YR EISTEDDFOD LWYD ~ Huw Walters yn dwyn i gof

DIDDOROL oedd darllen ysgrif Mr Huw Williams ar 'Gerrig Milltir Rhyfedd yr Ŵyl' yn y rhifyn Awst 1980 o'r Casglwr. Cyfeiriodd Mr Williams at Eisteddfod Llanbedr-Pont-Steffan 1859, pan gipiodd un yn dwyn yr enw Llwyd Llangathen y wobr am draethawd ar 'Hanes Llanbedr'. Ychwanegodd i bwyllgor yr eisteddfod gael trafferth i adfeddiannu’r traethawd arobryn a ddychwelwyd i'w awdur, ac iddynt orfod bygwth cyfraith arno er mwyn argraffu'r gwaith.

Nid yw hyn yn syndod oblegid creadur digon styfnig fu Llwyd Llangathen erioed, a gŵr a fu yng nghrafangau'r gyfraith fwy nag unwaith. Yn wir buasai testun anarferol y traethawd yn Eisteddfod Dowlais 1841, (a nodir gan Mr Williams) sef 'P'run sydd waethaf, celwyddwr ynteu lleidr?' yn llawer mwy addas i'r brawd Llwyd, oblegid yn ôl tystiolaeth y wasg gyfnodol Gymraeg amdano, yr oedd yn bencampwr ar ladrata a rhaffu celwyddau fel ei gilydd!

Pwy ynte oedd y Llwyd Llangathen hwn? Hwyrach ei fod yn fwy adnabyddus fel y Parchedig D. Lloyd Isaac, y clerigwr a'r llenor a anwyd ym mhlwyf Llanwenog ym 1818. Derbyniwyd ef i Goleg y Bedyddwyr yn y Fenni ym 1835 ac fe'i hordeiniwyd yn weinidog yng Nghastell-nedd dair blynedd yn ddiweddarach. Bu'n weithgar iawn gyda'r Bedyddwyr yng Nghwm Nedd gan sefydlu achosion newydd yn Aberdulais Glyn Nedd a Phontardawe. Ond bu ymrafael yn ei eglwys a symudodd i'r Trosnant ger Pont-y-pŵl ym 1841.

Erbyn 1853 yr oedd y Llwyd wedi gadael y Bedyddwyr ac wedi troi at Eglwys Loegr. Urddwyd ef yn offeiriad ym Medi 1856 a thrwyddedwyd ef i guradiaeth Llangatwg Nedd, lle bu Edward James, cyfieithydd Llyfr yr Homiliau (1606) yn rheithor. Cafodd guradiaeth Llangathen ym 1858 ac yno y bu hyd 1871 pan symudodd i Langamarch, hen blwyf Theophilus Evans yn sir Frycheiniog, lle bu farw ym 1876.

***

YR OEDD D. Lloyd Isaac yn ysgrifennwr hynod o doreithiog, a brithir cyfnodolion fel Y Bedyddiwr, Seren Gomer, Brython (Tremadog) a'r Haul ag ysgrifau o'i eiddo. Ymddiddorai mewn hanes a hynafiaethau yn fwyaf arbennig; ceir erthyglau meithion ganddo ar destunau fel 'Pompeii a Herculaneum', 'Geiriadur Dr William Owen-Pughe' a 'Campau y Cymry'. Ond dadleuodd lawer yn erbyn Ymneilltuaeth yn ogystal, er nad yw'r ysgrifau hyn yn yr un cywair ag eiddo'r dychanwr Brutus, golygydd Yr Haul.

Ar wahân i'w draethawd ar Hanes Llanbedr a'r Gymdogaeth a gyhoeddwyd ym 1860, ei brif waith arall yw Siluriana: or contributions towards the history of Gwent and Glamorgan a gyhoeddwyd ym 1859. Mae'n deg nodi hefyd mai o lawysgrifau William Davies o'r Cringell y codwyd y rhannau helaethaf o'r gwaith hwn sy'n gybolfa ryfedd o weithiau'r athrylith Iolo Morganwg a'r unben John Williams (Ab Ithel).

