GWELODD HWN HARDDWCH ~
Meredydd Evans yn cofio W.J.

GO BRIN y gwelodd Cymru yr ugeinfed ganrif bersonoliaeth lenyddol fwy anghyffredin a stormus na W. J. Gruffydd. Ni all dyn llai na rhyfeddu at amlder ei ddoniau, cymhlethdod ei berson ac ansawdd ei feddwl. Pe ceisid sgrifennu cofiant iddo yn null y ganrif ddiwethaf ni fyddai prinder penawdau ar gyfer y penodau: Y Bardd; Y Cofiannydd; Yr Hunangofiannydd; Yr Ysgrifwr; Y Dramodydd; Y Golygydd; Yr Ysgolhaig; Yr Hanesydd Llenyddiaeth;... ac ymlaen, dros ddalennau lawer.

Gŵr aflonydd oedd, yn symud o'r naill gyfrwng i'r llall yn wastad ac yn ymddiddori'n ddwfn ym mhob agwedd ar fywyd ei genedl. Dywedodd unwaith na fedrai oddef ymyrwyr ond yr oedd ef ei hun, ar un ystyr, yn ymyrrwr gyda'r gorau. A diolch mai gŵr felly ydoedd.

Bu hynny er lles ein cenedl droeon. Nid oes eisiau i ni ond bwrw golwg yn frysiog dros "Nodiadau'r Golygydd" yn rhai o rifynnau Y Llenor i weld mor fywiog oedd ei ymateb i ddigwyddiadau'r cyfnod ym mywyd y Gymru a garai mor angerddol. Y drefn addysgol, y Pleidiau gwleidyddol, y cyrff crefyddol, y theatr, creadigaethau beirdd a llenorion, cyfnewidiadau cymdeithasol, rhyfel a heddwch, bygythiadau i fywyd cefn gwlad, iechyd y cyhoedd, buddiannau'r iaith Gymraeg ac ymosodiadau arni, yr Eisteddfod Genedlaethol a'i hamrywiol gyrff – hyn oll, a rhagor, rhagor o lawer, oedd y pynciau a ddenai ei sylw yn gyson.

Pryderai, anobeithiai, ffrewyllai, cystwyai, gwylltiai'n gaclwm, ar brydiau, wrth ymdrin â nhw. Ond canmolai, cynhaliai, cydymdrechai a gobeithiai yn eu cylch hefyd.

***

MAE'N amlwg ei fod yn arian-byw o ddyn. Un funud gallai fod ar gopa'r bryniau, yn heulog ei fryd, yn llawn hyder am y dyfodol ac yn berwi'n frwdfrydig. Y funud nesaf gallai fod yn drwm dan y felan, yn damio pawb a phopeth ac yn gweld pob yfory yn dywyll nos.

Eto i gyd, er mor gyfnewidiol ei dymer ac er mor gignoeth y medrai fod, ymddengys y gallai fod yn bwyllgorddyn hynod o effeithiol, yn aml. Gwyddai pryd i ymbwyllo, a phryd i danio, a hyd yn oed os byddai ar dro yn cam-danio, nid oedd hynny chwaith yn llwyr annerbyniol i'w wrandawyr. Mae ambell ddyn yn medru colli tymer yn ddiddorol; un felly oedd Gruffydd. A rhaid cofio iddo dreulio cryn lawer o'i ynni a'i amser mewn pwyllgorau a chyfarfodydd cyhoeddus.

O'n holl lenorion mae'n amheus a fu un mwy parhaol gyhoeddus nag ef a diamau mai'r wedd hon ar bethau a gyfrifai am ei awydd – awydd a oedd yn gryf ynddo dros flynyddoedd lawer, yn ôl ei gyfaill, Iorwerth Peate – i weithio dros rai o achosion ei galon yn Nhŷ'r Cyffredin.

