfel hwnnw y treuliais i fy llencyndod o'r tair-ar-ddeg i'r deunaw oed. 'Roedd y rhyfel yn rhan naturiol o'm bywyd bob-dydd. 'Doedd dim rhyfedd, felly, mai'r thema a ddewisais oedd effaith y rhyfel ar fywyd gwledig pentref fel Penmachno. " (t.17). Cyhoeddwyd hi'n llyfryn - (Aberdâr, 1922). "Croesawyd Rhamant a Rhyfel â breichiau agored, a gwerthodd y copïau fel pennog". (t.18).

Daeth yr awdur i deimlo peth cywilydd o'i brentiswaith ei hun, ond chwarter canrif yn ddiweddarach nid oedd chwaeth y gynulleidfa fel petai wedi datblygu dim: "Yn Llan Ffestiniog yn 1947 y clywais y perfformiad olaf o Rhamant a Rhyfel . . . Cafodd dderbyniad brwd. Credai rhan helaeth o'r gynulleidfa mai drama newydd sbon o'm gwaith ydoedd, am yr Ail Ryfel Byd. Euthum adref, a llosgi'r ychydig gopïau a oedd yn weddill o'r ddrama rhag ofn i ryw gwmni arall roddi perfformiad ohoni."(t. 19).

Hyn sydd i gyfrif, efallai, bod y ddrama ei hun erbyn hyn yn drybeilig o brin, er iddi unwaith 'werthu fel pennog'.

Ar Ddygwyl Dewi Sant, 1919, cyhoeddodd Dewi Mai o Feirion ei lyfryn Cerddi Rhyfel Cymru (Caerdydd, 1919) ac yn y Rhagair ceir awgrym o'r dadrithiad a ddeuai i ran y Cymry a fuasai'n bloeddio am fuddugoliaeth bedair a phum mlynedd ynghynt: "Barnwyd mai priodol fuasai cyfres o eiriau newydd yn adlewyrchu safle a chysylltiad Cymru i rhyfel fwyaf alaethus y byd, ac yn arbennig i roddi ar gof a chadw wroldeb ac aberth y glewion Cymreig . . .

Bydd effaith galarus ar un llaw, a daionus ar y llaw arall – Rhyfel Mawr 1914-18 – fel cwmwl a heulwen ar lwybrau cenedlaethau sydd eto heb eu geni, a gall Cymru Sydd a Chymru Fydd ganu yn y cywair lleddf a llon am yr aberth a dalwyd a'r breintiau enillwyd ar faes y gyflafan".

***

DIM ond ar ôl peth oedi y dechreuwyd amlygu adweithiau llenorion i'r rhyfel.

Cyfansoddwyd rhannau o'i gerdd Mab y Bwthyn gan Cynan yn ystod y rhyfel, ond yn 1921, yn Eisteddfod Caernarfon, y gwelodd hi olau dydd, gan gychwyn ffasiwn a ddilynwyd gan Gynan ei hun - Y Tannau Coll, a gyhoeddwyd gan yr awdur (Caernarfon, d.d.), pryddest ail-orau Eisteddfod Rhydaman, 1922. Meddai T. Gwynn Jones yn ei feirniadaeth: "Nid wyf i'n beio mo'r beirdd am ddwyn y rhyfel i mewn i'w cerddi, canys dyna'r peth mwyaf ym mhrofiad dynion ers blynyddoedd lawer, a rhaid i'r rhai a fu'n chwythu'r tân ddygymod â gwrthryfel y beirdd bellach. Dengys y gystadleuaeth hon yn eglur ddigon fod yr hen grefydd wedi marw, a bod dynion yn berwi gan anniddigrwydd ysbryd . . . Difrïwyd llawer ar awdur 'Mab y Bwthyn', mi glywais, ac eir ati rhag blaen i'w efelychu . . ."

Ac meddai Gwili, gan ddyfynnu sylw rhywun arall ar y gystadleuaeth: "Bydd twymyn 'Mab y Bwthyn' ar y beirdd, y tro nesaf . . O'r braidd y dihangodd neb o'r beirdd heb dwtsh ohoni . . . Dichon mai'r peth sy fwyaf gennym ni'n tri yn erbyn Israffel (Cynan) yw ei fod yn parhau i ganu am hacrwch rhyfel, yn 1922, a'r mwyafrif ohonom wedi glân syrffedu ar y sôn amdano, ac yn hiraethu, ers tro bellach, am ganiad newydd".

