YR HEN FEDDYGINIAETHAU ~ Rhan o Ddarlith Flynyddol Huw Edwards

TEITL darlith flynyddol Cymdeithas Bob Owen yn yr Eisteddfod eleni oedd Rhai gweithiau meddygol yn Gymraeg a'u hawduron. Soniodd y darlithydd yn gyntaf am y llawysgrifau meddygol a oroesodd o'r bedwaredd ganrif-ar-ddeg a'r bymthegfed ganrif sy'n gysylltiedig â meddygon Myddfai. Cyhoeddwyd dwy o'r llawysgrifau hyn, ym 1861, gan y Welsh MSS Society o dan y teitl The Physicians of Myddvai. Fe'u golygwyd gan John Williams, ab Ithel ac fe'u cyfieithwyd i'r Saesneg gan lawfeddyg o Aberdyfi o'r enw John Pughe.

Mae'r llawysgrifau'n cynnwys rhai cannoedd o feddyginiaethau llysieuol ac hefyd rhai meddyginiaethau sy'n cynnwys elfennau o gyrff anifeiliaid, y mwyafrif ohonynt yn seiliedig ar waith meddygon Groeg a Rhufain. Rhoddodd y darlithydd nifer o enghreifftiau o blith y ryseitiau meddygol hyn.

Aeth ymlaen i sôn am y prif lysieulyfrau yn Gymraeg, gan ddechrau gyda'r llysieulyfr a briodolir i William Salesbury (a gyhoeddwyd ym 1916, o dan olygyddiaeth E. Stanton Roberts). Dangosodd fod y gwaith hwn yn seiliedig ar lysieulyfr enwog Leonhart Fuchs o'r Almaen ac ar y New Herball gan William Turner ond ei fod hefyd yn cynnwys llawer o gyfeiriadau at leoliad nifer o'r planhigion yng Nghymru.

Soniodd wedyn am lysieulyfr Nicholas Culpepper a ddaeth yn boblogaidd iawn gan y werin yn Lloegr ac yng Nghymru. Ar ôl disgrifio diddordeb Culpepper mewn sêr-ddewiniaeth a'i yrfa dymhestlog fel apothecari a enynnodd ddicter Coleg y Ffisigwyr, rhoddodd fanylion am y gwahanol argraffiadau Cymraeg o'i waith. Cyfieithwyd y gwaith gan David Thomas Jones, Llanllyfni a chafwyd deg argraffiad rhwng 1816 a dechrau'r ganrif hon.

Wedi sôn am Welsh Botanology (1816) gan y Parch. Hugh Davies, llyfr sy'n sôn llawer am rinweddau meddygol planhigion, aeth y darlithydd ymlaen i sôn am y llysieulyfr arall a oedd mor boblogaidd gan y werin Gymraeg yn y ganrif ddiwethaf, sef y Llysieu-lyfr Teuluaidd gan y Parch. Rhys Price o Gwmllynfell ac E. Griffiths o Abertawe.

Cafwyd tipyn o hanes Rhys Price – gŵr hynod a gymerodd ddiddordeb mawr mewn seryddiaeth a llysieueg, er na chafodd ond tri diwrnod o ysgol erioed – ynghyd ag enghreifftiau o'r gwahanol ryseitiau yn y llyfr. Aeth ymlaen i sôn am yr ail fath o lyfr meddygol a oedd yn boblogaidd iawn gan y werin, sef llyfrau a oedd yn cynnwys pob math o ryseitiau meddygol (o'i gymharu â ryseitiau llysieuol yn unig).

