HENDREGADREDD ~ Syr Thomas Parry a'r trysor

Yn y Rhifyn diwethaf o Gylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru (sef rhifyn haf 1981) y mae erthygl bwysig gan Mr Daniel Huws, Ceidwad y Llawysgrifau, ar y llyfr llawysgrif a adwaenir fel Llawysgrif Hendregadredd, sef casgliad gan mwyaf o farddoniaeth Beirdd y Tywysogion, y beirdd oedd yn canu rhwng, yn fras, 1100 a 1300.

Y mae Mr Huws yn awgrymu mai mynach o Ystrad Fflur a ddechreuodd lunio'r casgliad, a hynny tua'r flwyddyn 1300, neu'n gynt efallai, a bod tua deugain o wahanol ysgrifenwyr wedi cyfrannu. i'r llawysgrif. Yn y diwedd aeth y llyfr yn eiddo i Ieuan Llwyd ab Ieuan ap Gruffudd Foel o Barcrhydderch ym mhlwy Llangeitho, Ceredigion, tua deng milltir o Ystrad Fflur. Yr oedd yr Ieuan Llwyd hwn a'i wraig Angharad yn noddwyr a chyfeillion i Ddafydd ap Gwilym, a'i deulu'n enwog am eu nawdd i lenyddiaeth Gymraeg yn gyffredinol.

Dichon mai o dan nawdd Ieuan y lluniodd Einion Offeiriad ei Ramadeg enwog. Ei fab Rhydderch oedd y gŵr a gysylltir i'r Llyfr Gwyn - ei berchennog, mwy na thebyg - a mab hwnnw oedd Ieuan ap Rhydderch, gŵr tra diddorol, a fu'n fyfyriwr yn Rhydychen ac a ddysgodd grefft y beirdd (gw. Cywyddau Iolo Goch ac Eraill). Cyfansoddodd ddwy awdl i Fair, y naill yn Saesneg a'r llall yn gymysg o Gymraeg a Lladin.

Un peth o ddiddordeb mawr ynglŷn â'r llawysgrif yw fod ynddi gyfres hir o englynion o dan y teitl 'Eglynyon a gant dauid llwyd uab gwilim gam yr groc o gaer'. Wrth baratoi Gwaith Dafydd ap Gwilym (1962) mi fûm i'n euog o gam-farn ddybryd trwy ddweud nad gwaith Dafydd ap Gwilym oedd yr englynion hyn. Y mae'n bur sicr mai ef yw'r awdur, er ei bod braidd yn anodd deall sut y bu iddo weld y ddelw o Grist ar y groes yn ninas Caer.

Ond cofier ei bod yn bosibl mai yn y ddinas honno yr oedd pan ddeffrowyd ef un noson o ganol breuddwyd serchus gan sŵn y cloc yn taro. Boed a fo am hynny y peth mwyaf diddorol ynglŷn â'r englynion hyn yw awgrym Mr Daniel Huws y gallent fod wedi eu hysgrifennu gan Ddafydd ei hun; ni wyddom am ddim byd arall a allai fod yn waith ei law.

***

NID WYF fi am fanylu dim ar gynnwys nac amseriad y llawysgrif, oherwydd maes arbennig Mr Huws yw hynny, ac y mae'r manylion oll yn ei ysgrif. Amcan hyn o sylwadau yw dangos cymaint y mae cadwraeth llenyddiaeth Gymraeg wedi dibynnu ar lwc a damwain, a'r gwir cyfochrog, sef bod llawer iawn o bethau wedi mynd ar ddifancoll llwyr.

Rhaid bod beirdd wedi canu'n helaeth i frenhinoedd mor enwog â Rhodri Mawr a Hywel Dda, ond nid oes dim ar gael heddiw. Y mae hanes Llawysgrif Hendregadredd yn enghraifft dda o sut y gallai colled felly ddigwydd.

