HEN FALEDI'R GLOWYR gan Gomer M.Roberts
PAN oeddwn yn weinidog ym Morgannwg, yn y pumdegau, fe drigai hen fab gweddw gerllaw imi a oedd yn dipyn o gymeriad. Nid oedd yn aelod o'm heglwys, ond " chi sydd i 'nghladdu i" meddai wrthyf fwy nag unwaith. Yn ei ddydd bu'n casglu hen faledi a chaneuon printiedig a gyhoeddid ac a genid yng nghymoedd Morgannwg yn hanner olaf y ganrif ddiwethaf a blynyddoedd cynnar y ganrif bresennol.
Aeth â nhw gydag ef pan fu'n gweithio mewn glofeydd yn America am rai blynyddoedd. Ond yn ôl i Gymru y daeth, a thrigai mewn bwthyn ar ei ben ei hun dan amgylchiadau cyntefig iawn.
Cefais olwg ar ei gasgliad, ar ôl arfer pob rhyw ddichell i'w benthyg. "Cofiwch ddod a nhw'n ôl," mynte fe, "neu fydd hi ddim yn dda arnoch chi." Y mae'n debyg iddo roi benthyg ei faledi unwaith i'w hen gyfaill, Sam y Delyn, ac amheuai iddo golli rhai ohonynt y pryd hynny. Nid oedd hynny'n wir, oblegid fe fuasai Sam wedi eu dangos nhw i mi.
Bu farw'r hen fachgen o'r diwedd, ac ar ôl ei angladd fe drosglwyddodd teulu'i frawd y casgliad i mi fel cydnabyddiaeth am ei gladdu.
***
AR Y cyfan 'roedd golwg go aflêr ar y baledi, rhai mewn cyflwr go dda ond y mwyafrif ohonynt wedi malu'n ddrwg a'r hen frawd wedi eu dwyno wrth eu bodio. Datodais hwy oddi wrth ei gilydd a'u trefnu'n ôl eu testunau, a'u cymhennu nhw gorau ag y gallwn. Gwelais fod gennyf tua dau gant o faledi a chaneuon a gyhoeddwyd yn y De o tua chanol y ganrif ddiwethaf i flynyddoedd cynnar y ganrif bresennol.
Amrywient yn fawr yn ôl eu cynnwys – rhai'n ddigrif a rhai'n hiraethlon a dagreuol, rhai'n delio â charu a phriodi, llofruddiaethau, caneuon crefyddol, &c., &c.
'Roedd nifer ohonynt yn ymwneud â damweiniau a thanchwaoedd yn y pyllau glo, a chwynion y gweithwyr ynghylch amodau gweithio a chnaciau'r meistri adeg streiciau. Fel un a fu'n lõwr am ryw chwech neu saith mlynedd pan oeddwn yn ifanc apeliai'r rheini'n fawr ataf, a chyfyngaf fy sylw iddynt hwy yn hyn o ysgrif.
Go ychydig o wybodaeth a geir yn y baledi am yr awduron a'r gweisg a'u cyhoeddodd, ond pan geid y rheini fe'u nodaf. I gychwyn, wele deitlau'r baledi am y damweiniau a'r tanchwaoedd:
- 1. Cân Alarus am y Ddamwain Echrydus A gymerodd le yn Pwll
Cwmpennar, Dyffryn Aberdâr ... T. Howells, Argraffydd, Merthyr. (4 tt., dyddiad
y ddamwain, 25 Chwef. 1858).
2. Cân Alarus Er Cof am y Ddamwain Arswydus! A gymerodd le ... yn Risca, Swydd Fynwy
... (Gan) E. Griffiths (Ieuan o Eifion). (4 tt., dyddiad, 1 Rhag. 1860.)
3. Hanes Galarus am agos i 200 o Golliers a losgwyd Yn Mhwll
Glo y Ferndale Valley, (a elwid gynt Blaenllecha) yn Nghwm Rhondda, ger
Pontypridd, yn sir Forganwg ... (tt. 4, dyddiad, 8 Tach. 1867.)
4. Damwain yn Aberdare Junction. Saith wedi eu Iladd ... Accident at Aberdare Junction.
Seven men killed. (tt.4, dyddiad, 23 Ion. 1893.)
5. Tanchwa yn Cilfynydd, 300 wedi eu lladd. (tt. 2,
anghyflawn?, dyddiad, 23 Meh. 1894.)
6. Damwain yn Mhwll Level yr Afon, Abernant, Aberdâr ...
Accident at River Level Pit, Abernant, Aberdare. (tt. 4, dyddiad, 9 Rhag.
