Y DIARHEBION gan Mary Wiliam
BYDDAF yn teimlo weithiau imi ddechrau ymddiddori yn y diarhebion a'r dywediadau pan oeddwn yn blentyn. Yr oedd sgwrs fy mam yn frith ohonynt, a'r un a barodd y lletchwithdod mwyaf i mi a'r difyrrwch mwyaf i bobl eraill oedd "Boy grow, coat (w)on't". Pan ddeuai'r amser imi gael côt newydd a minnau tua saith oed, byddai fy mam yn prynu pilyn i ffitio plentyn deuddeg oed, ac felly byddai'n cyrraedd at fy fferau. Pan fyddwn i'n cwyno'n hallt ei hateb hi oedd "Boy grow, coat (w)on't". Ac yr oedd hyn yn jôc deuluol, byddai'r teulu i gyd yn tynnu 'nghoes am y peth, "Boy grow, again, is it?"
Yr oedd yn brofiad gwefreiddiol wedyn pan es i'r Coleg a darllen Llyfr Coch Hergest a gweld y geiriau hyn am y tro cyntaf erioed, Tyfid maban, ni thyf ei gadachan. Yr oedd yn anhygoel meddwl fod y ddihareb honno wedi cael ei rhoi ar glawr ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg a bod fy mam yn ei defnyddio, mewn cyfieithiad, yn yr ugeinfed ganrif.
Mae hi'n perthyn i'r casgliad a gofnodwyd ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar ddeg, ond mae dau gasgliad hŷn na hynny yn y Gymraeg, un yn perthyn i'r ddeuddegfed ganrif a'r llall i chwarter cyntaf y drydedd ganrif ar ddeg.
Y casgliad hynaf yw eiddo Cyrys o Iâl, y dywedir ei fod yn byw yn y ddeuddegfed ganrif. Cynnwys ryw 300 o ddiarhebion, a hwn yw sylfaen y casgliadau cynnar i gyd. Fe'i ceir yn Llyfr Gwyn Rhydderch (1300-1325) a Llyfr Coch Hergest (c.1400).
Ar ddechrau'r drydedd ganrif ar ddeg ceir casgliad anghyflawn yn Llyfr Du'r Waun (1200-1225), anghyflawn oherwydd mai dim ond diarhebion o a – g yn nhrefn y wyddor a geir yno. Cynnwys 88 o ddiarhebion. Mae'r gweddill ar goll yn llwyr. A cheir casgliad arall o 217 ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg yn Llawysgrif Peniarth 17.
***
YN SGÎL y Dadeni Dysg yn yr unfed ganrif ar bymtheg, daeth yn ffasiwn i gasglu diarhebion, yn Lloegr, ar y Cyfandir ac yng Nghymru. Ym 1547, cyhoeddodd Wiliam Saylesbury ei Oll Synnwyr Pen Kembero y Gyd. Ychydig iawn o waith Saylesbury ei hun oedd yn y casgliad hwn. Casgliad Cyrys oedd cnewyllyn y gwaith ond achubodd fantais hefyd ar Gruffydd Hiraethog drwy ddwyn copi o'i gasgliad diarhebion ef pan oedd y ddau yn cyd-deithio i Lundain.
Ar ddechrau'r ganrif nesaf, ym 1621 cyhoeddodd y Dr. John Davies o Fallwyd ei Eiriadur a oedd hefyd yn cynnwys rhestr o ddiarhebion, ond mae e'n cydnabod ei ddyled i gasgliad meddyg o'r enw Dr Thomas Wiliems o Drefriw ac mae'r casgliad hwn bellach yn y Llyfrgell Genedlaethol, yn 3,500 o ddiarhebion.
Ond yr oedd y ddeunawfed ganrif yn oes rheswm. Daeth pobl i ystyried y diarhebion yn israddol ac yn or-werinol. Ymateb yn reddfol ac yn emosiynol y mae dyn i'r diarhebion nid i'r rheswm. Daeth byw yn beth difrifol iawn. Collodd athroniaeth ac arabedd y diarhebion eu hapêl.
Ddiwedd y ganrif ddiwethaf, mae'r rhod yn troi unwaith eto a cheir casgliad gwych yn y Gwyddoniadur (dros 3,000). Crynhoir yr holl ffynonellau hyn gan J. J. Evans yn ei Ragymadrodd i Diarhebion Cymraeg a chan yr Athro R.M. Jones yn Y Traethodydd, Hydref 1976.
