CRYNHOI'R PERLAU gan Emyr Price

ELENI bu farw De Witt Wallace, sylfaenydd y Reader's Digest, y misolyn Americanaidd a ddarllenir ledled y byd. Cododd ei gylchrediad Americanaidd o 10 miliwn ym 1955 i 18 miliwn ym mlwyddyn ethol un o'i arwyr mwyaf – Ronald Reagan. Ym 1981 hefyd, 'roedd ei gylchrediad y tu allan i U.D.A. yn 12 miliwn. Ar unrhyw gownt, felly, bu'n fenter hynod lwyddiannus.

Fel y mae'n hysbys, cylchgrawn ydyw, sy'n adlewyrchu holl werthoedd traddodiadol ceidwadol Canol America ynghyd â chlodfori cyfalafiaeth a chondemnio Comiwnyddiaeth. Mae'r erthyglau, bron yn ddieithriad, yn dehongli'r byd a'r betws o safbwynt y `freuddwyd fawr Americanaidd' tra torrir ar y prif erthyglau gan bytiau o ddywediadau, anecdotau a sylwadau 'doniol' a dwys gyda phwyslais ar themâu, megis 'Humour in Uniform'. Prin y gellid galw creadigaeth De Witt Wallace yn gylchgrawn radicalaidd ei naws.

Fodd bynnag, esgorodd y Reader's Digest ar faban Cymreig a Chymraeg a ymddangosodd am gyfnod yn y 40au a'r 50au – chwarterolyn a oedd yn bur wahanol ei agwedd a'i naws i'r Digest Americanaidd.

Deuthum ar draws Y Crynhoad rai wythnosau'n ôl tra'n tyrchu trwy hen bapurach yn giarat perthynas i mi. Ymhlith y toreth o bapurau y bûm yn eu chwynnu, canfûm un copi brycheulyd o'r hyn a dybiwn oedd rhifyn di werth o'r Reader's Digest. Ond wedi craffu'n glosiach, gwelais mai pennawd Cymreig a feddai, sef, Y Crynhoad, er bod fformat y clawr yn dra thebyg i'r Digest. Y dyddiad arno oedd Gorffennaf 1952. Y pris oedd 1 swllt a 6 cheiniog neu 7 a hanner c.n. i'r genhedlaeth nad yw'n cofio'r dyddiau braf cyn dyfod yr arian degol. Rhifyn 13 ydoedd.

Felly, gan mai pob chwarter y cyhoeddid ef, gellir dyfalu iddo gael ei lansio ym 1949. Cyhoeddwyd ac argraffwyd ef gan y diflanedig Hughes a'i Fab, Cyf., Gwasg y Brython, Lerpwl a'i olygyddion oedd y Parchn. Iorwerth Jones, Ystalyfera, a Dr. R. Leonard Hugh, Cilfwnwr, Mynyddbach. Tybed ai cywir yw dyfalu mai'r cyntaf o'r brodyr hyn yw'r golygydd-hanesydd Annibynnol o Lanelli, sef, cofiannydd David Rees, Capel Als, Llanelli, awdur Y Cynhyrfwr.

***

A BARNU oddi wrth rifyn Gorffennaf 1952 o'r Crynhoad gwelir ei fod yn ymdebygu o ran diwyg a fformat i'r Reader's Digest i ryw raddau, oherwydd 'roedd y teipograffi a maint y tudalennau yn ogystal â'r clawr yn lled-debyg i'r Digest, er mai dim ond 56 o dudalennau a geid yn y rhifyn neilltuol hwn. Torrid ar bob erthygl hefyd gan bytiau o ymadroddion bachog, straeon a jôcs yn nhraddodiad y Digest.

Ond dyma'r unig debygrwydd, fodd bynnag, oherwydd 'roedd i'r Crynhoad ei nodwedd arbennig Gymreig a Chymraeg. Er enghraifft, ymhlith y pytiau fe geid, tudalen ohonynt a fedyddiwyd yn "Ffraethinebion Enwadol" gydag anecdotau, megis,

"Nid yw capel bach y Bedyddwyr mor llewyrchus ag y bu. Clywyd un o golofnau'r achos yn dweud: 'Rym ni'n gwneud yn wael ond diolch i Dduw mae'r Wesleaid yn gwneud yn waeth."