***

CREDAF, meddai'r darlithydd, mai'r llyfr meddygol cyntaf i gael ei gyhoeddi yn Gymraeg oedd Llyfr Meddyginiaeth a Physygwriaeth i'r Anafus a'r Clwyfus a gyhoeddwyd yn yr Amwythig ym 1750. 'Roedd gan rai o'r diwygwyr Methodistaidd ddiddordeb arbennig mewn meddygaeth ac 'roedd llyfr John Wesley, Primitive Physick mor boblogaidd nes ei fod yn hawlio sylw arbennig. Cyfieithwyd y gwaith hwn i'r Gymraeg gan John Evans o'r Bala o dan y teitl Y Prif Feddyginiaeth a chafwyd wyth argraffiad ohono rhwng 1759 (Y Mwythyg: Stafford Prys) a 1861 (Bangor: Samuel Davies).

Nid yw'n syndod i Wesley, gyda'i ynni diddiwedd a'i ddiddordeb byw mewn popeth a oedd er lles i'w gyd-ddyn, gymryd diddordeb mewn meddygaeth. 'Roedd y nifer o feddygon hyfforddedig yn y ddeunawfed ganrif yn druenus o annigonol a safon eu gwaith yn isel iawn. 'Roeddynt yn drwm o dan ddylanwad y gwahanol ddamcaniaethau mediefal ynghylch natur ac achosion afiechyd megis y ddamcaniaeth anianau (humoral theory).

Byddent yn addasu'r driniaeth i ffitio'r ddamcaniaeth ac 'roedd canlyniadau triniaeth yn aml yn drychinebus. 'Roedd y pharmacopoeia'n cynnwys rhestr faith o gyffuriau – rhai ohonynt yn rhyfedd ac ofnadwy a'r mwyafrif yn hollol ddi-werth – ac 'roedd yn arfer ganddynt gymysgu nifer mawr o'r cyffuriau hyn mewn ffordd gymhleth iawn. Nid oedd yr ysbytai'n cynnig unrhyw ateb i'r broblem. Roeddynt yn fudr ac yn ddrewllyd ac 'roedd y perygl y byddai'r cleifion yn dal 'twymyn yr ysbyty', sef teiffws, yn uchel.

'Roedd Wesley'n feirniadol iawn o feddygon ei ddydd am iddynt ymboeni mwy ynghylch elw a hunanbwysigrwydd nag am ddioddefaint y tlodion. Credai'n gryf mewn triniaethau syml, rhad a diberygl a oedd o fewn cyrraedd y tlodion ac 'roedd yn feirniadol iawn o'r arfer gyffredin o waedu'r claf yn ddidrugaredd.

Meddai yn y rhagair i'w waith, 'Cefais lawer iawn o feddyginiaethau drudion ac wedi eu cyrchu o bell; llawer o'r fath natur beryglus, nad ymyrrai dyn pwyllog byth â hwynt. Ac yn erbyn y rhan fwyaf o'r meddyginiaethau hyn y mae gwrthddadl arall, - y maent yn cynnwys gormod o gyffuriau. Y dull cyffredin hwn o gymysgu ac adgymysgu cyffuriau ni ellir byth ei heddychu â synnwyr cyffredin; y mae profiad yn dangos y gwna un peth iacháu y rhan fwyaf o annhymerau, o leiaf, yn gystal ag ugain wedi eu dodi yn nghyd. Am hynny, paham yr ychwanegwch y pedwar-ar-bymtheg eraill? dim ond yn unig i chwyddo dyleb (bill) yr Apothecari: nag e, o bwrpas fe allai, i estyn y clefyd, fel y bo i'r phisygwyr ac yntau, gydrannu’r ysbail ... Pa mor fynych, wrth gymysgu fel hyn feddyginiaethau o wrthwyneb natur, y mae rhinwedd pob un yn cael ei hollol ddinystrio? Nage - pa mor fynych y maent, wedi eu cymysgu yn nghyd, yn dinystrio y bywyd, y rhai, bob un ar ei ben ei hun, a allasent ei gadw?'

Mewn llythyr hir at ficer Shoreham, mae Wesley'n sôn am ei resymau dros droi'n feddyg: 'But I was still in pain for many of the poor that were sick: there was so great expense and so little profit. And first I resolved to try whether they might not receive more benefit in the hospitals. Upon the trial we found there was indeed less expense but no more good than before. I then asked the advice of several physicians for them, but still it profited not. I saw the poor people pining away and several families ruined and that without remedy.

