DEWIN Y GEIRIAU ~ J.E.Caerwyn Williams ar Syr Ifor
MAE can mlynedd er pan aned Syr Ifor (16 Ebrill 1881) a thros bymtheng mlynedd er pan fu farw (5 Tachwedd 1965), ond erys y cof amdano'n rhyfeddol o fyw. Fel arholwr allanol i Golegau Prifysgol Cymru eleni cefais gyfle i fwrw golwg dros atebion nifer sylweddol o fyfyrwyr gradd anrhydedd yn y Gymraeg, a'r hyn a'm trawodd oedd amled y cyfeiriadau at ei waith, ac nid yn unig at ei brif weithiau, Pedeir Keinc y Mabinogi, Canu Llywarch Hen, Canu Aneirin a Chanu Taliesin, eithr hefyd at erthyglau o'i eiddo. Tyst yw hyn, wrth gwrs, i fawredd ei waith, fod athrawon, darlithwyr a myfyrwyr yn dal i gnoi cil ar ffrwyth ei ysgolheictod.
Fel rheol, gwaith llenorion a phrif lenorion yn unig sy'n goroesi. Buan y bwrir i ebargofiant waith beirniaid ac ysgolheigion. Nid felly y digwyddodd yn achos Syr Ifor, ac nid felly y digwydd yn y dyfodol, oblegid nid mentrus yw proffwydo, cyhyd ag y bydd sôn am y Cynfeirdd Cymraeg, bydd sôn am Syr Ifor, eu lladmerydd.
Ond nid mewn atebion arholiad nac ychwaith mewn llyfrau ysgolheigaidd yn unig y clywir dyfynnu geiriau Syr Ifor eithr hefyd mewn pregethau, a hynny mewn pulpudau mor bell oddi wrth ei gynefin ef ag Aberystwyth, Abertawe a Chaerdydd.
Ac eto mae'r cof am y bersonoliaeth yn graddol ddiflannu. Cyfeiriodd yr Athro Kenneth Jackson at hiwmor Syr Ifor mewn cyfarfod yn Aberystwyth yn ddiweddar. Er mawr syndod i un o aelodau iau staff yr Adran Gymraeg: er ei bod hi'n gyfarwydd iawn â gweithiau Syr Ifor, nid oedd wedi meddwl amdano fel gŵr yn llawn arabedd a ffraethineb. Pe buasai'n un o gyn-fyfyrwyr Syr Ifor, ni allasai gofio amdano heb gofio am ei sylwadau ffraeth a chellweirus.
***
'RWY'N sicr fod rhai o fyfyrwyr yr Adran Gymraeg yng Ngholeg Bangor cyn y Rhyfel diwethaf yn cofio am gyfarfod o Gymdeithas Llywarch Hen ar ddiwedd rhyw dymor Nadolig ac ynddo dri o wŷr enwocaf y lle ar hynny o bryd yn tynnu torch am ddweud straeon, y Tri Doc, Thomas Richards, R.T. Jenkins, ac Ifor Williams. Afraid dweud, Syr Ifor oedd y gorau o ddigon.
'Roedd ei hiwmor yn adlewyrchu hiwmor chwarelwyr Bethesda, 'roedd yn drwyadl Gymreig a Chymraeg; ac yr oedd, fel y gweddai i ysgolhaig a oedd wedi ymdrwytho yn llenyddiaeth y Gymraeg o'i chychwyn yn y chweched ganrif hyd yr ugeinfed, yn dibynnu llawer iawn ar wybodaeth o eirfa'r Gymraeg.
Un o'i ffraethinebion y noson honno - ac yr oeddynt yn llifo ohono fel dŵr yr afon - oedd adrodd amdano'i hun yn dod ar draws hogyn bychan yn treio pysgota wrth lan afon ger Pwllheli. Syr Ifor yn gofyn cwestiwn cwbl nodweddiadol ohono ef ei hun. 'Be' wyt ti'n galw'r afon 'ma, 'ngwas i?' Yr hogyn yn ateb: 'Nid ei galw hi 'rydw' i. Dwad ohoni ei hun y mae!'
Pe bawn yn ceisio crynhoi cyfrinachau llwyddiant Syr Ifor i dair, fe ddywedwn mai dyna oeddynt: Oes o ymroddiad diymarbed i astudio'r Gymraeg; ymennydd pwerus wedi ei gynysgaeddu â chof aruthrol ac â gallu ymresymu enfawr; a phersonoliaeth a nodweddid ar y naill law gan benderfyndod diymollwng ac ar y llaw arall gan ddynoliaeth braff.
Nid pawb sy'n cofio erbyn hyn fod Syr Ifor wedi cael afiechyd mawr yn ei arddegau a'i fod wedi bod yn orweiddiog am amser maith. Yr hanes cyntaf a glywais i amdano oedd ei fod yn arfer ymweld â modryb i mi a oedd wedi ei goddiweddyd i'r un afiechyd ag yntau, ac yn orweiddiog fel yr oedd ef wedi bod. Arferai roi hanner coron yn ei llaw, a dweud wrthi gan wenu'n dyner arni: 'Codwch dâl, 'mechan i, ar bawb sy'n dod i'ch gweld chwi!'
Onid wyf yn camgymryd yn arw, yn ystod ei afiechyd y dechreuodd Syr Ifor osod sylfeini ei ysgolheictod, ac yn ystod yr un afiechyd y datblygodd ei gydymdeimlad mawr â phobl. Ni synnwn i 'chwaith mai dyna'r adeg y dechreuodd ffraethinebu a chellwair. Y dewis oedd cellwair neu grio.
Un o'i hoff ddywediadau oedd nad oes neb ond y sawl sydd yn cymryd pethau o ddifri, yn gallu cellwair. Yr oedd ef yn cymryd ei ysgolheictod a'i fywyd o ddifri calon, ac yn rhyfedd iawn yr oeddem ni, ei fyfyrwyr, fel pawb arall a'i clywodd yn darlithio, yn darlledu, ie ac yn pregethu, yn mwynhau ei gellwair ac yn ymglywed â'i ddifrifwch yr un pryd.
Gair i derfynu. Y ffordd hawsaf y gwn i amdani i neb ddod o dan gyfaredd Syr Ifor yr ysgolhaig yw darllen ei lyfryn Enwau Lleoedd, perl ym mhob ystyr.