Daeth y cyfle hwnnw i'w ran, wrth gwrs, yn 1943, ond cwta a fu ei gyfnod yn y Tŷ hwnnw gan i seddau'r prifysgolion ddiflannu ymhen ychydig amser wedi hynny.

Nid oedd disgwyl iddo gyflawni rhyw lawer mewn cyn lleied o amser, ond synhwyra dyn, rywsut, mai ychydig o effaith a fyddai wedi ei gael ar y sefyllfa sut bynnag, hyd yn oed pe byddai wedi cael tymor llawnach. Yr oedd yn greadur rhy annibynnol ei feddwl, a'i farn, lawer tro, yn debyg o'i chael ei hun yn dderyn diarth iawn ymhlith clochdar ceiliogod y pleidiau mawr.

Arwyddocaol iawn yw'r dyfyniad canlynol o ysgrif arno fel gwleidydd gan Rhys Hopkin Morris yng Nghyfrol Goffa Y Llenor, 1955:

Un o hoff gyfuniadau W.J. Gruffydd oedd Rhyddid a Rheswm a gwelai fygythiad i'r rhinweddau hyn o gyfeiriad syniadau am weriniaeth a roddai'r lle blaenaf i farn a dymuniad y lliaws, ac o gyfeiriad gorbwyslais "yr Adwaith yng Nghymru", chwedl yntau, ar ragoroldebau uchelwrol a gwladwriaeth gorfforedig.

Hyn, yn gam neu'n gymwys, sy'n esbonio ei enciliad oddi wrth Blaid Cymru yn niwedd y tridegau a'i benderfyniad, yn ddiweddarach, i ymgeisio am sedd yn Westminstr.

***

MAE'N debyg mai'r dyb gyhoeddus ynglŷn ag ef oedd ei fod yn ddyn pell braidd, yn dueddol at fod yn sarrug a diamynedd. Yn sicr, nid oedd yn ŵr y gellid mynd yn hyf arno. Ar y llaw arall, gallai'r dyb gyhoeddus fod yn gamarweiniol, yn ôl tystiolaeth cyfeillion a chydnabod gweddol agos. I'r sawl a geisiai gymorth a chyngor oddi wrtho, nis cafwyd ef yn brin, a gallai fod yn gwmnïwr diddan ryfeddol. Cofiaf dreulio dwyawr ddifyr dros ben yn ei gwmni ym Mangor unwaith, hynny wedi iddo ddychwelyd i'w henfro, tua diwedd ei oes.

Yr oedd hefyd yn ŵr sylfaenol oddefgar ac yn dra pharod i amddiffyn y gwan a'r erlidiedig. Credai bod rhyfel o blaid cyfiawnder yn anochel, yrŵan ac yn y man, eithr ni rwystrodd hynny ef i ddadlau'n gyndyn dros hawliau gwrthwynebwyr cydwybodol ac yn erbyn gorfodaeth filwrol ar adeg o heddwch.

Beirniadodd Gymry'r bedwaredd-ganrif-ar-bymtheg yn llym am eu rhagrith grefyddol a'u diffyg chwaeth artistig ond canodd ei folawd iddynt hefyd mewn cerdd ac ysgrif oherwydd rhai o rinweddau amlwg eu bywyd cymdeithasol. Mae môr o ystyr y tu ôl i chwechawd soned R. Williams Parry iddo yn Cerddi'r Gaeaf:

Aeth can mlynedd heibio er dydd ei eni ym Methel, Arfon, ar Chwefror 14, 1881. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf bu ei seren dan beth cwmwl ond go brin y pery hynny'n hir; mae'n rhy lachar i'w anwybyddu. Yn y cyfamser, priodol i ni, ddarllenwyr Y Casglwr, a fyddai sylwi ar rai o'r llyfrau a gynhyrchwyd ac a olygwyd ganddo. Mae llyfryddiaeth gynhwysfawr i'w chael, gyda llaw, yn The Journal of the Welsh Bibliographical Society, Cyfrolau VIII (Rhif 4) a IX (Rhif 1).