At length I thought of a kind of desperate expedient. 'I will prepare and give them physic myself". For six or seven and twenty years I had made Anatomy and Physic the diversion of my leisure hours ... I applied to it again. I took into my assistance an apothecary and an experienced surgeon: resolving at the same time not to go out ot my depth, but to leave all difficult and complicated cases to such physicians as the patients should choose'.

***

FEL Y soniwyd eisoes, 'roedd Wesley'n gwrthwynebu'r arfer o gynnig gwaedu ac enema fel triniaeth arferol ar gyfer pob afiechyd. Y syniad a oedd tu ôl i'r arfer oedd mai rhyw anian drwg yn y gwaed, fflem neu fustl oedd yn achosi afiechyd a rhaid felly oedd cael gwared ohono ar bob cyfrif.

Mae Dr. Wesley Hill yn ei lyfr ar John Wesley'n cyfeirio at lawfeddyg o'r enw Guy Patin a oedd yn cynnig y triniaethau hyn (sef gwaedu a charthu) ymhob achos. Gwaedodd blentyn tri diwrnod oed; gwaedodd ei wraig wyth gwaith yn ei breichiau ac yn ei thraed; gwaedodd ei fam yng nghyfraith bedwar ugain mlwydd oed bedair gwaith.

Byddai'n gwaedu bedair gwaith ar gyfer annwyd cyffredin a disgrifiai un achos lle 'roedd wedi carthu'r claf 32 o weithiau o fewn deuddydd ac un arall a oedd wedi'i waedu bedair ar hugain o weithiau ac wedi'i garthu ddeugain gwaith. Mae'n dda fod rhywun yn ddigon dewr i sefyll yn erbyn yr arferion barbaraidd hyn.

John Wesley, gyda llaw, oedd un o'r rhai cyntaf i ddefnyddio trydan fel math o driniaeth. Ar ôl gwneud llawer o arbrofion 'roedd yn frwd yn ei gylch ac yn ddig iawn, unwaith eto, wrth y meddygon am iddynt ddewis anwybyddu'r dull newydd, rhad, hwn o drin eu cleifion. Credai Wesley fod trydan yn ddi-feth mewn anhwylderau'r meddwl – yn enwedig hysteria.

Cyhoeddwyd Primitive Physick, or An Easy and Natural Way of Curing Most Diseases, gyntaf ym 1747. Cafodd ei argraffu dair ar hugain o weithiau yn ystod oes Wesley a chafwyd naw argraffiad arall ar ôl iddo farw (ac, fel y soniwyd eisoes, cafwyd wyth argraffiad ohono yn Gymraeg). Mae hyn yn ddigon o brawf o'i boblogrwydd a'i ddefnyddioldeb.

Gair yn gyntaf ynglŷn â'r teitl Saesneg gwreiddiol. Wrth Primitive Physick yr hyn a olygai Wesley oedd y traddodiad o feddygaeth a oedd yn datblygu ac yn ymledu trwy arbrawf a thrwy brofiad – o'i gymharu â thraddodiad o feddygaeth a oedd yn seiliedig ar ddamcaniaethau hynafol a di-sail. Yn sicr nid oedd yn golygu meddygaeth gyntefig.

***

AR DDECHRAU'R gwaith rhoddir rhestr o reolau ar gyfer 'y rhai a chwenychont, trwy fendith Duw, gadw yr iechyd a adferwyd iddynt'. 'Roedd y rheolau hyn yn seiliedig ar waith George Cheyne (1671-1743) a oedd yn feddyg enwog yn Llundain ac yn ŵr yr oedd gan Wesley barch uchel i'w farn. Mae'r rheolau'n ymwneud â glendid, ymborth, cwsg, ymarfer corff, yr angen am arferion rheolaidd a'r berthynas rhwng y nwydau ac iechyd.

