YR APÊL AT HANES ~ D.Tecwyn Lloyd ar R.T.Jenkins

ENW ar glawr llyfr a gefais yn anrheg Nadolig 1929 oedd o i mi cyn 1934. Y llyfr oedd Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif a'r enw, - R.T. Jenkins, M.A., Ll.B. Dyma, hyd heddiw, fy gopi o'r llyfr enwog hwn. Ni wyddwn, ym 1929, ble'r oedd y Jenkins hwn yn byw, ac ai cyfreithiwr ydoedd? Dyna'r awgrym yn sgîl ei ail radd.

(Yn rhyfedd ddigon – os caf gromfachu yma yn null y meistr ei hun – er cymaint sydd ganddo i'w ddweud am ei gwrs gradd B.A. yng Nghaergrawnt (gw. Edrych yn Ôl tt: 136-75) ychydig sydd ganddo am y radd mewn cyfraith. Fe'i cymerodd, ebr ef, am fod ganddo gryn ddiddordeb ar y pryd yn hanes Rhufain a bod y cwrs yn cynnwys astudiaeth o gyfraith Rufeinig. Tybed a oedd ef hefyd wedi meddwl mynd yn gyfreithiwr?).

Ni wyddwn, ychwaith, ei fod yn hen ddisgybl o Ysgol Tytandomen, y Bala, lle'r oeddwn i ar y pryd. Yn yr ysgol hyglod honno, ar rai achlysuron pan ddigwyddasai rhyw giamocs gwaeth na'i gilydd yn ein plith ni hogiau, caem ein hatgoffa'n ddwys gan y prifathro ar ôl y gwasanaeth boreol fel yr oedd hi'n ddyletswydd arnom gynnal urddas yr hen ysgol a fuasai'n fagwrfa enwogion fel Tom Ellis, Syr O.M. Edwards a Phwlston Jones.

Ond ym 1929 'roedd hi dipyn Yn rhy gynnar i gynnwys R.T. yn y cwmwl tystion urddasol, ac weithiau, bygythiol hyn.

***

A DIGON teg y barnai'n hen brifathro. Cyn y dau ddegau a chyhoeddi Y Llenor, nid oedd R.T. wedi dod yn 'enw'. Bu ganddo erthyglau yn Y Llenor yn gyson o ddechrau'r cylchgrawn hwnnw i'w ddiwedd a 'sgrifennai hefyd, yn llai aml, i'r Efrydydd. Casgliadau o'i erthyglau rhwng 1922 a 1929 yw ei ddwy gyfrol Yr Apêl at Hanes (1930) a Ffrainc a'i Phobl (1930).

Ond gwaith dyn 'newydd' oeddynt yng Nghymru bryd hynny. Erbyn hyn, 'rwy'n siŵr bod ei enw yntau ymhlith urddasolion – nid Ysgol Tytandomen bellach, ysywaeth, ond Ysgol y Berwyn. Ef, yn ddiddadl, oedd y gŵr dysgedicaf a'r polimath mwyaf a gododd y Bala erioed, heb eithrio'r gwŷr a enwais nac 'ymsefydlwyr' fel Lewis Edwards a Hugh Williams.

Nid y buasech yn meddwl hynny ar ddim ond un cyfarfyddiad. Dywedir am rai eu bod yn dwyn baich eu dysg fel chwarae; gydag R.T. 'roedd y ddysg wedi ei chelu bron yn llwyr a phroses graddol oedd adnabod ehangder a manylder ei wybodaeth.

Nid hanes Cymru oedd yr unig saeth i'w fwa; gallasai fod wedi 'sgrifennu hanes Ewrop neu hanes yr hen fyd Clasurol, Groeg a Rhufain, neu'r byd Helenistaidd, yr un mor fedrus. Rhan o'i gwrs ar hanes Cymru ym Mangor oedd trafod y cyfnodau cynnar, cyfnod croniclau Nennius a Gildas, ac yn dilyn hynny, yr Oesoedd Canol. Nid hanesydd dwy ganrif ydoedd.

Crybwyllais rai o'i lyfrau. Nid dyma'r lle i wneud catalog o'i holl waith ond rhaid nodi un peth tra phwysig, a gwneud hynny heddiw yn anad un amser arall. Sef hyn: yn Gymraeg y 'sgrifennodd ef ei lyfrau hanes a'i erthyglau bron i gyd. Yn hyn, yr oedd yn olynydd disglair i haneswyr Cymraeg y gorffennol o Theophilus Evans ymlaen.

Trwy hyn, fe wnaeth hanes Cymru yn beth Cymraeg, yn ddeunydd lle'r ydym ni – Gymry Cymraeg – yn adnabod y Gymru y gwyddom ni amdani. Fe wnaeth i adrodd hanes ein gwlad ddod yn rhan o'n hetifeddiaeth Gymraeg; gwneud trafod ein hanes yn Gymraeg yn beth naturiol sydd yn gymaint rhan o'n hetifeddiaeth ag yw trafod llên a chrefydd yn yr un iaith.