Ac yn ystod y deng mlynedd diwethaf cafwyd dau gasgliad ardderchog sef Dywediadau Cefn Gwlad, Owen John Jones a Llyfr yr Idiomau Cymraeg, R. E . Jones.
***
OND ERYS un ffynhonnell brintiedig nas nodwyd gan yr un ohonynt. Nid oes raid mynd i na llyfrgell nag arwerthiant llyfrau prin, na hysbysebu yn Y Casglwr i gael gafael ar hon, mae ym mhob cartref. Y Beibl yw honno. Mae'r Beibl yn gloddfa werthfawr a ffrwythlon iawn, ond ni cheir y rhestrau taclus yma, mae'n rhaid palu i gael hyd i'r rhain – neu fynd i'r Ysgol Sul!
Er fy mod, yn ddistaw bach, wedi alaru ar yr hen Job erbyn hyn, rwy'n hynod ddiolchgar am y cyfle o orfod darllen ei hanes. Mae wedi bod yn rhyfeddod imi sylweddoli cymaint o arwr gwerin oedd Job. Yr oedd as poor as Job a Job's comforter ar dafod pawb yn ein hardal ni ac mae amynedd Job yn hysbys iawn. Gallech feddwl ei bod yn amhosibl dychmygu cyflwr gwaeth nag eiddo Job ond dyna a ddisgrifir yn y ddau ddywediad canlynol.
Heb grogan i ymgrafu a ddywedir ym Môn i ddarlunio tlodi mawr. Yr oedd gan Job gragen. Pan darawyd ef gan gornwydydd "efe a gymerth gragen i ymgrafu â hi". Fel cywion yr estrys a ddefnyddir yn sir Gaernarfon i ddisgrifio unigrwydd mawr. Mae Job yn ei unigrwydd a'i hunllefau meddyliol yn gweld ei hun "yn frawd i'r dreigiau, ac yn gyfaill i gywion yr estrys".
Eithr nid eistedd uwchben rhestrau cyhoeddedig yw fy null i o gasglu ond yn hytrach eu codi oddi ar lafar. Yr hyn a glywaf ar lafar sy'n peri imi chwilio'r Ysgrythurau fel arfer.
Bûm mewn tŷ y noson o'r blaen yn trafod dyn a oedd wedi'i benodi i swydd reit bwysig, ac meddai gŵr y tŷ, 'fe glywais i ei fod e'n un sy'n hidlo gwybedyn'. 'Doedd dim angen iddo ddweud mwy. Y ddihareb ar ei hyd yw Hidlo gwybedyn a llyncu camel, h.y. ymboeni am y manylion tra bo pethau pwysicach yn cael eu hesgeuluso.
Ac yn Efengyl Mathew, mae yng nghanol paragraff cryf iawn, "Gwae chwi, Ysgrifenyddion a Phariseaid, ragrithwyr! canys yr ydych yn degymu'r mintys, a'r anis, a'r - cwmin, ac a adawsoch heibio y pethau trymach o'r gyfraith, barn, a thrugaredd, a ffydd . . . Tywysogion deillion, y rhai ydych yn hidlo gwybedyn, ac yn llyncu camel".
***
YMADRODD sydd ar dafod pawb yw dwylo blewog wrth sôn am leidr, ond faint sy'n cofio tarddiad yr ymadrodd hwn. Stori enwog llyfr Genesis yw'r tarddle. Mae Jacob gyda chymorth ei fam yn dwyn yr enedigaeth-fraint oddi ar ei frawd Esau. 'Doedd Jacob ddim am fod yn rhan o gynllwyn ei fam, 'Wele Esau fy mrawd yn ŵr blewog a minnau yn ŵr llyfn.
Ond dyma'i fam yn rhoi gwisg Esau amdano a chrwyn y mynnod geifr am ei ddwylo a thwyllwyd Isaac ei dad ganddynt. Meddai Isaac, "Y llais yw llais Jacob; a'r dwylo, dwylo Esau ydynt. Ac nid adnabu efe ef, am fod ei ddwylo fel dwylo ei frawd Esau, yn flewog – felly efe a'i bendithiodd".
Er mai casglu diarhebion ac ymadroddion oddi ar lafar yw fy mhrif ddiddordeb i, rhaid cyfaddef bod y mwyafrif llethol ohonynt ar gael mewn ffurf ysgrifenedig. Eithr dim ond wrth holi a chlustfeinio y gellir darganfod pa rai sydd hysbys heddiw.