'Roedd digon o angen am gyfarwyddiadau o'r fath mewn cyfnod pan nad oedd glendid corfforol yn nodwedd gyffredin (e.e. diffyg glendid oedd y prif reswm paham y byddai cynifer o fabanod yn marw) a phan fyddai pobl yn gorfwyta’n eithafol ar brydiau.

Mae'n debyg, gyda llaw, mai Wesley biau'r ymadrodd Saesneg "Cleanliness is next to Godliness" 'Roedd ganddo ffydd fawr mewn rhinweddau baddon oer ac adroddir hanesion am bobl yn gwella o afiechydon difrifol trwy gymryd y driniaeth hon. Efallai y byddwch yn cytuno fod yr hyn sydd ganddo i'w ddweud am y nwydau'n arbennig o ddiddorol ac yn dangos ei graffter:

'i. Y mae gan y nwydau fwy o effaith ar yr iechyd nag y mae llawer yn feddwl.

ii. Pob nwydau byrbwyll, poethlyd ac angerddol sy'n tueddu at, neu'n weithredol fwrw pobl i glefydau awchlym.

iii. Nwydau hwyrfrydig a pharhaus, megys tristwch a chariad diobaith, sy'n dwyn clefydau maith a pharhaus.

iv. Hyd oni bo'r nwyd a barodd y clefyd wedi ei thawelu, ofer yw arfer meddyginiaeth.'

***

YN AIL ran y llyfr ceir dros saith gant a hanner o ryseitiau ar gyfer tua dau gant a hanner o anhwylderau. Gwelir felly fod sawl rysáit ar gyfer pob afiechyd ac anogir y claf i ddechrau gyda'r gyntaf ac i drio pob un o'r lleill yn ei dro nes ei fod yn gwella! Cafodd rhai haneswyr (e.e. J.H. Plumb) dipyn o hwyl wrth wawdio ambell un o'r cyfarwyddiadau hyn. Rhaid i mi gyfaddef bod rhai ohonynt yn swnio'n ddigrif - neu'n ofnadwy o beryglus i ni.

Dyma, er enghraifft, ddwy rysáit ar gyfer rhwystr yn y coluddion (y mae nodyn yn dweud mai 'math o golig angerddol' yw hwn 'yn mha un y mae tom y corff yn dyfod i fyny trwy y genau'): y gyntaf yw ‘deliwch gi ieuanc yn wastadol ar y bol' ac y mae'r ail yn gorchymyn cymryd 'o bwys i bwys a hanner o arian byw (mercwri), bob yn wns'. Mae'r gyntaf yn chwerthinllyd a'r ail yn codi arswyd arnom - ond mewn tegwch dylid nodi mai dyfynnu'r enwog Dr. Sydenham y mae am y gyntaf ac mai awgrym Dr. Tissot yw'r ail.

Digon anffodus yw un o'i gyfarwyddiadau ynglŷn â gwella'r darfodedigaeth hefyd, sef 'torrwch dywarchen fechan o'r ddaear bob boreu, gorweddwch i lawr, ac anadlwch i'r twll dros chwarter awr. Gwelais ddarfodedigaeth trwm yn cael ei iachau fel hyn.'

Diflas hefyd yw ei rysait ar gyfer 'toriad lliein-gig gwyntog’, sef 'twymwch fiswail gwartheg yn dda. Taenwch ef yn dew ar ledr, a thaenellwch ychydig o had cwmin hyd-ddo, a rhoddwch ef wrth y fan, yn boeth. Pan oero, rhoddwch un newydd. Y mae yn gyffredin yn iachäu plentyn (os ceidw ei wely) mewn dau ddiwrnod.'

