WEDI AML SIOM.... T.LlewJones yn cofio Dewi Emrys

GANED Dewi Emrys ar y 26ain o Fai 1881 mewn tŷ o'r enw Majorca House, Cei Newydd, Ceredigion, yn fab i'r Parchedig Emrys James a Mary Ellen Jones, a oedd yn ferch i gapten llong. Yr oedd hi'n ferch Majorca House, ac er mai gweinidogaethu yn y Gogledd a wnâi’r tad ar y pryd - adref i'r Cei Newydd y daeth Mary Ellen i eni ei chyntaf-anedig.

Ond pan oedd Dewi'n blentyn bach saith oed fe dderbyniodd y Parch. Emrys James alwad i weinidogaethu yn Rhosycaearau, sir Benfro. Fe dreuliodd y bardd flynyddoedd plentyndod dedwydd iawn yn y fro honno o gwmpas Pencaer, Garn Gowil a Phwllderi, ac ar hyd ei oes gythryblus mynnai ei enaid hedeg yn ôl i fryniau grugog, tawel y rhan honno o Ddyfed.

Yn wir, i Bwllderi y canodd Dewi ei gan enwocaf oll, a'i gosod yn nhafodiaith gyfoethog y bobl y trigai yn eu mysg pan yn hogyn.

Dywedodd droeon mai yng nghysgod Garn Gowil yr hoffai gael ei gladdu. Serch hynny, mae ei fedd ym Mynwent Pisgah, Talgarreg, Ceredigion heb fod ond rhyw chwe milltir o fan ei eni. Ond fe ofalodd Cymdeithas y Fforddolion (Cymdeithas yr oedd ef yn Llywydd iddi hyd ei farwolaeth), fod yna gofeb hardd yn cael ei chodi iddo uwchben Pwllderi. Bydd llawer yn ymweld â'r fangre honno uwchlaw'r môr ac yn aros ennyd wrth y maen i ddarllen y geiriau.

Yn anffodus, ac am ryw reswm anodd ei esbonio, mae dyddiad ei eni yn anghywir ar y maen coffa hwn. Cerfiwyd arno 1879 yn lle 1881!

***

CYCHWYNNODD Dewi ei yrfa fel prentis-newyddiadurwr ar y 'County Echo' yn Abergwaun, a symud oddi yno wedyn i weithio ar y 'Carmarthen Journal' yng Nghaerfyrddin. Yn swyddfeydd y papur hwnnw y dysgodd grefft cysodi hefyd. Yn fuan iawn roedd yn cynnal ei golofn wythnosol ei hun yn y `Journal', a honno'n golofn dra phoblogaidd.

0 tua deunaw oed ymlaen yr oedd wedi dechrau dod i amlygrwydd mawr fel adroddwr ar lwyfannau eisteddfodau a phrawf gyngherddau mawr y De. Dywedir amdano ei fod, cyn cyrraedd ugain oed, yn feistr llwyr ar y gelfyddyd honno ac yn sgubo popeth o'i flaen. Yn yr un cyfnod yr oedd wedi dechrau barddoni ac ennill cadeiriau eisteddfodol.

Ar hyn i gyd, yr oedd yn gerddor campus a chlywn sôn amdano'n arwain côr plant i lwyddiant eisteddfodol pan oedd yn ifanc iawn. (Yn ddiweddarach fe fu galw mawr amdano fel arweinydd cymanfaoedd canu.)

Ar ben hynny wedyn yr oedd ganddo ddiddordeb mewn arlunio, ac y mae yna un llun o'i eiddo ynghadw gan y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth. Yr oedd yna gynifer o dannau i delyn y gŵr athrylithgar hwn!

Er mai newyddiaduriaeth oedd dewis cyntaf Dewi fel galwedigaeth, yr oedd y Weinidogaeth yn ceisio'i ddenu'n daer iawn, oherwydd ei ddoniau amlwg; ac ym 1901 fe'i cawn yn efrydydd yn y Coleg Presbyteraidd yng Nghaerfyrddin, a phawb yn proffwydo dyfodol disglair iddo fel pregethwr.

Ac yn wir, rhwng 1907 a 1917 (pan ddaeth y chwalfa fawr) – fe enillodd Dewi enw iddo'i hunan fel un o sêr y pulpud yng Nghymru. Denai gannoedd, ac weithiau filoedd, i wrando arno ble bynnag yr âi. Bu'n weinidog gyda'r Annibynwyr yn Nowlais, Bwcle, sir Fflint, Pontypridd a Finsbury Park Llundain.

Yn Finsbury Park yr oedd nes iddo ymuno â'r Fyddin ym 1917. Pan ymadawodd â'r Lluoedd Arfog ni ddychwelodd wedyn at y Weinidogaeth nes cael ei dderbyn yn ôl i gorlan yr Annibynwyr ar Ragfyr yr ail, 1942.