Dim ond mewn cylchgrawn Cymraeg, efallai, y ceid pytiau o'r fath. Torrid ar y prif erthyglau hefyd gan bytiau hanesyddol a defnyddid englynion smala a difrifol i lenwi bylchau, megis englyn difrifol ac amserol gan Alun Jones i'r Bom Atomig:

Ac yn nodweddiadol Gymreig un o'r pytiau eraill oedd "Ffraethinebau Charles Williams", megis:

'Pan ddeffrodd hen ffarmwr o Sir Fôn un bore gwelodd fod ei wraig wedi marw wrth ei ochor. Aeth i ben y grisiau a gwaeddodd i lawr ar y forwyn: "Mari dim ond un wy i frecwast heddiw!"

Nid yn y pytiau hyn, yn unig, y gwelir fod i'r Crynhoad wedd Gymreig, fodd bynnag. A barnu oddi wrth brif erthyglau rhifyn Gorffennaf 1952, 'roedd cynnwys a gogwydd y prif erthyglau yn bur wahanol i'r Digest cyfalafol, gwrth-Gomiwnyddol.

Arferiad y Golygyddion oedd codi o'r Wasg Gymraeg rai o brif erthyglau mwyaf dadleuol y tri mis blaenorol. Ac yn y 40au a'r 50au cynnar cyffrous ar ôl i Lywodraeth Lafur Attlee gychwyn ar y dasg o osod sylfeini'r Wladwriaeth Les, 'roedd yr erthyglau yn ymdrin â'r berw sosialaidd, yn ogystal â thrafod rhai o bynciau politicaidd mwyaf cynhennus y cyfnod yng Nghymru.

Un o'r erthyglau mwyaf difyr yn y cyd-destun hwn oedd cyfraniad o eiddo Goronwy Roberts, AS ifanc etholaeth Caernarfon y pryd hwnnw. Testun ei erthygl oedd "Aneurin Bevan – Ai dyn ynteu proffwyd yw e?" – erthygl wedi ei chodi o'r Cymro, yr arferai Goronwy Roberts ysgrifennu colofn wythnosol iddo, pan olygid Y Cymro byrlymus gan Olygydd presennol Y Casglwr.

Yn yr erthygl hon ceir darlun hynod gydymdeimladwy o enfant terrible y Torïaid a draenen yn ystlys ei Blaid ei hun yn y 50au, yn fuan wedi i Bevan ymddiswyddo o Lywodraeth Lafur Attlee. Gwelir edmygedd mawr Goronwy Roberts o'i arwr, pan oedd Goronwy Roberts ei hun yn amlwg fel aelod adain chwith ei Blaid.

Clodforir yn arbennig waith Bevan fel Gweinidog Iechyd a Thai yn ogystal â'i safbwynt dadleuol a dewr dros ddi-arfogi - safbwynt a arweiniodd iddo golli ei aelodaeth o gysegr sancteiddiolaf y Blaid Lafur - sef y Blaid Lafur Seneddol.

***

CEIR blas y cyfnod yn gryf o erthygl arall yn rhifyn Gorffennaf 1952 hefyd, sef sylwadau'r Llafurwr Cymreig enwog, David Thomas ar bwnc llosg arall, `Sut i gael Ymreolaeth'.

Ym 1952 'roedd David Thomas wedi ei siomi gan amharodrwydd Llywodraeth Lafur 1945-51 i roi ymreolaeth i'r Cymry. Ymosoda'n chwyrn ar gyn-Lafurwyr a ymunodd â Phlaid Cymru wedi'r Rhyfel ac a fu'n condemnio'r Blaid Lafur gan beri cynddaredd ymhlith aelodau'r De a berswadiodd Attlee i beidio â rhoi mesur o reolaeth i Gymru.

Yn ei erthygl, geilw David Thomas ar i fater ymreolaeth beidio â bod yn bwnc pleidiol; geilw hefyd ar i'r cenedlaetholwyr ymadael â'r Blaid ac ymuno â'r Blaid Lafur – yr unig gyfrwng real i sicrhau ymreolaeth. Yn y cyfamser, apeliai ar genedlaetholwyr i uno mewn crwsâd amhleidiol i sicrhau Senedd i Gymru. Yn ei erthygl, ceir adlewyrchiad clir o'r tyndra parhaus rhwng cenedlaetholwyr oddi mewn ac oddi allan i'r Blaid Lafur a nodweddai wleidyddiaeth y cyfnod (a'n cyfnod ni) a chawn gipolwg hefyd ar y ffactorau a fu'n symbyliad yn y 50au cynnar i ymdrech egnïol ond aflwyddiannus y mudiad 'Senedd i Gymru' amhleidiol.

