EFFEMERA GREGYNOG ~ Cynnig E.D.Jones

MAE'N wybyddus fod Gwasg Gregynog yn ei hamser wedi argraffu llu o fân bethau fel posteri, cyfarchion, rhaglenni cymanfaoedd cerddorol a gynhaliwyd yn y plas, cardiau Nadolig, tystysgrifau, rhaglenni cynadleddau, ac yn y blaen, yn amrywio o un ddalen i lyfrynnau o ugain tudalen a mwy. Hyd yn ddiweddar, nid oedd yn hawdd dyfalu faint o effemera a gynhyrchwyd gan y Wasg, ond wedi cyhoeddi hanes y Wasg gan Dorothy A. Harrop yn 1980 o dan nawdd Cymdeithas y Llyfrgelloedd Preifat y mae gennym restr sylweddol.

Er nad yw Miss Harrop yn honni fod y rhestr yn gwbl gyflawn y mae ynddi 235 o eitemau wedi eu gosod allan yn ôl dyddiad eu cyhoeddi. Yr eitem gyntaf yw carden Nadolig 1922 yn cynnwys engrafiad ar bren o Gregynog gan Robert Ashwin Maynard a dyfyniad o gyfarchiad Ellis Wynne i ddarllenwyr Gweledigaethau'r Bardd Cwsc, gyda chyfieithiad Saesneg, er bod Miss Harrop yn tybio mai'r pedair llinell Gymraeg yw'r cyfieithiad. Yr eitem ddyddiedig olaf yw Rhif 228 – trefn gwasanaeth coffa i Henry Walford Davies ar 19 Ebrill 1941.

Mae'n siŵr fod llawer o aelodau'r Gymdeithas yn berchen nifer o lyfrau cain Gwasg Gregynog a bod rhai ohonynt wedi trysori rhai o'r rhaglenni cynadleddau y buont yn eu mynychu yng Ngregynog. Gyda rhestr Miss Harrop, hwyrach y bydd rhwyrai'n penderfynu ceisio casglu cymaint ag a allant o'r rhaglenni hyn.

Yn ystod y Rhyfel, llwyddais i achub bwndel go dda o'r domen 'salvage', ac y mae gennyf ddyblygion (un copi) o'r rhifau t191, 192, 195, 209, 147 a 169. Nid oes gennyf syniad pa werth sydd arnynt gan na welais un catalog llyfrau ail-law yn eu cynnig. 'Synnwn i ddim, wedi cael rhestr Miss Harrop, na fydd marchnad iddynt.

Teitl cyfrol Miss Harrop yw A history of the Gregynog Press a'r cyhoeddwyr yw y Private Libraries Association. Mae'n gyfrol hardd ac yn cynnwys hanes y Wasg, gyda nifer sylweddol o ddarluniau yn ychwanegol at y disgrifiadau llyfryddol o lyfrau ac effemera Gregynog. Mae'n siŵr fod rhai o berchnogion siopau llyfrau yng Nghymru wedi sicrhau copïau i'w stoc.

PAMFFLEDI HARLECH

YN ystod saith mis cyntaf 1940 cyhoeddodd Gwasg Aberystwyth gyfres o ddwsin o bamffledi ar ran Coleg Harlech. Erbyn hyn mae'n anodd credu y gellid cyhoeddi pamffled graenus i'w werthu am dair hen geiniog! Dyma'r teitlau:

Fe'u hargraffwyd yng Ngwasg Gee.

LLYTHYRAU'R MORRISIAID

YN negawd cyntaf y ganrif cyhoeddodd J.H. Davies 705 o lythyrau'r Morrisiaid. Daethant allan yn wyth rhan ac yn 1907 crynhowyd y pedair rhan gyntaf i ffurfio Cyfrol I mewn clawr papur. Y mae ynddi 340 o lythyrau, gyda rhagymadrodd a chyflwyniad. Yn 1909 y daeth yr ail gyfrol yn gyflawn gyda llythyrau 341-705. Addawsai J.H.D. yn ei ragymadrodd i'r gyfrol I y byddai mynegeion manwl a nodiadau yn dilyn cyfrol II, ond ni ddaeth hynny i ben.

Yn fy set i, Rhif 110 o 300 copi a argraffwyd ar bapur o waith llaw O.W. ar gyfer tanysgrifwyr, y mae llythyr oddi wrth J.H.D. yn egluro i Syr Henry Lewis, Bangor, nad oedd yn bwriadu cyhoeddi'r mynegai, ond ei fod yn barod mewn llawysgrif. Yn lle hynny, yr oedd yn fwriad ganddo ysgrifennu rhagymadrodd helaeth gyda defnyddiau ar y tri brawd a'r mynegai gyda'i gilydd rywbryd yn y dyfodol i ffurfio trydedd gyfrol. Am hynny, cynghorodd Syr Henry i rwymo'r rhannau yn ddwy gyfrol.

Mae'n amlwg iddo ddilyn y cyfarwyddyd gan fod y set hon wedi ei rhwymo mewn lledr coch, gydag aur ar yr ymylon uchaf, gan Jarvis & Foster, Bangor. Yn Aberystwyth y cyhoeddwyd y cyfrolau a'r argraffwyr oedd Fox Jones & Co., Kemp Hall, Rhydychen.

Yn y Transactions of the Anglesey Antiquarian Society cyhoeddodd Hugh Owen fynegeion i gyfrolau J.H.D., enwau lleoedd yn 1942, enwau personau yn yr un flwyddyn a phynciau yn 1944. Yn anffodus, bu i'r mynegeion hyn rwystro cyhoeddi mynegai manylach a baratowyd gan Ethel Evans, mynegeiwraig broffesiynol, ac erys hwnnw ar gardiau yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Cyhoeddwyd 400 o lythyrau ychwanegol wedi eu copïo a'u golygu gan Hugh Owen, yn nwy ran Y Cymmrodor XLIX, yn 1947 a '49. Llythyrau at bersonau eraill ac nid rhwng y brodyr a'i gilydd, fel yng nghyfrolau J.H.D., yw mwyafrif y rhain. At hynny, y mae atodiadau amrywiol a chasgliad o 40 o lythyrau yn cynnwys llythyrau John Owen, nai, ac Edward Hughes, cefnder y Morrisiaid - llythyrau John Owen yn arbennig wedi eu sensro'n drwm gan y Golygydd.

Yn 1951 cyhoeddodd Cymdeithas Hynafiaethau Môn gyfrol drwchus dan y teitl The Life and Works of Lewis Morris gair Hugh Owen. Catalog o eitemau o waith Lewis Morris mewn llawysgrifau a llyfrau gydag adysgrifau o'i farddoniaeth a rhyddiaith ar wahân i'r llythyrau yw cynnwys ail ran y gyfrol.