Ond cyn trafod yr hanes hwnnw ystyrier hanes arall. Ni fuasem yn gwybod dim am Aneirin a'i gerdd i wŷr Gododdin, ond eu henwau efallai, oni bai am un llawysgrif fach o 38 o dudalennau saith modfedd wrth bump, sef honno a elwir yn 'Llyfr Aneirin', ac y mae ei hanes yn bur ddiddorol.

Ysgrifennwyd ef yn ail hanner y drydedd ganrif ar ddeg, a barnu wrth y llaw, ond ymhle a chan bwy ac i bwy, nid oes neb a ŵyr. Y peth cyntaf a wyddom i sicrwydd amdano yw ei fod ym Morgannwg yn y bymthegfed ganrif, oherwydd yr oedd yn eiddo i'r bardd Gwilym Tew. Ceir enw Dafydd Nanmor yn y llyfr hefyd, ond nid yw hynny'n profi i'r llyfr fod yn y Gogledd, oherwydd yr oedd Gwilym a Dafydd yn gyfeillion.

Ond yr oedd yn y Gogledd ymhen rhyw gan mlynedd - copïwyd ef gan Syr Thomas Wiliems, Trefriw. Yna cafodd Robert Vaughan afael arno, ac aeth yn rhan o lyfrgell ryfeddol y gwr hwnnw yn Hengwrt, ond rywsut neu'i gilydd fe'i collwyd oddi yno.

Y peth nesaf yw bod Thomas Bacon, un o'r teulu oedd yn rheoli gwaith haearn Merthyr Tydfil, yn prynu'r llyfr gan rywun yn Aberdâr yn niwedd y ddeunawfed ganrif. Rhoes Bacon ef i Theophilus Jones, hanesydd Sir Frycheiniog. Wedi marw hwnnw yn 1812 aeth y llyfr yn eiddo i'w gyfaill Thomas Price (Carnhuanawc), ac wedi ei farw yntau aeth i gasgliad enfawr Syr Thomas Phillips, Middle Hill, Sir Gaerwrangon.

Yn 1896 prynodd Cyngor Dinas Caerdydd y llawysgrifau Cymraeg yng nghasgliad Phillips, a dyna Lyfr Aneirin yn ôl ym Morgannwg, ac yno y mae byth.

Y mae'r stori yna'n dangos y bylchau sydd yn hanes rhai o'r hen lawysgrifau ac mor hawdd fuasai i Lyfr Aneirin fod wedi diflannu'n llwyr.

Llawysgrif un o lu sydd yn y gyfrol

***

Y MAE hanes Llawysgrif Hendregadredd yn rhyfeddach fyth. Ar ôl iddi fynd i Barcrhydderch aeth dwy ganrif heibio cyn y ceir trywydd arni eto, ond rywbryd tua 1550 yr oedd yn eiddo i Gruffudd Dwnn o Ystrad Merthyr, Cydweli, casglwr llawysgrifau ac un o brif noddwyr beirdd ei gyfnod. Ceir enw'r bardd Huw Llyn (brawd Wiliam Llyn) yn y llawysgrif, ond nid yw hynny'n profi perchenogaeth, oherwydd yr oedd ef yn ymwelydd cyson ag Ystrad Merthyr. Yna aeth hithau, fel bron bob llawysgrif o bwys, i ddwylo Robert Vaughan.

Yn 1617 cafodd John Davies, Mallwyd, ei benthyg, a gwnaeth gopi o'r rhan fwyaf ohoni. (Y mae'r copi hwnnw yn y Llyfrgell Brydeinig yn Llundain erbyn hyn). Yna yn rhyfedd iawn, fel gyda llyfr Aneirin, collwyd y llawysgrif hon hefyd o lyfrgell Robert Vaughan.

Yn wir, diflannodd yn gyfan gwbl am yn agos iawn i dri chan mlynedd.Ni welodd y Morrisiaid mohoni, na golygyddion y Myvyrian Archaiology, na neb oedd yn ymddiddori yn llenyddiaeth Cymru yn y ganrif ddiwethaf. Y cwbl a wyddai Gwenogvryn Evans amdani, pan oedd yn paratoi ei adroddiad ar y llawysgrifau ar ran y llywodraeth, oedd fod John Davies wedi ei chopio - 'It seems to have disappeared altogether,' meddai.

