CYFROL NEU DDWY gan Robin Williams

NID OES un dim arall yn hollol yr un fath â pherchenogi llyfrau. Y mae'r peth yn brofiad ynddo'i hunan. Mae anwylo clawr a dalen yn agos debyg i'r anwes a roddir i hen gyfaill oes. Onid hynny'n wir yw union graidd y mater – nad llarpiau o bapur llipa ydyw llyfrau, ond cyfeillion cynnes y gellir troi atynt am bwt o sgwrs neu fymryn o gymorth? A'r rheini'n gyfeillion am oes.

Fe geir y cyfrolau hyn ym mhobman o gwmpas y cartref, yn sefyll ar silff, yn gorwedd ar ddesg ac yn pwyso ar fur. Mae dau neu dri ohonyn nhw wedi eu gwahodd at y bwrdd, gydag un arall yn gorffwys yn agored braf ar fraich y gadair. Maen nhw yno bob amser at alwad, yn cadw'r un fath ym mhob tywydd, – yn ddibynnol, yn driw, yn ddifyr, ac ar brydiau'n bryfoclyd. Ac fel pob cyfaill da, yn medru bod yn rhyw newydd bob gafael.

Peth digon rhwydd, yn wir, fyddai dosbarthu llyfrau fel y dosberthir cyfeillion. Mae rhai ohonyn nhw'n blant; yn bethau difyr a dyrys, ac yn drafferthus ar brydiau. Mae rhai yn bobl ifainc; pethau powld, llawn pŵer, sy'n gallu bod yn eithafol a rhyfygus. Mae eraill yn aeddfed ganol oed, yn fwy pwyllus eu barn, onid yn fwy gochelgar. A'r gweddill yn hen bobol sydd, gan amlaf, yn cynnwys swm o olud ynghyd â'r rhin hwnnw sy'n perthyn i bopeth oedrannus.

***

FEL gyda gwahanol gyfeillion gellir bod yn fwy digywilydd gyda rhai llyfrau. Ni phetrusir ynghylch marcio ambell lyfr, gan glustnodi paragraff a thanlinellu brawddeg yma ac acw. Nid yw'n drosedd yn y byd plygu ymyl dalen hwnt ac yma er mwyn nodi lleoliad rhyw bwynt mwy diddorol na'i gilydd sydd gan yr awdur. Y mae'r llyfr hwnnw'n debyg i'r cyfaill nad oes gofyn canu cloch ei dŷ i aros am dderbyniad; nid oes angen dim ond prin dapio'i ddrws, ei agor a cherdded i mewn i unrhyw ystafell o'i gartref yn ddiwahardd, a hynny heb ofni tramgwyddo o gwbl.

Ond y mae cyfeillion eraill na ellir bod mor hyf arnynt. Am eu bod yr hyn ydynt y maen nhw'n hawlio parch. Ar rai prydiau fe'u perchir, nid yn gymaint oherwydd eu cynnwys ag am eu gwisg. Dyna'r rhwymiad arbennig hwnnw a wnaed o lyfrau T. Gwynn Jones ym 1936 gan Hughes a'i Fab. Dim ond un o'r rheini sydd gennyf i, sef 'Astudiaethau'. Y clawr o felwm gwyn, brig uchaf y dail wedi eu goreuro, gyda gweddill yr ymylon yn freision ac anwastad. Y mae byseddu graen a thrwch y papur godigog yn deimlad cwbl arbennig, gyda sŵn clecian llythrennol yn digwydd wrth droi'r dalennau gwydn. Er nad oes ynddo ond 166 o ddalennau, eto mae'r llyfr hwn ar glorian yn tynnu'n glos at ddeubwys.

Mae'r unig ysgrifennu sydd arno i'w weld mewn dau le: ar y ddalen flaen ,lle ceir a ganlyn mewn tair llawysgrifen wahanol:

    Rowland Thomas,
    Caxton Press, Oswestry. 4:4:43
    Eric L. Thomas, Caxton Press, Oswestry.
    Cyflwynaf hwn i Robin er cof am ei ymweliad â Chroesor Sul Awst 24 yn y fl. 1952.
    Gan ei berchennog Bob Owen.

Yna, ar y diwedd eglurir mai 105 a wnaed o'r argraffiad hwn, ac mai'r copi a gefais i gan y llyfrbryf caredig yw Rhif 1. Mewn inc o dan hynny y mae llofnod T. Gwynn Jones. Yn awr, ni feiddiwn farcio'r llyfr hwn am bris yn y byd, a byddai plygu cornel tudalen ohono yn waith fandal.

***

LLYFR arall y byddaf yn dotio at ei rwymiad a'i harddwch yw `Dr Johnson's Journey Into North Wales in the Year 1744'. Fe'i cyhoeddwyd ym 1816 mewn lledr melyn llyfn, gyda llinellau aur yn cwmpasu ymyl y ddau glawr. Mae gwegil y llyfr wedi'i rannu â defnydd du yn bum rhan, i gynnwys y teitl a phedwar rhosyn, – y cyfan mewn aur.

