YR HEN FFILM gan Elis Gwyn Jones

OD ... OD . . ., dyna'r geiriau cyntaf a welir wrth i'r ffilm ddechrau troi. Fesul tipyn, ychwanegir llythrennau eraill nes ffurfio'r pennawd EISTEDDFOD BODRAN, a'r arlunydd John Baum o Lanaelhaearn (yn fachgen ysgol ar y pryd) yn peintio'r geiriau o flaen y camera.

Yr oedd cwmni drama Cricieth a'r cylch wedi rhoi drama Saunders Lewis, 'Gwamalrwydd mewn tair Golygfa' chwedl yr awdur, ar y gweill ers tro, ac yn paratoi i gystadlu yn Eisteddfod Caernarfon 1959. Meddyliais y byddai'n beth da, neu o leiaf yn beth newydd, rhoi pwt o ffilm cyn codi'r llenni i gyflwyno'r ddrama a'i chymeriadau. Soniais am hyn wrth un o'r actorion, Dafydd Glyn Williams y siopwr-ffrwythau ffraeth, a doedd na byw na bod wedyn na chaem fynd ati ar unwaith.

Gwyddai Dafydd am ffilmiwr, ac i ffwrdd â ni am Abersoch i weld Mr Cheetham, gŵr busnes wedi ymddeol a chanddo ddigon o amser a'r ewyllys i'n helpu.

Pasiwyd, am wn i, y byddai dwy bellen o ffilm 16mm, mewn lliw ond heb sain wrth gwrs, yn ddigon i lunio rhagymadrodd o ryw chwe munud. Cyfanswm y gost, os cofiaf yn iawn, oedd deuddeg punt – cost y ffilm a'i brosesu – a neb yn meddwl codi am betrol nac amser.

***

MAE'N debyg mai amrwd i'r eithaf oedd ein ffordd o lunio ffilm. Dechreuwyd yn y dechrau, fel petai, a mynd ymlaen fel adrodd stori fesul golygfa, gan amseru'n fyrfyfyr, neu olygu ymlaen llaw. Mi weithiodd, i'n pwrpas ni, heb orfod sisyrnu mwy na dyrnaid o fframiau, a'r unig ran a ychwanegwyd oedd y gwaith penawdu ar y dechrau.

Ein dewis ar gyfer Llanddewin dychmygol Saunders Lewis oedd pentref Llangybi. Rhoddwyd arwydd pentrefol newydd ar y ffordd; daeth ficer y ddrama allan o borth y fynwent, yr Arch-Bencerdd o siop y pentref (pan oedd yr arwydd Groser a Nwyddau Cyffredinol arni go iawn), deffrowyd y PC o'i drwmgwsg gan ei wraig yng ngardd un o'r tai.

Aeth Criwr Bodran i Dy'n Porth i dorri ei syched, a gwerthodd Heilyn ap Gwyn ei docyn Irish Sweep trwy ffenest Jaguar mawr perchennog y camera. Aeth Manawydan O'Leary a Rhiannon i ddawnsio ar y cae rhwng y fynwent a Ffynnon Cybi, ac y mae'r golygfeydd yn profi inni gael diwrnod braf.

Nid oedd mor braf o ran tywydd pan aed i ysgol Pwllheli i ddarlunio'r prif gymeriad yn ymadael â'i swydd athro, ac i ddangos Athro Ysgol y ddrama wrth ei waith. Go dywyll ydyw'r darnau hynny, yn syml am nad oedd gennym ddim moddion goleuo ar wahân i ddwy lamp llwyfan digon gwantan.

YN Y gystadleuaeth yng Nghaernarfon, tywyllwyd y neuadd ,rhedodd y ffilm ei chwe munud ar y sgrin, gan orffen lle mae'r ddrama lwyfan yn dechrau, chwipiwyd y sgrin o'r neilltu, a dechrau ar y ddrama. Gan nad oedd gennym sain ffilm, yr oedd Dr Colin Gresham wedi gofalu am fiwsig ar dap ac offer i'w chwarae, a theimlem fod popeth yn bur foddhaol, chwedl adroddiadau ysgol.

Ond nid felly y teimlai'r beirniad, Herbert Davies. Fe'n collfarnwyd am roi ffilm o flaen drama, yn enwedig drama gan Saunders Lewis. Yn ôl y beirniad, yr oedd hynny fel chwarae Jazz o flaen simffoni. Wel, newid ddaeth o rod i rod.

Er mwyn yr archifau, hon oedd y ddrama gyntaf i Stewart Jones ymddangos ynddi, a'r 'ffilm' gyntaf hefyd. Fo oedd Manawydan O'Leary, y prif gymeriad, a'r actorion eraill oedd Nellie Williams, Dafydd Glyn Williams, Eleanor Parry-Williams, O.J. Roberts, Gwilym Stephen, Edwin Pritchard, Gwyn Roberts, a'r diweddar R.G. Evans.

Ac mae'r ffilm ar gael o hyd.