Yn yr un flwyddyn wele Y Gwron Dienw, Pryddest Gadeiriol Môn, 1922 gan (Dewi) Emrys James. (Carmarthen, 1922), llyfryn prin iawn, ond cerdd, y mae'n rhaid dweud, na chefais fawr o flas arni.

Ni chiliodd cysgodion rhyfel yn bell iawn yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, a gellir synhwyro hyn yn y chwiw cynnal pasiannau ymhongar, rhodresgar, naïf, ond diddorol o safbwynt y goleuni a daflant ar feddwl yr oes, ac a gysylltir yn bennaf ag enw Cynan.

Dyna'r Pageant of Harlech Castle (Newtown, 1922), yr oedd ei awduron yn cynnwys Syr J. Morris-Jones, yr Athro J.E. Lloyd, Ernest Rhys ac Alfred Perceval Graves, ymysg eraill, ac a derfynai â The Coming Of Peace. Ysgrifenasai J.O. Francis ddrama basiant dan y teitl The Crowning of Peace ac addaswyd hon gan Gynan fel Epilog i'w basiant The Conway Pageant (Conway, 1927).

Dathlwyd deng-mlwyddiant Cynghrair y Cenhedloedd gan berfformiadau o'r Pasiant Rhyfel a Heddwch (Cynan) (Caernarfon, 1930) yng nghestyll Harlech, Biwmares, Gwydir, Cricieth a Chaernarfon, yn 1928, dan nawdd Edward, Tywysog Cymru.

Pur anaml bellach y gwelir y llyfrynnau hyn; tebyg i lawer eu trin fel rhaglenni yn unig, a'u taflu. Ond cynhwysant olygfeydd o waith llenorion a haneswyr o bwys, wedi'r cwbl.

***

GYDA'R Ail Ryfel Byd gwelwyd toreth o fân lyfrynnau diddorol, byrhoedlog a phrin, a rhai yn ffurfio cyfresi. Er enghraifft dyna Efengyl Hitler T. Hughes Griffiths (1940), un o'r gyfres Pamffledi Harlech. Pamffledyn na welais erioed ond un copi ohono yw, Y Natsîaid a'r Cenhedloedd Bychain yn Ewrop Gwilym Davies (Wrecsam a Chaerdydd, 1941). Ynddo gellir teimlo bod yr awdur yn taro'r post i'r pared glywed: ar eu perygl eithaf y byddai gwlatgarwyr unrhyw genedl fechan yn gwrando ar addewidion celwyddog Hitler a'r Natsîaid i'w rhyddhau, a barnu yn ôl tynged Slofacia, Llydaw ac eraill.

Fe gofir i'r un awdur ddinoethi ei neges yn blaenach yn ei ysgrif enwog "Cymru Gyfan a'r Blaid Genedlaethol" yn Y Traethodydd (Gorff. 1942), gan ymosod ar y blaid honno fel plaid Ffasgaidd a thotalitaraidd. Atebwyd ef gan Saunders Lewis a J.E. Daniel yn Plaid Cymru Gyfan (Caernarfon 1942) ac yn The Party for Wales Caernarfon, 1942).

Anodd, bellach, fyddai casglu set gyflawn o bamffledi'r Blaid yn ystod y Rhyfel; nodaf un prin iawn, Llais y Cymry yn Lluoedd Lloegr — Dyfyniadau o'u llythyrau (Caernarfon, d.d.), a hefyd Transference Must Stop Wynne Samuel; oherwydd "transference" y bu'n rhaid i'm teulu i a channoedd onid miloedd o deuluoedd eraill symud o Gymru i Ganolbarth Lloegr adeg y rhyfel.

Y mwyaf sylweddol o bamffledi'r blaid, mae'n siŵr, oedd Cymru Wedi'r Rhyfel a Wales after the War, ill dau gan Saunders Lewis (1942?)