Pan symudodd D. Lloyd Isaac i Langathen yn nyffryn Tywi ym 1858 daeth i gysylltiad agos â nifer o lên-garwyr fel Benjamin Williams (Gwynionydd) a William Davies (Gwilym Teilo). Yr oedd Gwynionydd yn gefnder i D. Silvan Evans a fu'n olygydd i'r Brython, ac mae'n debyg taw trwy ei gyfeillgarwch â Gwynionydd y daeth y Llwyd i gyfrannu mor gyson i'r cylchgrawn hwnnw. Canodd Gwynionydd gywydd moliant iddo ef a Gwilym Teilo, gan bwysleisio'i ddysg a'i ddiddordeb mewn hynafiaethau:

Yr oedd Gwilym Teilo yntau yn hynafiaethydd a gwyddys fod ganddo gasgliad sylweddol o lawysgrifau. Yn fferyllydd yn nhref Llandeilo, casglodd nifer o ddefnyddiau i'w lyfrgell, defnyddiau sydd bellach wedi mynd i ddifancoll.

Yn ôl ei dystiolaeth ei hun daeth rhai o lawysgrifau Iaco ab Dewi (1648-1722) i'w feddiant, ond yr unig eitem o'i lyfrgell sydd wedi goroesi hyd ein dyddiau ni yw ei draethawd ef ei hun 'Llenyddiaeth y Cymry' a enillodd wobr o £60 i'w awdur yn Eisteddfod Caernarfon ym 1862.

***

YM 1860 penderfynodd y tri chyfaill yma gynnal eisteddfod fawr mewn pabell eang a godwyd ger y Foley Arms ym mhlwyf Llanegwad yn nyffryn Tywi. Cynhaliwyd yr eisteddfod ar Awst 1 1860 a sicrhaodd y pwyllgor dalentau disgleiriaf y dydd fel arweinwyr a beirniaid, gwŷr fel Llew Llwyfo, Dewi Wyn o Esyllt, a Llywelyn Alaw y telynor o Aberdâr.

Bu cystadlu brwd yn Eisteddfod Cadair Ystrad Tywi fel y gelwid hi, a chynhaliwyd cyngerdd fawreddog yn yr hwyr. Ond go brin y gellir dweud i'r ŵyl fod yn llwyddiant. I'r gwrthwyneb, bu'n achos cynnen a choethan milain yn y wasg Gymraeg a Saesneg am fisoedd lawer. Dyma farn y Carmarthen Journal amdani:

Mae lle i ofni fel y tystia'r adroddiad uchod, fod gormod o gysylltiad wedi bod rhwng yr eisteddfod a'r Foley Arms, ond nid y diota oedd prif asgwrn y gynnen. Yr hyn a gythruddodd y wlad yn fwy na dim arall oedd mai'r tri threfnydd - Llwyd Llangathen, Gwynionydd a Gwilym Teilo a enillodd y prif wobrau!

Cipiodd y Llwyd y wobr am draethawd ar 'Hanes Plwyf Llangathen', cafodd Gwilym Teilo'r wobr am awdl ar 'Gwenllian, Tywysoges Gruffydd ab Rhys', ac eiddo Gwynionydd 'Lewis Glyn Cothi a'i Waith' a orfu yng nghystadleuaeth y traethawd. Yn ogystal â hynny gwobrwywyd priod Gwynionydd am gyfres o benillion i'r 'Blodau'!

Ond yn waeth fyth ni dderbyniodd yr un enillydd arall ddimai o wobr am eu cyfansoddiadau, cyfansoddiadau a hawliwyd gan y pwyllgor fel eu heiddo hwy. A phan ymddangosodd rhai o'r cyfansoddiadau hyn ar dudalennau'r Brython, a hynny heb yn wybod i'w hawduron, bu helynt na welwyd ei debyg mewn eisteddfod na chynt nac wedyn.