***

CEIR adlais o'r tyndra mawr a geid yng Nghymru a Phrydain wedi'r Ail Ryfel Byd ynglŷn â'r `Rhyfel Oer' a'r Bom Atomig yn erthygl Dr. D. J. Davies yn y rhifyn hwn. Yn ei druth "A fydd ar Gymru angen Byddin?" dadleuai'r sosialydd a'r cenedlaetholwr o'r Gilwern (yn groes i heddychwyr y Blaid) y dylai Cymru ymreolus gael byddin, mai ffwlbri oedd heddychiaeth ac y gallasai byddin Gymreig amddiffynnol fod o fudd mawr i'r Cenhedloedd Unedig, fel y tystiai byddin Denmarc.

Fel y gwyddys, bu tyndra mawr yn y 30au rhwng carfan dde Saunders Lewis a charfan chwith D. J. Davies ynglŷn â pholisïau ac ideoleg y Blaid ar dir economaidd a chymdeithasol. Ymddengys o'r hyn a geir yn ei erthygl yn 1952 fod y tyndra oddi mewn i Blaid Cymru yn parhau ar y gwastad amddiffynnol y tro hwn.

***

'ROEDD Y Crynhoad, felly, yn y 40au a'r 50au, yn fforwm i drafod pynciau llosg y dydd yn y maes politicaidd. Yn ogystal 'roedd rhifyn Gorffennaf 1952 yn cynnwys dwy erthygl ar bwnc bytholwyrdd yng Nghymru, sef swyddogaeth Gorsedd y Beirdd.

'Roedd y Parch. Glyn Simon (wedi hynny, Archesgob Cymru) wedi beirniadu'r elfen Gristnogol Eglwysig yn nefodau ffug ac anghysegredig yr Orsedd. O ganlyniad, cafwyd dwy erthygl yn Y Crynhoad a drafodai'r mater. Procio'n ysgafn a wnâi'r Dr J. Gwyn Griffiths (Gorsedd Gras a Gorsedd y Beirdd) a groesawai Basiant y Sioe ond a sylwai'n gynnil ar ffugdod y cyfan. Ac yn ei erthygl 'Gorsedd y Beirdd a Chrefydd' amau a wnâi'r Eglwyswr Euros Bowen a ddylid caniatáu i'r Gorseddedigion o Weinidogion Anghydffurfiol barhau i urddo'r Archdderwydd gyda defodau crefyddol megis arddodi dwylo yn y dull Eglwysig.

Yn y rhifyn dadlennol hwn o'r Crynhoad, hefyd, cynhwyswyd erthyglau difyr eraill ar bynciau llai cyfoes eu hapêl; er enghraifft hanes y bardd Shelley yng Nghymru, dadansoddiad o hanes David Rees, Llanelli gan D. Myrddin Lloyd ac ymdriniaeth hynod ddifyr gan John Pritchard ar gysylltiad John Wesley â darganfyddiad trydan.

Dyma, felly, arbrawf newyddiadurol hynod o fentrus gyda Golygyddion Y Crynhoad, wrth gyflwyno'n chwarterol draws doriad eang o gynnyrch y newyddiaduron Cymraeg, yn darparu cylchgrawn atyniadol. Mae'r rhifyn neilltuol hwn o'r Crynhoad yn ddrych gwerthfawr o'r materion pwysicaf a oedd yn ysgogi'r farn gyhoeddus yng Nghymru ar derfyn y 40au a'r 50au.

Tybed a fedd unrhyw un o ddarllenwyr Y Casglwr gopïau eraill o'r chwarterolyn hwn neu'n wir gyfres ddi-fwlch ohonynt? Diddorol hefyd fyddai clywed hanes ei lansio a'i ddiweddglo. Byddai cael cyfle i astudio holl rifynnau'r cylchgrawn a chael hanes ei yrfa yn fantais mawr i'r hanesydd a fyn archwilio hanes Cymru yn y 40au a'r 50au yn drylwyr.

A difyr, efallai, fyddai codi'r cwestiwn 'A oes lle i chwarterolyn Cymraeg tebyg yng Nghymru heddiw?' Amheuthun fyddai cael trawsdoriad chwarterol o'r erthyglau mwyaf difyr o'n cylchgronau a'n newyddiaduron Cymraeg ar ffurf `Digest' eang a radicalaidd ei apêl.