BEIBL MAWR AM DDIM ~
Geraint Gruffydd a bargen fawr Siôn Tudur

CHWAREL ddihysbydd bron i haneswyr yr hyn a elwir yn ddiwylliant materol yng Nghymru yw cywyddau gofyn y beirdd proffesiynol Cymraeg – beirdd yr Uchelwyr, fel y'u gelwir – rhwng canol y bedwaredd ganrif ar ddeg a chanol yr ail ganrif ar bymtheg. Yr oedd y cywydd gofyn yn fath cydnabyddedig o gywydd ac yn ôl y Trioedd Cerdd fe ddisgwylid ynddo dri pheth: deisyfu, dyfalu a diolch (wrth ddyfalu fe olygid disgrifio'r gwrthrych a ddeisyfid yn fanwl drwy bentyrru cyffelybiaethau amdano).

Yn ôl Ystatud Gruffudd ap Cynan, rhyw fath o lawlyfr rheolau ar gyfer Urdd y Beirdd, ni châi bardd ofyn am unrhyw rodd ar gywydd heb gael caniatâd perchennog y rhodd yn gyntaf.

Am anifeiliaid neu arfau neu dlysau y gofynnid fynychaf ar gywydd: enghraifft adnabyddus yw'r cywydd gofyn am darw coch gan Ddeio ab Ieuan Ddu y gwelir ynddo'r llinell enwog 'Y ddraig goch 'ddyry cychwyn', a fabwysiadwyd yn fath o arwyddair cenedlaethol.

Ac wedi i'r Gymraeg gyrraedd statws print am y tro cyntaf yn 1546 fe ddaeth rhai llyfrau printiedig yn wrthrychau digon gwerthfawr yng ngolwg y beirdd i gyfiawnhau llunio cywyddau i ofyn amdanynt.

***

Y CYNHARAF ohonynt, hyd y cofiaf ar hyn o bryd, yw cywydd enwog Siôn Tudur i ofyn Beibl gan Wiliam Morgan, a oedd ar y pryd yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Y mae'n dra phriodol mai felly y mae, oherwydd Beibl Morgan oedd llyfr printiedig mawr cyntaf y Gymraeg, ac, fe ellid dadlau, y llyfr printiedig pwysicaf a ymddangosodd erioed yn yr iaith. Fe'i cyhoeddwyd yn ddiweddar yn 1588, yn gyfrol ffolio fechan drwchus o ychydig dros un cant ar ddeg o dudalennau.

Gorchmynnodd y Cyfrin Gyngor fis Medi 1588 fod yr esgobion Cymraeg yn trefnu bod copïau yn cael eu prynu gan y plwyfi, er ein bod yn gwybod bod hyn wedi cymryd cryn amser mewn rhai mannau (gw. yn arbennig Glanmor Williams yng Nghylchgrawn Cymdeithas Hanes Sir Feirionnydd, 1976). Tebyg fod tua mil o gopïau wedi eu hargraffu, gan ddirprwyon Christopher Barker, ac fe ŵyr Miss Eiluned Rees, awdur y catalog o lyfrau Cymraeg a Chymreig rhwng 1547 ac 1820 sy'n cael ei argraffu yng ngwasg y Llyfrgell Genedlaethol ar hyn o bryd, am o leiaf 19 o gopïau sydd wedi goroesi.

Ni wyddys faint a gostiai'r gwaith yn wreiddiol, ond, hyd y gwn i, yn 1954 y gwerthwyd copi perffaith ddiwethaf yn Llundain, a'i bris bryd hynny ydoedd £150. Rhyfyg ar fy rhan fyddai mentro bwrw amcan am gost copi felly heddiw, ond fe fyddai'n syn gennyf petai'n llawer llai na dengwaith cymaint. Hyd yn oed mewn termau masnachol, felly, nid am rodd ddiwerth y gofynnai Siôn Tudur.

Yr ydym yn ffodus iawn fod Dr. Enid Roberts o Fangor wedi cyhoeddi'r flwyddyn ddiwethaf ei hargraffiad gorchestol o holl waith Siôn Tudur. Dyma'r 'Cywydd i Doctor Morgan i erchi ganddo Feibl Cymraeg' fel y ceir ef yn y campwaith hwnnw.