***

YMYSG y manion difyr eraill rhaid nodi Yr Hyn a Welais yn Rwsia gan y 'Deon Coch' Hewlett Johnson, un o bamffledi 'Rwsia Heddiw' a argraffwyd yn Abertridwr ac a gyhoeddwyd gan y Russia Today Society. Pamffledyn bychan yw sy'n canmol Rwsia, er gwaethaf ei anffyddiaeth, fel nefoedd ar y ddaear.

Bu ymgyrch i sicrhau bwyd i blant newynog Ewrop, ac ym Mangor cyhoeddodd Pwyllgor y Newyn gyfieithiad gan D.M. Jones o bamffledyn, "Un o'r Rhai Bychain hyn . . .";gan Vera Brittain, awdures Testament of Youth. (?1942, arg. yn Lerpwl). Rhaid imi gyfaddef, nes imi weld y gyfres deledu yn ddiweddar, na olygai enw'r awdures na'i llyfr ddim imi. Erbyn deall, hi yw mam y gwleidydd Mrs Shirley Williams.

Meddaf ar un o'r ychydig gopïau mewn bodolaeth, mi goeliaf, o lyfryn Cymraeg ar gyfer Cymry alltud Gibraltar yn ystod y rhyfel: Brythoniaid y Graig (Gibraltar 1942). Detholiad o emynau ac alawon gwerin hysbys iawn yw ei gynnwys, ac yn eu plith gyfieithiad i Gernyweg o'n Hanthem Genedlaethol, dan y teitl Kernow Agan Mamvro, gwaith yr ysgrifennydd, mae'n debyg, E. Churgwin (Map Melyn).

Dywedir yn y llyfryn "Printiwyd y llyfryn hwn yn breifat, ac fe'i lledaenir ymysg aelodau'r Gymdeithas yn unig". Amheuaf fy mod yn adnabod yr argraffwaith, er nad oes enw gwasg arno: un ai Gwasg Gee neu Wasg y Brython. A ŵyr un ohonoch ragor am "Frythoniaid y Graig" ac am y llyfryn?

Ym Mangor, yn 1941, aeth criw o Gymry ymroddedig ati i ddarparu papuryn misol y gellid ei ddanfon at yr hogiau yn y lluoedd arfog: Cofion Cymru. Cynan a Tom Parry oedd y golygyddion ar y cychwyn. Terfynodd gyda rhif 62 ym Mehefin 1946. Mae set anghyflawn gennyf; a byddwn yn croesawu unrhyw rifynnau sy'n digwydd bod gennych; taflwyd y rhan fwyaf o'r rhifynnau gan y milwyr a'u derbyniai, mae'n eithaf sicr. Dyddiodd llawer iawn o'r cynnwys, ond mae yn y papur hwn doreth o bethau gan rai o brif lenorion Cymru.

Yn Chwefror 1944, cyfeirir at bapur arall, Seren y Dwyrain, y cawsom hanes ei gyhoeddi gan T.E. Griffiths yn ddiweddarach. Esgorodd Cofion Cymru ar Gyfres y Cofion, llyfrynnau bychain a ddanfonid at fechgyn Cymru ar wasgar. Y mae'r chweched llyfr anrheg – Y Ddolen, gan mai argraffiad i'r cyhoedd ydoedd, yn weddol hawdd dod o hyd iddo, ac yn werth ei gael; ond pur anaml y gwelir y pum llyfryn blaenorol:

1. Llyfr Anrheg . . . Gaeaf 1943; 2. Ail Lyfr Anrheg . . . Gŵyl Ddewi, 1944; 3. Trydydd Llyfr Anrheg . . . Gwanwyn, 1944: Emynau'n Gwlad. 4. Pedwerydd Llyfr Anrheg Gŵyl Ddewi, 1945 Calendr y Cymro. 5. Pumed Llyfr Anrheg, Haf, 1945: Storïau. Yn y Rhagair i'r chweched llyfr ceir peth o hanes cyhoeddi'r papur a'r llyfrynnau gan y Dr Thomas Parry.

