Y DDAU DDAFYDD DDU gan John Roberts Williams
FFERMDY ar ochr yr Eifl yw Uwchlaw'r-ffynnon, sydd hefyd uwchlaw Llanaelhaearn, ac yno am flynyddoedd bu Robert Hughes (1811-1892) yn ffarmio, wedi iddo dreulio cyfnod yn Llundain (Aeth yno yng nghwmni'r porthmyn a'r gwartheg). Heb gael fawr ddim mantais addysgol cafodd eithaf crap ar Ladin a Groeg a Hebraeg, fe'i hordeiniwyd yn 1848 a bu'n weinidog answyddogol yn ei oriau hamdden prin ar y ddwy eglwys gyfagos a sefydlodd eglwysi M.C. y Babell a Chwmcoryn.
'Roedd yn gydnabyddus â beirdd megis Eben Fardd, a phregethwyr mawr ei ddydd megis John Jones Talsarn, ac yr oedd yn dipyn o fardd ei hunan.
Un o hynodion mawr eraill yr hen amaethwr oedd ei ymroddiad i arlunio a hynny wedi iddo droi ei hanner cant oed, ac y mae degau o'i luniau o gymeriadau ac enwogion ei gyfnod wedi eu gwasgaru mewn cartrefi yn Llŷn ac Eifionydd - y mwyafrif ym meddiant aelodau ei deulu.
Isod dyma gyhoeddi am y tro cyntaf ei lun 23 x 30cm o Ddafydd Ddu Eryri (1759-1822). Dywed ei gofiant mai o ddarlun y tynnodd y llun, ond fe fu Robert Hughes am dymor o ysgol gyda Dafydd Ddu pan oedd yn blentyn, ac felly yr oedd yn cofio ei bryd a'i wedd.
Ond o astudio'r darlun llai - o ailargraffiad Corph y Gainc - fe welir mai copi o hwnnw yw'r gadwyn a'r fedal. A daw gwendid Robert Hughes i'r amlwg yn y darlun mawr - yr oedd tynnu llun dwylo tu hwnt iddo! — J.R.W.