HEN DOCYN Y WASG gan Dyfed Evans
TYBED a oes rhywun yn rhywle yn casglu Tocynnau Gohebwyr? Prin y gallaf honni fod gennyf gasgliad, ond mae gennyf un, a drysoraf. Ar wahân i gerdyn swyddogol Undeb y Newyddiadurwyr dyma'r unig un a welais erioed. Mae o dros ei ddeg a thrigain oed, ac mewn cyflwr rhagorol. Yn Swyddfa'r Herald yng Nghaernarfon y'i cefais, lawer blwyddyn yn ôl bellach. Ni chofiaf gan bwy.
Cerdyn a roddid i gynrychiolwyr Cwmni'r Wasg Genedlaethol Gymreig yng Nghaernarfon yw hwn. Y mae'n gerdyn bach hylaw a destlus ryfeddol, yn mesur rhyw dair modfedd a hanner wrth ddwy a hanner, ac wedi'i orchuddio'n chwaethus â lledr o wyrdd tywyll.
Ar y tu blaen y mae'r geiriau: 'The Welsh National Press Co (Ltd). Reporter's Card' mewn llythrennau lliw aur ynghyd â llun o'r Ddraig Goch a'r geiriau 'Y Ddraig Goch a ddyry cychwyn' – mewn coch.
Ar y cefn y mae'r geiriau 'Cwmni y Wasg Genedlaethol Gymreig. Tocyn Gohebydd'.
Tu mewn, nodir (yn Saesneg) fod y sawl a enwir ar gerdyn fel hwn yn gynrychiolydd awdurdodedig o bapurau'r cwmni, sef Y Genedl Gymreig (dyna'r prif bapur), y North Wales Observer and Express, Y Werin, Y Wyntyll a'r Eco Cymraeg.
Ni ddefnyddiwyd erioed y cerdyn sydd gen i. 'Does enw neb arno na mymryn o ôl traul. Fe'i gwnaed yn negawd cyntaf y ganrif gan fod y ffigurau 190 ... (gyda bwlch fel yna ar y diwedd) ar gyfer rhoi'r dyddiad o dan lofnod y rheolwr.
Ar gerdyn aelodaeth Undeb y Newyddiadurwyr fe nodir y cydnabyddir ef yn 'gerdyn adnabod' gan y Rheilffyrdd Prydeinig, Cymdeithas y Prif Gwnstabliaid, y Bwrdd Glo, yr Awdurdod Ynni Atomig a'r Awdurdod Trydan Prydeinig ymysg sefydliadau eraill. Y mae'r gair PRESS yn fras arno, wrth gwrs, ac mae'n hanfodol yn aml i newyddiadurwyr ar drywydd stori – er nad yw'n, rhoi hawl i ohebydd i gael mynediad am ddim i ble mynno ychwaith, fel y cred rhai pobl!
'Does dim sôn pa sefydliadau a oedd yn barod i gydnabod Tocyn Gohebydd y Wasg Genedlaethol Gymreig erstalwm ond mae'n siŵr y bu cerdyn fel hwn yn gymorth mawr i lawer un wrth ei waith yr adeg honno.