***

GARTREF, cyflwynid safbwynt yr heddychwr gan ddwy gyfres o bamffledi: Pamffledi Heddychwyr Cymru: camp, bellach, fyddai cael set cyflawn. O ddiddordeb arbennig yn y gyfres gyntaf nodaf: Rhif 7, Proffwydi Rwsia: y Ddau Ddewis, trosiad T. Gwynn Jones o bamffled Nicolas Berdyaev; Rhif 10; Tystiolaeth y Tadau: Detholiad gan Tom Parry; a Rhif 12, Tystiolaeth y Plant (Gol. Gwynfor Evans); ymysg y "plant" y mae enwau W.R.P. George, J. Gwyn Griffiths, A.O.H. Jarman, J.R. Jones, D. Tecwyn Lloyd, Waldo Williams ac eraill.

Yn yr Ail Gyfres ceir dwy gyfrol Caniadau'r Dyddiau Du (Gol. Gwilym R. Jones), detholiad o gerddi rhyfel gan bron bob bardd o bwys yng Nghymru (faint ohonynt oedd yn heddychwyr mewn gwirionedd, tybed?)

Yn yr Ail Gyfres hefyd nodaf Rhif 5: Duw Neu'r Genedl? trosiad Iorwerth Peate o bamffledyn J. Middleton Murry; Rhif 6: Tystiolaeth Cyn-Filwyr; (yn eu plith, y Parch Lewis Valentine); Rhif 7: Mudiadau Heddwch yn yr Almaen, (Gol. Kate Bosse Griffiths; (cyflwynir y llyfryn 'I'm mab bychan, Robert Paul ac i'w berthnasau yn yr Almaen ac yng Nghymru', sef Robat Gruffudd y Lolfa heddiw!) Rhif 11: Anarchistiaeth gan J. Gwyn Griffiths.

***

TERFYNAF trwy dynnu eich sylw at beth o gynnyrch barddonol y rhyfel: Medi'r Corwynt. Cerddi'r Rhyfel gan W.H. Reese. (Blaenau Ffestiniog, 1943), llyfryn bychan anodd dod o hyd iddo bellach. Yr oedd Mr Reese yn un o feirdd y gyfrol Y Ddau Lais (Aneirin Talfan Davies oedd y llall, er nad oedd y ddau yn adnabod ei gilydd).

Yn y Rhagair dengys y bardd ing meddwl yr heddychwr sy'n gorfod cyfaddef "Nid oes le i rym arfau yn efengyl Crist. Ond hyd y gwelaf i, ni ellir dileu y grym aflan sydd yn y byd heddiw heb rym cryfach, ac nid hwyrach, aflanach. Rhaid i rywrai heddiw ymwadu â'u ffydd er mwyn puro'r byd o ddylanwadau y gwŷr a gred yn offeiriadaeth ofn. Rhaid i rywrai ladd ac eraill farw. Dyma sylfeini cyfoes fy ffydd."

Yr oedd yn fardd addawol tros ben, a disgwylid pethau mawr ganddo; ond cyhoeddodd ei Gerddi Olaf yn 1944. Am flynyddoedd bu'n gweithio yng Ngogledd Lloegr, ond yn ddiweddar ymddeolodd i'w hen gynefin, y Blaenau, lle mae'n ddiwyd ym mywyd y dref; anfonodd ataf gasgliad sylweddol o eiriau a phriod-ddulliau yr ardal.

Yn olaf, llyfryn bychan o gerddi y cefais gryn flas arnynt yw O'r Dwyrain a Cherddi Eraill Elwyn Evans (Llyfrau'r Castell, Caerdydd, 1948). Cerddi alltudiaeth ydynt. 'Ar Lannau Euphrates,' 'Rhwng y Ddwy Afon' (sef Mesopotamia), yn 'Anialdir Syria' a'r 'Tu allan i Borthladd Aden', ac a ysgrifennwyd yn ystod y rhyfel ei hun, yn traethu hiraeth y bardd am gartref a'i adwaith i dirluniau dieithr y dwyrain; pryddest ail-orau Penybont oedd Y Dwyrain ei hun, adladd y rhyfel. Ers hynny, cawsom doreth o atgofion am y rhyfel: ond testun arall yw hwnnw.