EMYN ROBERT VAUGHAN gan R.Geraint Gruffydd

Y MAE gennyf yn fy meddiant gopi amherffaith o'r 'Beibl Bach', neu, a rhoi iddo ei deitl cywir, Y Bibl Cyssegr-lan (Llundain: Robert Barker ac Assignes Iohn Bill, 1630) - STC 2349. Copi ydyw o'r ail argraffyn, cywiredig, a barnu wrth ddisgrifiad J. Ifano Jones yn The Bible in Wales Sir John Ballinger. Yr wyf yn ofni na chaf ddweud ar hyn o bryd gan bwy y prynais ef.

Fel y crybwyllais, y mae'n amherffaith: y mae ei wynebddalen yn eisiau, ac felly hefyd y Llyfr Gweddi Gyffredin a'r Apocryffa, yn eu crynswth; ond y mae'r Hen Destament a'r Newydd ynddo, a'r Salmau Cân bron i gyd.

Y peth hynod yn ei gylch, fodd bynnag, yw'r hyn a sgrifennwyd ar ferso gwag wynebddalen y Salmau Cân. Yno yn llaw gelfydd, ddigamsyniol Robert Vaughan o Hengwrt (1592-1667), fe sgrifennwyd dau ddwsin o linellau o emyn ysgrythurol neu paraphrase wedi eu seilio ar Rhufeiniaid 6:9 -11 a 1 Corinthiaid 15:20-22. Y mae'n amlwg fod Robert Vaughan wedi cymryd Salmau Cân Edmwnd Prys fel ei batrwm ac wedi ceisio cymhwyso'r, patrwm at y darnau eraill hyn o'r Ysgrythur.

Jean Calvin a ddysgai na ddylid addoli Duw ond yng ngeiriau Duw, sef geiriau'r Ysgrythur. Dyna sy'n cyfrif am boblogrwydd y Salmau Cân yn y gwledydd lle y bu dylanwad Calvin gryfaf megis yn Yswistir, Ffrainc a Phrydain. Ym Mhrydain, yr Alban a lynodd ffyddlonaf wrth ddysgeidiaeth Calvin, ac yno yn anad unman y gwelwyd pwyslais nid yn unig ar y Salmau Cân ond hefyd ar y paraphrases, sef darnau eraill o'r Ysgrythur wedi'u mydryddu yn null y Salmau Cân.

Fe gofir fod dylanwad Presbyteriaeth yr Alban yn bresennol iawn yn Lloegr yn ystod y cyfnod Piwritanaidd, er nad y garfan Bresbyteraidd oedd piau'r llaw uchaf yn wleidyddol y rhan fwyaf o'r cyfnod.

***

I NI, Robert Vaughan yw'r mwyaf o hynafiaethwyr y Dadeni Cymreig a chrëwr y llyfrgell wychaf a gynullwyd gan unrhyw Gymro erioed. Fel amryw o hynafiaethwyr blaenllaw'r dydd, yr oedd ganddo gryn gydymdeimlad at achos y Senedd yn y Rhyfel Cartref, er iddo gydymffurfio pan adferwyd Siarl II yn 1660. O 1649 ymlaen cydweithredai'n ffyddlon i'r llywodraeth Biwritanaidd i sicrhau cyfraith a threfn ym Meirionnydd.

Adwaenai amryw o'r mawrion Piwritanaidd, gan gynnwys y Cyrnol John Jones o Faesygarnedd. Gwrandawai ar bregethwyr teithiol Piwritanaidd yn Llanelltud a chodi nodiadau o'u pregethau i'r llyfr sydd bellach yn llawysgrif LI.G.C. Peniarth 237.

Yn fwy diddorol fyth lluniodd ddau fynegair Ysgrythurol wedi'u seilio ar waith y Piwritan o Sais John Downame, A briefe concordance to the Bible, a ymddangosodd gyntaf yn 1630; ysywaeth, ni chyhoeddwyd mynegeiriau Vaughan, a hwy bellach yw llawysgrifau LI.G.C. Peniarth 238 a LI.G.C. Ych. 254. (Trafodir yr holl dystiolaeth yn gryno yn nhraethawd M.A. gwych Dr T. Emrys Parry, 'Llythyrau Robert Vaughan Hengwrt', 1960.)

Nid cwbl annisgwyl felly yw gweld Vaughan yn rhoi cynnig ar lunio emyn ysgrythurol.

Ac yn awr dyma gopi o'i emyn, cyn nesed ag y bo modd at destun y gyfrol.

NODYN: Newidiodd Vaughan neu, vn fwy tebygol, un o berchnogion diweddarach y gyfrol linellau (14) – (16) i ddarllen fel a ganlyn: