BRWYDR DAU BAPUR gan Maldwyn Thomas

MAE hanes y cystadlu mileinig a chiaidd am gylchrediad a darllenwyr a fu rhwng cyhoeddwyr papurau newydd Caernarfon a Bangor yn rhan ddiddorol o hanes y wasg yng Nghymru. Yn wir mae'r hanes yma yn parhau heddiw a pherchenogion papurau'r Herald yng Nghaernarfon a'r North Wales Chronicle ym Mangor (a Chroesoswallt) i gyd yn hynod o ochelgar ynglŷn â manylion gwerthiant eu hwythnosolion.

Ac wrth gwrs y mae yna gystadleuwyr eraill ar y maes bellach, gyda'r Cambrian News yn gwerthu'n sylweddol ar arfordir de Gwynedd, y North Wales Weekly News yntau yn boblogaidd ar arfordir gogledd orllewin y sir, a'r papurau bro misol Cymraeg ym mhob man, ac yn gwerthu'n well na'r papurau Saesneg mewn ambell ardal yn ôl y sôn.

***

FE ddechreuodd y cystadlu pan sefydlwyd papurau newydd wythnosol Saesneg yng Nghaernarfon a'r rheini yn torri ar afael y North Wales Gazette, (5 Ionawr 1808 - 19 Medi 1816; 20 Chwefror 1817 - 21 Mehefin 1827) a'i olynydd y North Wales Chronicle, (4 Hydref 1827 -), ar y boblogaeth fechan honno, yn Gymry a Saeson, a fedrai ddarllen Saesneg ac a allai fforddio prynu wythnosolyn Saesneg ar ddeupen Menai yn nauddegau a thridegau y 19g.

Yng Nghaernarfon yn gynnar fe ymddangosodd y Caernarvon Advertiser trist a byrhoedlog rhwng 5 lonawr 1822 a 30 Mawrth yr un flwyddyn, a'r Carnarvon Herald, yn hercian rhwng radicaliaeth a thorïaeth, a gyhoeddwyd o 1 lonawr 1831 hyd 2 lonawr 1836, cyn tyfu'n grand i The Carnarvon and Denbigh Herald wythnos yn ddiweddarach, a dechrau troedio'n hoyw ar lwybrau diwygiad gwleidyddol yng ngofal James Rees ei berchennog newydd.

Bu'r Caemarvon and Denbigh yn fwgan i'r Chronicle o'r dechrau oherwydd bod James Rees yn gyhoeddwr galluog yn byrlymu o syniadau am ehangu ei orwelion. Ymhen ychydig fisoedd roedd y Caernarvon and Denbigh yn cynnwys newyddion o gylch a estynnai o lannau'r Fenai hyd ddyffryn Clwyd, tra roedd colofnau golygyddol y papur yn atseinio'r neges radicalaidd ac Anghydffurfiol Gymraeg i bob cyfeiriad. Dyma elyn digyfaddawd Torïaeth ac Eglwysyddiaeth y North Wales Chronicle.

Ychydig o gyflwyno ffeithiau sydd wedi digwydd wrth drafod cylchrediad cylchgronau a phapurau newydd Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae'r drafodaeth ar gylchrediad papurau newydd Saesneg Cymru a gyhoeddwyd yn yr un ganrif yn brin, er bod yna ambell ffaith yn dod i olau dydd erbyn hyn. Cynigir yma ychydig o ffigurau am gyfartaledd cylchrediad wythnosol y Caernarvon and Denbigh Herald a'r North Wales Chronicle yn ystod y blynyddoedd yn union cyn i'r papurau newydd Cymraeg megis Yr Herald Cymreig/Cymraeg, (19 Mai 1855 -), - camp fawr gyrfa James Rees fel cyhoeddwr - ddangos yn glir mai'r iaith Gymraeg oedd iaith bwysig cyhoeddi newyddiaduron yng Ngwynedd yr Ysgol Sul a'r Seiat, y gymdeithas lenyddol a'r trên.

Blwyddyn Cyfartaledd cylchrediad
wythnosol y C.D.H.
Cyfartaledd cylchrediad
wythnosol y N.W.C.
1836
(Ion-Ebr)
500 328/9
1837 1050 -
1838 814/815 -
1839 700 -
1840 762/763 -
1841 777/778 -
1842 771/772 519/520
1843 778/779 422/423
1844 865/866 423/424
1845 894/895 432/433
1846 1000 427/428
1847 1008/1009 432/433
1848 1127/1128 346/347
1849 1283/1284 296/297
1850 1543/1544 777/778
1851 1773/1774 746/747
1852 1538/1539 795/796
1853 1586/1587 884/885
1854 1634/1635 826/827
1855 1182/1183 685/686

***

'ROEDD James Rees yn naturiol yn llawenhau yn fynych a chyhoeddus oherwydd goruchafiaeth yr Herald Saesneg ar y Chronicle. Mae'n werth sylwi bod cylchrediad y ddau bapur yma wedi gostwng yn sylweddol yn ystod y flwyddyn 1855 - blwyddyn cyhoeddi'r Herald Cymraeg. Ac i lawr eto yr aeth gwerthiant y Caernarvon and Denbigh, i lawr at 1057/1058 ar gyfartaledd wythnosol yn 1861, tra roedd y 788/789 copi ar gyfartaledd wythnosol a werthwyd o'r North Wales Chronicle yn ystod yr un flwyddyn hefyd gryn dipyn yn is na'r gwerthiant cyn i'r Herald Cymraeg ymddangos.

Erbyn 1857 yr oedd Yr Herald Cymraeg yn gwerthu 9,000 o gopïau bob wythnos, erbyn 1869 yr oedd ei werthiant wythnosol dros 14,000 o gopïau yn wythnosol. Dyma'r Gymraeg yn ei nerth.