Trist yw gorfod cofnodi ei fod yn condemnio'r arfer o ddefnyddio 'Peruvian bark' ar gyfer y 'cryd ysbeidiol'. Gwyddom yn awr fod rhisgl y goeden cinchona'n cynnwys un o'r ychydig feddyginiaethau effeithiol a oedd ar gael yn y ddeunawfed ganrif – sef quinine. Nid yw'r ffaith fod Wesley wedi dewis ei anwybyddu wedi gwneud dim lles i'w enw da fel meddyg.

***

MEWN gwirionedd 'roedd Wesley, ar ôl darllen yn eang, wedi dethol yn ofalus y rysaitiau mwyaf rhad a syml - ac os nad oeddynt bob amser yn debygol o wella'r claf, o leiaf nid oeddynt (gydag ychydig eithriadau!) yn debyg o'i ladd. Ni ellir dweud hyn am y rhan fwyaf o lyfrau meddygol y cyfnod.

Ystyriwn y driniaeth ar gyfer y llechau (rickets). Nid oedd gan Wesley, mwy nag unrhyw feddyg arall yn y cyfnod, amcan ynglŷn â gwir natur ac achos yr afiechyd. Y mae'n argymell 'golchwch y plentyn bob boreu mewn dwfr oer' ac i rwystro'r llechau dylai plant gael digon o laeth ac uwd ond dim cig nes eu bod yn ddwyflwydd oed a dim te nes eu bod yn ddeg oed.

Triniaeth annigonol yn wir, ond yn ymddangos yn rhyfeddol o resymol a doeth o'i gymharu â'r nonsens hirwyntog canlynol, allan o'r Pharmacopoeia Extemporanea gan Thomas Fuller M.D. (Cantab.): 'Take Urine of a healthy person, Tent wine, Neat foots oil each two ounces; Spermacete two drachms, Mace one drachm. Boil to four ounces and strain. A certain physician kept this as a secret remedy for the rickets and was wont to use it on the spine and the back, beginning first at the neck and so rubbing downwards. Since this malady ariseth from obstruction of the Medulla Spinalis and debility of the membranes, such ointments as are aperient and corroborant must needs be useful. . .' Gwaith hawdd fyddai pentyrru enghreifftiau o'r fath.

***

NI SONIAIS hyd yn hyn am y gŵr a gyfieithodd waith Wesley i'r Gymraeg ond, yn sicr, y mae'n haeddu sylw. John Evans oedd un o Fethodistiaid cyntaf ardal y Bala. Ceir ei hanes yn llawn yn Y Tadau Methodistaidd (cyf.2) ac ynddo hefyd ceir llun bendigedig o'r hen ŵr a baentiwyd pan oedd yn 89 mlwydd oed gan Hugh Hughes yr arlunydd.

Ganwyd ef yng Nglan'rafon Wrecsam ym 1723 a symudodd i'r Bala ym 1742. Bu'n gweithio fel gwehydd; bu wedyn yn rhwymwr llyfrau, ac yn ddiweddarach ar ei fywyd yn 'tallow chandler' (sef gwneuthurwr canhwyllau). Ymaelododd yn seiat newydd y Methodistiaid Calfinaidd yn y Bala ym 1745 ac yn gynnar iawn dechreuodd deithio i gynghori yn yr ardaloedd oddi amgylch, ond nid cyn 1765 y cydnabuwyd ef yn bregethwr swyddogol. Daliodd ati i bregethu nes oedd dros 90 oed a bu farw ym 1817 pan oedd bron yn 94 mlwydd oed.

Enillodd le mawr iddo'i hunan fel un o arweinwyr diogelaf Methodistiaeth yn y Gogledd, 'roedd yn hynod am ei ffraethineb ac 'roedd yn gefn mawr i Thomas Charles ar ôl i hwnnw ddod i'r Bala i fyw. Dioddefodd ef, fel llawer o'r Methodistiaid cynnar, gryn dipyn o erledigaeth ac adroddir amdano'n gorfod cuddio mewn cae ŷd ym mhlwyf Llanycil ar ôl i nifer o dirfeddianwyr geisio'i 'bresio' yn filwr yng ngwasanaeth y brenin.