Y mae hefyd lyfrau sy'n mynnu parch, nid oherwydd na chynnwys na rhwymiad o raid, ond oherwydd gwir henaint, heb anghofio bid siŵr ddyfalwch maith yr awduron. Rwy'n cyfeirio ar y funud at 'Llyfr y Resolution', sef y cyfieithiad hwnnw a wnaed gan y Doctor John Davies, Mallwyd. Ni welaf ddyddiad arno, namyn yr hysbysiad ar yr wyneb-ddalen, – sydd mor felyn-frau â deilen hydref: 'Argraphwŷd yn y Mwythig'.

Llyfr bychan ydyw, cwta bum modfedd wrth dair, ac ar waelod y drydedd dudalen ceir yr ysgrifen hon mewn inc: 'Evan Roberts Brunderw iw gwir Berchenog y llyfur Hwn'. (Sylwaf yn 'Hanes Llenyddiaeth Gymraeg hyd 1900' mai'r dyddiad a ddyry Syr Thomas Parry yw 1632.)

Dyna wedyn 'Lyfr y Tri Aderyn' gan Morgan Llwyd ym 1653. Mae gennyf gopi a argraffwyd yn Wrecsam gan R. Marsh ym 1778; diddorol yw sylwi ar deitl cywir, a maith, yr awdur: 'Dirgelwch I rai iw Ddeall Ac i eraill iw Watwar, esef Tri aderyn yn ymddiddan, yr Eryr, a'r Golomen, a'r Gigfran, Neu Arwydd I Annerch Y Cymru Am y flwyddyn 666.' Ar agoriad y llyfr mae'r ysgrifen: 'William Jones, Tynycelyn, Llanelidan, His Book.' Ar derfyn y gyfrol ceir: 'John Denman, Ty Coch, Chief Constabl. (sic) His Book'.

***

ER BOD pob sgribl a wnaed gan gyn-berchnogion llyfrau fel hyn yn ddiddorol, ac weithiau'n ddadlennol, ni fyddwn i, fel y perchennog presennol, yn ystyried mynd ati i farcio yn ychwanegol ar na dalen na chlawr. Byddai peth felly'n drosedd anfad. Onid yw neges pin main yr hen ddarllenwyr hynny bellach wedi troi'n rhan gynhenid o'r gyfrol rywfodd, ac yn gysegredig ymron?

Mae'n rhaid bod sgrifeniadau felly'n bethau pur gyffredin. Wrth edrych ar y copi sydd gennyf o'r farddoniaeth a gasglodd Rhys Jones o dan yr enw 'Gorchestion Beirdd Cymru', y mae henaint gwir wedi'i lapio o gwmpas y gyfrol. Llyfr sgwarog ydyw (rhyw saith-modfedd-a-hanner wrth saith) ac er ei fod yn burion cyfan, y mae golwg ryfeddol o flinedig arno, ei glawr yn bygddu gyda nifer o ddafnau gwêr cannwyll wedi hir geulo ar y defnydd.

O agor y llyfr gellir gweld fel y mae'r meingefn wedi'i rwymo gyda thri llinyn eithaf bras, sydd â'i bwyth yn dal ynghlwm o hyd. Yno hefyd y llecha gweddillion pryf copyn a ddiberfeddwyd gan y blynyddoedd, yn sgleinio fel cragen blastig. Mae'r dalennau'n fflat ddi-ffrwt, a'u gwynder bellach yn felyn budr.

Ond wele 'hynafol olion rhyw farwol law': o'r tu fewn i ddeupen y clawr y mae tryblith o rifau, – dygn ymgeision rhyw bendronwr a aeth ati i gyfrif ei bunnoedd a'i sylltau hyd y ffyrling eithaf. Ar dudalen 156, â'i ben i lawr, y mae math o setlo cownt ynghylch '£4 of Tobacco at 4 . . .' (rhywbeth neu'i gilydd) 'Settled the above by me some . . .' (rhywbeth) a'i arwyddo otanodd: 'Frolig'. Pwy neu beth, oedd Frolig?

Un peth amlwg drwy'r cynnwys yw fod y perchennog wedi darllen y 'Gorchestion' yn ddyfal, ddyfal, gan roi croes gydag inc cochddu gwantan lle gwelodd air lled ddieithr, ac yna ysgrifennu'r ystyr gyferbyn. Wele ddyrnaid bychan o enghreifftiau: Edlingferch – etifeddes frenhinol; aelaw – golud, cyfoeth; aingc – awydd; dioer – sicr; dulio – curo; ffion – gwridgoch; difannwll – difancoll, etc.

Gyda llaw, y tu mewn i glawr eithaf y gyfrol, lle gwelir ychwaneg o sỳms dryslyd, fe geir y frawddeg hon, - mewn pensel y tro hwn:

'This is an excellent book'.