DAN Y DŴR gan Mary Ellis
DICHON mai llyfr prin erbyn hyn yw The Vale of Nantgwilt gan R. Eustace Tickell (1894). Cyfyngwyd yr argraffiad i 500 o gopïau, ac y mae'r copi sydd gennyf fi wedi ymddatod oddi wrth ei gilydd. Y glud oedd yn ei sicrhau sydd wedi sychu, fel bo'r clawr a'r tudalennau'n rhyddion. Mae'n llyfr mawr, 15 modfedd wrth 11, ac ynddo ddarluniau hyfryd. Byddai'r rhain yn gwerthu'n dda mewn siopau twristiaid a chasglwyr darluniau, a 'synnwn i ddim nad dyna sydd wedi digwydd i nifer o luniau'r llyfr.
Disgrifio Cwm Elan a Chwm Nantgwyll cyn eu boddi y mae'r llyfr. Erbyn hyn, ceir cadwyn o lynnoedd sy'n denu pobl o bob man, ond deil R.E. Tickell mai hwn oedd un o ddyffrynnoedd harddaf Prydain. Mae'n cael cystal hwyl ar foli'r lle, nes teimlo fod yn rhaid iddo gyfiawnhau'r boddi. Anodd yn wir, meddai, fyddai dyfod o hyd i ardal lle gellid codi argae ar 70 milltir sgwâr heb ddiwreiddio llawer mwy o bobl.
Un o'r peirianwyr wrth y gwaith o godi'r argae oedd Tickell, gŵr o Cheltenham, ac ef a dynnodd y lluniau yn y man a'r lle gyda phen ac inc. Trosglwyddwyd y rhain i blât-copr ac yna eu sur-lunio (etching). Dywed mai cyfaill iddo a wnaeth hyn. Y lluniau sy'n gwneud y llyfr yn werthfawr.
Yn y llun o Nantgwyllt, mae'r plasty yn y cefndir, a dwy wraig a phlentyn o'i flaen. Mae'r coed ffynidwydd yn cuddio hanner y tŷ, ac afon Claerwen ar flaen y darlun. Mae'r llun o'r capel yn fanylach. Capel-anwes i eglwys Cwmteuddwr ydoedd; ac addolai teulu'r plas yno ar brynhawn Sul. Yn y llun o Blas Cwm Elan mae defaid yn pori yn y caeau o'i flaen a phont dros afon Elan. Ceir darlun arall wedi'i dynnu oddi ar y bont.
Yng nghyfrol Mr Ffransis G. Payne, 'Crwydro Maesyfed', rhan 2, mae llun clir iawn o ffrynt y tŷ 3 a hanes y teuluoedd yn gryno. Enw ar lyn yw Dôl y Mynach erbyn hyn; mae llun yr hen ffermdy yma ynghanol y coed, a lluniau Tan y Foel a Glan yr Afon, tai mewn dyffrynnoedd isel, coediog. Rhoes Tickel bobl ym mhob un o'r lluniau. Tybed ai eu gosod yno a wnaeth, ynteu digwydd taro'n lwcus?
***
TAIR pennod sydd i'r llyfr; un dechnegol yn amlinellu cynllun dŵr Birmingham, yr ail am gysylltiad Shelley â'r ddau blasty gan William Michael Rossetti, brawd y beirdd Dante Gabriel a Christina Rossetti. Mae'n sôn am hen wraig a arferai gario'r post i Gwm Elan ac a gofiai Shelley fel gŵr ifanc llawen, gyda chrys agored a chapan bach am ei ben; ond gwisgai het uchel i fynd i'r eglwys ar y Sul. Rhoes degell pres yn anrheg iddi a phapur pumpunt yn y caead. 'Does ryfedd ei bod yn ei gofio!
Pennod hanesyddol ar The Grange of Cwmdeuddwr yw'r olaf, gan Stephen W. Williams. Peiriannydd oedd yntau, ond fel hynafiaethydd y mae'n fwyaf adnabyddus. Ef a brisiodd stad Nant-gwyllt pan brynwyd hi gan Gorfforaeth Birmingham.
Gini oedd pris y llyfr ym 1894, a chynigiwyd ugain copi o'r darluniau'n unig am ddwy gini. Rhif 305 yw'r copi hwn.