SIÔN SIENCYN - Y CASGLWR MAWR gan Huw Walters

LLENWID sêt fawr capel yr Annibynwyr ym Mryn Seion, Glanaman pan oeddwn yn grwt gan hen lowyr a gweithwyr tun, – gweddillion hen ddiwylliant y de bellach, a chanlynwyr ffyddlon Annibynia Fawr yn un o'i chadarnleoedd.

Yr oedd y rhain – Henry Thomas o'r Pistyll-llwyd, John Phillips, John Jenkyn Morgan, Dafydd Daniel (gaffer yng nglofa Gelliceidrim a thad Syr Goronwy) yn gynnyrch gweinidogaeth danllyd Towyn Jones yng Nghwmaman, a gallent adrodd yn atgofus hiraethus am yr eisteddfodau plant llewyrchus hynny a gynhaliwyd yn yr ardal yn ystod gweinidogaeth Rhys J. Huws ym mlynyddoedd y Rhyfel Mawr.

Hen ŵr dros ei bedwar ugain oed oedd John Jenkyn Morgan yn fy nghof i, yn lluniaidd ei osgo serch hynny, a'i wallt cyn wynned â'r eira. Mae gennyf gof byw o gael cerydd ganddo un prynhawn Llun y Pasg adeg Cymanfa Ganu Annibynwyr y Cwm, a hynny am i mi ac amryw o grytiaid eraill fynd i guddio i lofft yr organ yn y capel cyn dechrau'r cwrdd pnawn. A gallai Siôn Siencyn fod yn llym ei dafod pan gythruddid ef.

***

GANWYD ef yn y Bodist Isaf, Cwmaman ar Awst 10 1875 yn fab i Jenkin ac Angharad Morgan un o deuluoedd hyna'r ardal. Yn yr un ffermdy y ganwyd Jonah Morgan Cwm-bach, Aberdâr (1807-1884) un o gedyrn pulpud yr Annibynwyr yn ei ddydd, tad-yng-nghyfraith T.M. Thomas y cenhadwr o Affrica a T. Cynonfardd Edwards y darlithydd a'r pregethwr poblogaidd o Wilkes Barre, Pennsylvania.

Ychydig iawn o ysgol a gafodd Siôn Siencyn a dechreuodd weithio yng nglofa'r Mynydd Cwmaman pan yn 12 oed. Bu wedyn yn gweithio ym melin gwaith aIcan y Raven yng Nglanaman cyn ymddeol ohono ym 1930. Yr oedd ei wraig Harriet, hithau yn disgyn o linach anrhydeddus ac yn ferch i Thomas a Sarah Jones o Siop Bryn-lloi yn y pentref. Bu hi farw mewn gwasanaeth crefyddol ym Mryn Seion yn Nhachwedd 1956, a brodyr iddi oedd y Parchedigion W. Glasnant Jones, Abertawe, E. Aman Jones, y Rhyl, a Dafydd GIanaman Jones, Pontardawe – cofiannydd Cranogwen.

Mewn oes ddifantais manteisiodd Siôn Siencyn ar bob cyfle i hogi meddwl a dawn. Yr oedd yn ŵr o ddiwylliant eang, a thrwy ei gyfeillgarwch agos â Richard Williams, Gwydderig, datblygodd yn eisteddfodwr brwd, ac enillodd lawer o wobrau, yn bennaf am draethodau a llawlyfrau ar hanes lleol.

Urddwyd ef yn aelod o Orsedd y Beirdd yn Llanelli ym 1895 ac fel Glanberach yr adwaenid ef yng Ngorsedd. Gwasanaethodd fel un o lywyddion y dydd yn Eisteddfod Genedlaethol 1948, ym Mhen-y-bont ar Ogwr, ac ef oedd aelod hynaf yr Orsedd ar farwolaeth Elfed ym 1953.

Bu'n gystadleuydd cyson a pheryglus yn yr Eisteddfodau Cenedlaethol yn ogystal, ac ni fu ei well am feirniadu'r beirniaid, yn enwedig os oedd y rheini'n rhai o geiliogod y colegau. Cipiodd wobrau yn Eisteddfodau Rhydaman 1922, Abertawe 1926, Caergybi 1927, Dinbych 1939, Llanrwst 1951 a Phwllheli 1955.

Wedi ymddeol ohono ym 1930 aeth Siôn Siencyn ati o ddifri i groniclo hanes ei ardal gan gasglu manylion am yr hen ddiwydiannau a'r achosion crefyddol, cymeriadau mawr a bach fel ei gilydd, a chasglodd gannoedd lawer o ganeuon, cerddi ac englynion beirdd y rhan arbennig hon o ddwyrain yr hen Sir Gâr a gorllewin Morgannwg.

Yr oedd yn achydd tan gamp yn ogystal, a chasglodd ddeunydd o bob math ar deuluoedd y fro. Darlledodd cryn lawer ar y radio yn enwedig yn y pedwardegau a chyfrannodd erthyglau ar hanes lleol i'r wasg gyfnodol a newyddiadurol Gymraeg. Bu farw yn ei gartref ar Fryn-lloi, Glanaman ar Fai 18 1961 a chladdwyd ef ym mynwent yr Hen Fethel Cwmaman.

***

GWYDDWN, a minnau'n grwt ysgol am y trysorau, am y llyfrau print a llawysgrifau a gasglodd Siôn Siencyn dros y blynyddoedd, ond cyndyn iawn oedd ei deulu i ganiatáu i neb eu gweld. Fodd bynnag pan ddechreuais fagu diddordeb mewn hanes lleol, a minnau ar y pryd yn ddisgybl chweched dosbarth yn Ysgol Rhydaman, llwyddais i gael caniatâd y teulu i gopïo’r traethodau ac i godi nodiadau o bapurau'r hanesydd.

Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach yng Ngorffennaf 1976 gwelais un o ferched Siôn Siencyn yn Aberystwyth, soniodd wrthyf ei bod yn bwriadu adnewyddu'r hen gartref ar Fryn-lloi a'i bod yn awyddus i glirio'r holl lyfrau, – gan fod gormod yno i'w llosgi! Euthum yno ar f'union y Sadwrn canlynol ac fe'm brawychwyd gan faint y dasg â'm hwynebai.

Cauwyd Siop Bryn-lloi yn ystod dirwasgiad y tridegau ac fe'i defnyddiwyd gan Siôn Siencyn fel ystafell waith tan ei farw. Yr oedd y siop yn orlawn gan lyfrau, y silffoedd yn gwegian dan bwysau llyfrau a phapurach o bob math, y llawr wedi'i orchuddio gan gistiau te a bocsys a'r rheini'n llawn cylchgronau a phapurau newyddion.

Gweithiwr cyffredin fu Siôn Siencyn erioed a phrin fod ganddo lawer o gyfoeth y byd hwn i wario ar lyfrau. Serch hynny llwyddodd i gasglu llyfrgell gyffredinol dda o ddefnyddiau yn ymwneud â hanes Cymru, a hanes Sir Gaerfyrddin yn fwyaf arbennig.

Amrywiai'r deunydd hyn o fân bamffledi fel Caio a'i Hynafiaethau, Gwilym Teilo, i lyfrau ychydig mwy sylweddol fel Hanes Plwyfi Llangeler a Phenboyr, D.E. Jones neu Old Llanelly, John Innes, ac i gyfrolau mwy swmpus fyth fel eiddo D. Rhys Phillips The History of the Vale of Neath. O'r casgliad hwn hefyd y cefais fy nghopïau o Hanes Eglwysi Annibynol Cymru, Thomas a Rees, a nifer fawr o weithiau defnyddiol eraill megis Album Aberhonddu, Oriel Coleg Caerfyrddin, llu o eiriaduron bywgraffyddol gan gynnwys dwy gyfrol fawr Josiah Thomas Jones, a gweithiau Helen Elwy, Iorwerth Ceitho, Isaac Foulkes, T. Mardy Rees, Thomas Morgan Sgiwen, ac eraill.

Yr oedd yno gasgliad da hefyd o ddefnyddiau a argraffwyd gan Reesiaid y Tonn yn Llanymddyfri gan gynnwys copi glân o'r Iolo MSS a fu unwaith yn eiddo i Watcyn Wyn.

***

SIÔN Siencyn oedd ysgrifennydd darllenfa'r glowyr yng Nghwmaman a chanddo gyfrifoldeb dros brynu defnyddiau i'r llyfrgell. Pan fu farw Rhys J. Huws ym 1917 trefnodd Siôn Siencyn i brynu ei lyfrgell, – dros dair mil o gyfrolau i'r ddarllenfa am £150.

Nid dyma'r lle i adrodd tynged anffodus y ddarllenfa hon, digon yw dweud i'r cyfan gael ei chwalu yng nghanol y chwedegau, ond yr oedd amryw o gyfrolau'r casgliad ymhlith llyfrau Siôn Siencyn. Casgliad o weithiau gan Fyrddin Fardd er enghraifft, Caniadau John Morris-Jones (yr argraffiad arbennig), a chylchgronau fel y Cymru coch a'r hen Geninen.

Ychydig o lyfrau'r ddeunawfed ganrif a berthynai i'r casgliad fodd bynnag, ond yr oedd yno gopi o argraffiad 1722 o'r Ffydd Ddiffuant, Charles Edwards, rhai marwnadau a baledi a chasgliadau o emynau.

Soniais eisoes am draethodau eisteddfodol Siôn Siencyn. Cefais gyfle i gopio rhai o'r defnyddiau hyn flynyddoedd yn ôl, megis ei fywgraffiad o'r baledwr a'r gwrth Undodwr Owen Dafydd o Gwmaman (1751-1814?), yn ogystal â'i gasgliad o weithiau anghyhoeddedig beirdd dyffryn Aman.

Ond eitem ddiddorol arall na wyddwn i ddim amdani oedd ei gofiant i'w gyfaill Gwydderig ynghyd â chasgliad o englynion y bardd, – casgliad sy'n cynnwys ugeiniau o englynion nas cyhoeddwyd gan Mr J. Lloyd Thomas yn ei Ddetholion o Waith Gwydderig, 1959. Cyflwynais lawer o'r eitemau hyn a oedd mewn llawysgrif ar ran y teulu i ofal y Llyfrgell Genedlaethol.

***

FEL Y gellid disgwyl yr oedd cynnyrch gwasg Gymreig y ganrif ddiwethaf yn amlwg yn y casgliad, – y gwych a'r gwachul fel ei gilydd, cyfrolau amryw o bregethau a chofiannau, marwnadau a baledi a argraffwyd yn lleol. Ac yn y defnyddiau hyn yr oedd fy mhrif ddiddordeb i, er imi gadw popeth a berthynai i'r casgliad gwreiddiol.

Fe'm brawychwyd wrth baratoi'r nodyn hwn pan sylweddolais mai ugain mlynedd yn ôl i eleni y bu John Jenkyn Morgan farw, ac yr oedd yn sicr ymhlith yr olaf o weithwyr diwylliedig Cwmaman. Ac wrth ystyried hynny cyfrifaf hi'n fraint o gael fy ngheryddu mor llym ganddo flynyddoedd lawer yn ôl yng Nghymanfa Annibynwyr y Cwm.