Rhwng 1917 a 1942 fe fu'n teithio'r anialwch. Am gyfnodau hirion yn ystod rhai o'r blynyddoedd hyn fe fu'n drempyn, yn canu ar gorneli strydoedd am ei fwyd a'i lety. Fe fu'n cysgu ar yr 'Embankment' ar lan afon Tafwys yn Llundain ymysg defaid colledig y Brifddinas – a chael yno, yn ôl ei dystiolaeth ef ei hun – fwy o wir Gristnogaeth nag a welodd yn yr un capel!

***

YN YSTOD yr Ugeiniau cynnar fe fu'n gwneud ei orau glas i dorri trwodd fel bardd a llenor yn Saesneg, ac yn wir, fe lwyddodd i ennill tipyn yn achlysurol trwy sgrifennu yn yr iaith fain. Ym 1926 cyflwynodd gyfrol o 'sketches' i Syr William Davies, pennaeth y 'Western Mail' ar y pryd, a dywedodd hwnnw amdanynt eu bod yn "He also told me," meddai Dewi mewn llythyr at gyfaill o Sais, "that I shall be an independent man in a very short time. My next step is to find a good agent to get them through in book form to London. Once these sketches are out I will be on the go, giving public readings etc., etc."

***

DRUAN o Dewi! Ni wireddwyd dim o'r breuddwydion llachar yna - ac ni ddaeth i'w ran fywyd gŵr bonheddig, ar ôl gwneud enw mawr iddo'i hunan ymysg sgrifennwyr enwocaf Lloegr!

Ond ni fu Dewi heb ei lwyddiant ym 1926, oherwydd yn y flwyddyn honno, â'r Eisteddfod Genedlaethol yn Abertawe, fe enillodd y Goron am gyfres o gerddi yn dwyn y teitl `Rhigymau'r Ffordd Fawr'. Daeth yr orchest hon ag ef yn ôl i sylw, ac i freichiau ei genedl. Yr oedd y 'tramp-poet' wedi ennill y Goron Genedlaethol!

Yn ystod wythnos yr eisteddfod fe fu'n cynnal ei lys, fel brenin, yng ngwesty'r 'Mackworth' yn Abertawe, a thyrfa o gynffonwyr yn tyrru o'i gwmpas. Ni allai fyw yn hir yn y fath steil ar y wobr o bum-punt-ar-hugain a enillodd gyda'r Goron, a chyn bo hir 'roedd y cyfan wedi mynd. Dywedir wrthym fod Dewi wedi rhoi'r goron arian, hardd ar wystl mewn 'pawnshop' yn Abertawe i godi ychwaneg o arian.

Yn rhyfedd iawn, nid aeth byth yn ôl i'w hawlio. Ddeng mlynedd yn ddiweddarach prynwyd y Goron gan Sais o'r enw Wilfred Harrison, a oedd, (yn rhyfeddach fyth) yn berchen tŷ, (Hunter's Lodge) yn y Cei Newydd. Yno y mae hi o hyd – o fewn llathenni i'r fan lle ganed Dewi.

Fe enillodd Dewi bedair Cadair Genedlaethol ar ôl 1926, ac mae'n siŵr iddo ennill ugeiniau o gadeiriau i gyd yn ystod ei yrfa eisteddfodol. Ble'r aeth y rheini i gyd?

Ym 1936 dechreuodd Dewi Emrys ei waith fel Golygydd 'Pabell Awen' Y Cymro, a barhaodd bron hyd ei farw ym mis Medi 1952.

***

YR OEDD Dewi'n byw yn Llundain gyda Dilys Cadwaladr a'u merch fach Dwynwen ar ddechrau'r Ail Ryfel Byd, a chafodd brofiadau chwerw o'r `Blitz'. Wedi i'r bomio fynd yn fwrn arno, fe giliodd o'r Brifddinas a glanio ym mhentre bach Talgarreg, lle treuliodd beth amser ar aelwyd Mr a Mrs T.Ll. Stephens lle y gwelodd garedigrwydd mawr.

Yna daeth y "Bwthyn" yn y pentre'n wag, ac fe symudodd i fyw yn hwnnw am y gweddill o'i oes.

Bu farw ar yr 20ed o Fedi 1952, yn ysbyty Aberystwyth, ac ar ddydd ei angladd, ychydig iawn o gyfeillon a charedigion llên a ddaeth ynghyd i gapel Pisgah i dalu'r deyrnged olaf iddo.

Cafwyd cwpled mewn drôr yn y 'Bwthyn' yn ei lawysgrif ef ei hun.

Cerfiwyd hwnnw ar ei garreg fedd.