Ond yn yr union flwyddyn pan ddywedwyd hyn, sef yn 1910, darganfuwyd y llawysgrif mewn hen gwpwrdd dillad mewn ystafell wely wag yn Hendregadredd ger Porthmadog, cartref y Barnwr Ignatius Williams. Dyma efallai y bwlch hwyaf yn hanes unrhyw lawysgrif Gymraeg o bwys. Ond fe wyddom erbyn hyn ychydig amdani cyn 1910.

Yn 1842 yr oedd yn eiddo i Richard Newcome (1779-1857), clerigwr a fu'n dal amryfal swyddi eglwysig yn Nyffryn Clwyd, gan gynnwys Wardeiniaeth Rhuthun. Y mae nodyn yn ei law ef y tu mewn i'r llawysgrif, lle y mae'n dweud ei bod yn eiddo iddo ef ers llawer o amser, ond ei fod wedi anghofio ymhle y cafodd hi.

Pan fu ef farw, bu arwerthiant ar ei lyfrau, a phrynwyd y llawysgrif gan Ignatius Williams o Ddinbych, ac wedi ei farw yntau, aeth ei lyfrgell i'w nai, John Ignatius Williams, Ynad Cyflog Pont-y-pridd, a daeth ef i fyw i gartref ei wraig, sef Hendregadredd.

***

Y MAE'N debyg mai'r rhai cyntaf i gael gwybod am y llawysgrif yn 1910 oedd dau hynafiaethydd oedd yn gymdogion i Ignatius Williams, sef Edward Breese o Borthmadog a Myrddin Fardd o Chwilog, a thrwyddynt hwy daeth yr hanes i glustiau Gwenogvryn Evans, yr awdurdod mwyaf yn ei ddydd ar balaeograffeg a hanes a llawysgrifau Cymraeg.

Yn fuan wedyn yr oedd John Ballinger, pennaeth y Llyfrgell Genedlaethol, wedi cael gwynt arni ac wedi mynd â hi i Aberystwyth, a dechrau argraffu ei chynnwys, heb yn wybod i'r perchennog, meddai rhywrai.

Nid oedd Gwenogvryn Evans y math o ddyn bach diniwed a fuasai'n gadael i giamocs fel hyn ddigwydd o dan ei drwyn, ac aeth ati yn ddiymdroi i greu helynt. Cafodd gan weddw Ignatius Williams ofyn am y llawysgrif yn ôl o Aberystwyth a'i hanfon i'r Chancery Lane Safe Deposit yn Llundain, ac yno yr oedd ef ei hun yn cael ei gweld a'i chopïo.

Daeth hynt y llawysgrif a'i dirgelwch i gyd i ben ar 5 Chwefror 1923, pan oedd hi ar werth mewn ocsiwn gyhoeddus gan Quaritch yn Llundain, a rhywun neu rywrai dienw yn talu'r pris, faint bynnag oedd hynny, a'i chyflwyno i'r Llyfrgell Genedlaethol. Datguddiwyd yn ddiweddarach mai'r rhywrai hynny oedd y ddwy chwaer hael o Gregynog, Gwendoline a Margaret Davies.

Yn 1926 cyhoeddodd Gwenogvryn Evans y rhan fwyaf o gynnwys y llawysgrif mewn cyfrol ddigon anfoddhaol dan y teitl Poetry by Medieval Welsh Bards, wedi ei hargraffu ym Macon yn Ffrainc, ac yn 1933 cyhoeddwyd Llawysgrif Hendregadredd gan Wasg Prifysgol Cymru, a'r cerddi wedi eu torri’n benillion i ddangos y mydr a'u golygu gan John Morris-Jones a T. H. Parry-Williams.