"Sgandaleiddiwch propar gan rhyw ddrwgster o Landeilo a rhyw Ben Gwirionedd" meddai'r Punch Cymraeg gan feio Gwilym Teilo a Gwynionydd am y cyfan, ond y gŵr a ddaeth dan lach Seren Cymru, Y Gwron a'r Gweithiwr a'r Gwladgarwr oedd D. Lloyd Isaac.

oedd barn un o englynwyr Y Gwladgarwr amdano, ac awgrymodd un o ohebwyr Seren Cymru y dylid "gosod y tri ar ddiwrnod glawog yng nghanol afon Tywi i gymryd eu siawns i nofio neu foddi".

PARHAODD y dadlau a'r enllibio am fisoedd, ac mae'n ffaith arwyddocaol iawn na chynhaliwyd yr un eisteddfod ar raddfa mor uchelgeisiol yn nyffryn Tywi am flynyddoedd lawer. Ond ym mis Ionawr 1861 ymddangosodd llyfryn bychan o wasg W. W. a G. Jones, Llandeilo yn dwyn y teitl Rhiangerdd: Angharad o'r Dryslwyn gan Eryr Glyn Cothi. Hon oedd rhieingerdd arobryn Eisteddfod Cadair Ystrad Tywi dan feirniadaeth Dewi Wyn o Esyllt, ond ni dderbyniodd yr Eryr (Henry Egwad Davies) ddimai goch amdani.

Wedi misoedd o ohebu â phwyllgor yr eisteddfod yn mynnu'r £2 o wobr a oedd yn ddyledus iddo, penderfynodd yr Eryr fygwth cyfraith ar y pwyllgor, ac ar Ragfyr 10 1860 ymddangosodd Llwyd Llangathen, Gwynionydd a Gwilym Teilo o flaen eu gwell yn llys sirol Llandeilo.

Agorwyd yr achos ar ran yr erlynydd gan J.L. Popkin, cyfreithiwr o Landeilo. Yr oedd mân-rigymwyr bellach wedi dwyn gwarth ar yr eisteddfodau, meddai. "Y mae cynnal eisteddfod fel cynnal coelcerth, ond fod mwy o fwg nag o dân ynddynt yn amlach na pheidio"

Holwyd a chroesholwyd tua dwsin o dystion, ond trodd y ddedfryd yn erbyn Eryr Glyn Cothi a gorfodwyd ef i dalu costau'r achos yn ogystal. Hyn oll am ei fod yntau hefyd yn aelod o'r pwyllgor!

Ond nid dyna'r cyfan ychwaith, oherwydd ymhen rhai misoedd daeth yn amlwg nad eiddo Eryr Glyn Cothi oedd y rhieingerdd fuddugol o gwbl - ond llên-ladrad ydoedd fel yr amheuodd un adolygydd yn Taliesin, y cylchgrawn a olygid gan Ab Ithel.

***

NID dyma'r tro cyntaf wrth gwrs i bwyllgor eisteddfod gael ei ddwyn o flaen llys, oblegid yr oedd yn ddigwyddiad pur gyffredin yn y ganrif ddiwethaf pan oedd gwobr eisteddfodol gymaint â chyflog mis i fardd neu draethodwr. Mae'n debyg y gallai Mr Hywel Teifi Edwards roi llu o enghreifftiau tebyg inni, ond yr unig ffrwgwd eisteddfodol wirioneddol fawr arall y bu ymgyfreithio ynglŷn â hi, y gwn i amdani, yw Eisteddfod Iforaidd Llanelli ym 1856.

Cyhoeddwyd awdl Elis Wyn o Wyrfai i'r `Sabboth' yn fuddugol yn yr ŵyl honno, ond gan nad oedd y bardd ei hun yn bresennol, hawliwyd y wobr (sef £10 a thlws arian) gan ŵr yn y gynulleidfa a honnodd mai ef oedd brawd y bardd buddugol! Fe'i dygwyd yntau o flaen ei well hefyd, ond stori arall yw honno.