***

HYD Y gwelais, nid oes neb wedi sylweddoli nad fel hyn y mae pethau bellach gyda Hanes Cymru. Saesneg yw iaith y mwyafrif llethol o lyfrau ac erthyglau ar hanes Cymru erbyn hyn, yn lleol a chenedlaethol. Yn ddiweddar, bûm yn darllen cyfrol Saesneg newydd ar hanes y can mlynedd diwethaf yng Nghymru. Diddorol iawn, hwylus iawn mewn sawl cyfeiriad, ond er a ddywedir wrthyf mai hanes Cymru ydyw, y teimlad a gaf i yw mai am dalaith Saesneg yng ngorllewin Lloegr o'r enw 'Wales' y mae'n sôn.

Esgus llawer o haneswyr Cymru heddiw yw nad ydynt yn ddigon siŵr o'r iaith Gymraeg i fedru ei 'sgrifennu'n raenus; rheswm arall yw'r un masnachol, – dim digon o gylchrediad i wneud i'r gwaith dalu. Efallai bod R.T. yn ffodus yn ei gyfnod.

Teitl cyffredinol y casgliad llyfrau y mae ei ddau lyfr hanes yn perthyn iddi yw 'Cyfres y Brifysgol a'r Werin' a'i hamcan oedd dwyn gweithiau dibynnol ac atebol ond darllenadwy i gyrraedd darllenwyr mewn pob math o alwedigaethau. Ym 1929, yr oedd gwerin Gymraeg ar gael y gallai'r brifysgol ddarparu ar ei chyfer serch ei bod, oherwydd dirwasgaid economaidd, yn dechrau teneuo rhagor fel yr oedd hi pan gyhoeddai O.M. Edwards ei gyfresi ef.

***

PRIN fod gennyf y gofod i drafod R.T. fel hanesydd; bûm yn ddisgybl iddo am ddwy flynedd ym Mangor. Y pryd hwnnw, a chyn hynny ac ar ôl hynny, yr oedd llawer o ddadfythu yn digwydd.

Bydd llawer yn cofio Bob Owen Croesor yn 'dryllio'r delwau' a gallaf innau ei gofio, tua 1930, yn siocio parchusion yr Hen Gorff yn y Bala trwy gloi darlith ar Fethodistiaeth ddechrau'r ganrif ddwaetha' gyda bloedd iasol 'Diawl o ddyn oedd John Elias!'

'Roedd Lytton Strachey wedi creu'r ffasiwn hon yn Lloegr gyda'i Eminent Victorians a bu mynd ar ddryllio llawer delw yn y dau ddegau a'r tridegau. Ond nid hanesydd felly oedd R. T.; 'roedd yn llawer rhy dringar a gofalus gyda'i ddefnyddiau i geisio gwneud dim sblout o'r fath.

Ar y llaw arall, 'roedd ei grebwyll beirniadol llym yn ei gadw rhag trafod hanes o ryw safbwynt a priori, anffaeledig, boed y safbwynt hwnnw yn un marcsaidd, rhufeinig, calfinaidd, neu'r hyn a fynnoch.

***

EFALLAI taw dyna'r peth mwyaf a ddysgodd i'w ddisgyblion, sef nad unrhyw ffrâm neu ddamcaniaeth am y gwir a saif ond y gwir ei hun.

***

AR ÔL gadael Bangor a dyddiau coleg, deuthum i'w adnabod yn well. 'Roedd ganddo'i hiwmor sych, cwta, a'i groeso hael, ychydig yn academaidd ('donnish' yw'r gair). 'Roeddwn i, mae'n debyg, yn fwy ffodus na llawer am fy mod yn hen ddisgybl o Dytandomen ac wedyn, fel y dywedais, yn hen ddisgybl iddo ef ym Mangor.

Hughes a'i Fab a gyhoeddodd lawer o'i waith cynnar a pharheais innau yr hen gysylltiad trwy gyhoeddi Casglu Ffyrdd ym 1956 ac Ymyl y Ddalen ym 1958, pan oeddwn yn rheolwr yr hen gwmni. Ar y troeon hynny, ymwelwn ag ef ym Mangor a phob tro, 'roedd yn rhaid imi ddod a fy ngwraig gyda mi er mwyn y cinio hyfryd a baratoid inni gan Myfanwy a'r sgwrs ar ôl hynny.

'Roedd R.T. ar ei orau, ffraethaf a difyrraf bob amser yng nghwmni merched ac yr oedd ynddo lawer o'r hyn a elwid gynt yn gwrteisi hen-ffasiwn; nid annhebyg i Awbri yn ei nofel Orinda.

Wrth edrych ar ei lun ar flaen Casglu Ffyrdd, mi fyddaf yn clywed ei lais a gweld ei osgo. Ac wedyn, yn hiraethu amdano a meddwl y fath fraint oedd cael ei adnabod o 1934 hyd ddiwedd ei oes.

Mae'n od meddwl y buasai ef yn gant oed eleni. I mi ac i bawb a'i hadnabu ac a fu'n ddisgyblion iddo, nid oes heneiddio yn ei hanes; y mae'n un bellach â'r gwŷr mawr y soniodd amdanynt wrthym yn ei lyfrau ac, fel hwythau, yn dal mor fyw ag erioed.