1896.)
7. Tanchwa yn Tylorstown. Degau wedi eu Iladd ... Explosion at Tylorstown. 55 men killed.
(tt. 4, dyddiad 27 Ion. 1896.)
Ceir enwau ac oedran y lladdedigion yng Nghwmpenannar (19), Risca (138, deuddeg ohonynt rhwng deg a thri-ar-ddeg oed), Ferndale Valley (52 o'r rhag "a gafwyd" o'r "agos i 200"), Aberdare junction (7), a Lefel yr Afon, Aber-nant (6).
Yn yr un gyntaf yn unig y nodir y dôn, sef "y Don Fechan". Y mae'n amlwg mai cynnyrch yr un wasg yw 5, 6 a 7, oblegid ar dop y dudalen gyntaf ceir darlun – woodcut, mi dybiaf – o ddamwain mewn pwll glo. Sylwer fod tair o'r baledi yn Gymraeg ac yn Saesneg.
***
YR AIL ddosbarth yw'r caneuon ynghylch caledi'r glowyr a'u cwynion ynghylch ymddygiad y meistri, sef Can y Gormeswr (tt.2) a Peryglon y Glowr ... A New Song on The Injustice done to the Collier in not getting paid for small coal (tt.4). gan W. Barrow (Pererin Arfon) – ef mae'n ddiau biau'r Gymraeg a'r Saesneg, eithr nid yr un yw'r testun.
Fe ddiogelodd yr hen frawd hefyd nifer o argrafflenni bychain (broadsides) sydd erbyn heddiw yn brin iawn, fel y gŵyr pob casglwr. Y mae un-ar-ddeg o'r rhain yn y casgliad, sef Cri y Glowr, gan Ben Bowen (i'w chanu ar y 'Gwenith Gwyn' neu 'Yr Eneth gad ei gwrthod'); Clywch gri y Glowr Tlawd; Gormes y Meistri a Llefain y Glowyr, gan Rhosle (i'w chanu ar yr `Y Bachgen Main'); Cwyn y Glowr Tlawd yn nghanol Trallod; Y Lock Out yn 1898. Carchariad Henadur D. Morgan (Dai o'r Nant), a Mr C.B. Jones (i'w chanu ar 'Gwnewch bopeth yn Gymraeg'); Cwynfan y Gweithiwr. Gan Hen Löwr Profiadol (i'w chanu ar 'Just before the battle mother'); Cerdd yn gosod allan 'Cwyn y Glowr; Y 'Strike' (i'w chanu ar 'Gwnewch bopeth yn Gymraeg'); Y Cload Allan yn Neheudir Cymru; Emyn y Glowr, gan Gwilym . . - (?), Penrhiwfer (i'w ganu ar 'Capel-y-Ddôl'), a Pan aiff Syr Wil i'r Bedd (ar 'Gwnewch bopeth yn Gymraeg').
***
Y MAE'R rhain, at ei gilydd, yn ddogfennau cymdeithasol pwysig. Caiff 'Syr Wil' – Syr William Thomas Lewis (1837-1914, gw. Y Bywgraffiadur Cymreig), Arglwydd Merthyr cyn ei farw, un o brif anturwyr y fasnach lo yng Nghwm Rhondda yn ei ddydd, gryn lawer o sylw yn y caneuon. Cyfrifid ef yn ŵr caled gan y glowyr. Yn y gân i'r Cload Allan fe ddywedir:
- Fe ganwn fel hyn
Bob Colier trwy'r wlad,
Am weled 'Rhen Wil
Mewn beddrod dan draed.
A chyfeirir ato fel hyn yn Clywch Gri y Glowr Tlawd:
- Syr Williams, – tad y newyn du,
Sy'n sathru ar ein gyddfau ni.
A dyma ddau bennill o'r gân Pan aiff Syr Wil i'r Bedd:
- Mae Cymru heddyw'n gwywo
Dan ddwylaw gormes cas,
Syr Wil sydd ynddi'n rulo
Fel Pharo llym di ras;
Caethiwed Aipht masnachol
Sy'n bwyta'n llwyr ein hedd,
Ond daw yn nef hawddgarol
Pan aiff Syr Wil i'r bedd.
Syr Wil sy'n lladd ein masnach,
Syr Wil fradycha'n gwlad,
Syr Wil a'n gwna ni'n diotach
Drwy werthu'n glo yn rhad;
Syr Wil a'i law ormesol
Sy'n gyrru ffwrdd ein hedd,
Ond daw yn nef hawddgarol
Pan aiff Syr Wil i'r bedd.