Pan oedd John Evans yn hen ŵr, argraffodd Thomas Charles ei atgofion yn Y Drysorfa, 1799 a 1809-13, o dan y teitl ' Ymddiddan rhwng Scrutator a Senex.' Mae'r atgofion hyn yn wirioneddol ddiddorol, yn enwedig y cyntaf lle adroddir yr hanes am ddyddiau cynnar Methodistiaeth yn y Bala - am yr erlid a'r ymosod ffiaidd a wynebodd Hywel Harris pan ddaeth gyntaf i'r ardal, am sefydlu'r gyntaf o ysgolion cylchynol Griffith Jones yn y cylch etc.

Sonnir hefyd am gyflwr 'llygredig' crefydd yn yr ardal cyn dyfod y Methodistiaid ac am arferion 'anfoesol' y bobl gyffredin: 'Ar nos Sadyrnau yn enwedig yn yr haf, y byddai ieuenctid, meibion a merched, yn cadw y pethau a elwid, Nosweithiau canu, ac yn difyrru eu hunain, wrth ganu efo y Delyn a'r ddawns, hyd doriad y wawr ddydd Sabboth. Yn y dref yma (Bala) hwy fyddent, ar brydnawniau Sabbothau, yn canu ac yn dawnsiaw yn y Tafarndŷau, yn chwareu tenis ar yr Hall, yn bobiaw, &c ... Yn yr haf byddai Interludes yn cael eu chwareu ar fwrdd yr Hall, ar brydnawniau Sabbothau; a boneddigion a chyffredin yn cyd-ymddifyrru yn y modd hwn, i halogi dydd yr Arglwydd . . .'

Cyfieithodd waith John Wesley ym 1759, cyn iddo ddechrau pregethu, ac nid oes unrhyw dystiolaeth, hyd y gwn, iddo gymryd unrhyw ddiddordeb mewn meddygaeth ar ôl hynny.

***

ER I mi roi cymaint o sylw i waith John Wesley, nid oedd ei waith ef ond un o blith nifer o weithiau meddygol poblogaidd Saesneg a gyfeithiwyd i'r Gymraeg (er efallai mai'r Prif Feddyginiaeth oedd y mwyaf poblogaidd ohonynt). Cyfieithiwyd Domestic Medicine gan William Buchan, A Botanic guide to health gan Albert Coffin, gwaith Jabez Hogg, a gyhoeddwyd gan Spurrell o dan y teitl Y Cyfarwyddwr Meddygol Teuluaidd (Caerfyrddin 1856), a llu o weithiau tebyg.

Un peth sy'n drawiadol yw bod llawer o'r gweithiau hyn wedi'u cyfieithu'n fuan ar ôl iddynt ymddangos yn Saesneg. Bu rhaid i Edward Jenner gyhoeddi ei waith arloesol ar frechu yn erbyn y frech wen, An inquiry into the Causes and Effects of the Variola Vaccinae, a disease ... known by the name of the Cow Pox ar ei gost ei hun, ym 1798, ar ôl i'r Gymdeithas Frenhinol wrthod ei waith. 0 fewn deng mlynedd cyhoeddodd Dafydd Roberts o Ddinbych Prawf o fod Brech y Buchod (Cow Pox) yn Amddiffyniad rhag y Frech Wen ... (Bala, 1808). Ynddo ceir hanes darganfyddiad Jenner ynghyd â chyfarwyddiadau manwl ynglŷn â'r dechneg o fuch-frechu.

Fel y gwelir, mae hwn yn faes toreithiog ac nid oes modd gwneud mwy na chyffwrdd yn arwynebol â rhai o'r prif lyfrau mewn darlith fer.

***

HOFFWN gydnabod fy niolch i'm cyfeillion Mr. D. Tecwyn Lloyd a Dr. John Cule am eu cymorth parod ac i Mr Raymond Davies o'r Llyfrgell Genedlaethol am nifer o awgrymiadau gwerthfawr.