CYNGOR I FYFYRIWR gan R.Geraint Gruffydd

UN O Foneddigion Bro Morgannwg ryw dair canrif a hanner yn ôl oedd Watcyn Powel, a'i gartref oedd Pen-y-fai heb fod ymhell o Ben-y-bont ar Ogwr. Bu ei dylwyth - 'y Poweliaid doethion' chwedl Iolo Morganwg - yn hynod am genedlaethau ar gyfrif eu diddordeb mewn llenyddiaeth a dysg Gymraeg. Yn ôl yr Athro Griffith John Williams, Watcyn Powel oedd 'yr olaf, efallai, o foneddigion Morgannwg a allai ganu cywydd rheolaidd', ac fe gadwyd cryn hanner dwsin o'i gywyddau gan 'yr olaf o hen gopïwyr y dalaith', sef Tomas ab Ieuan o Dre'r-bryn, yn ei lawysgrif enwog Y Byrdew Mawr (LI.G.C. 13062B)

Yr oedd gan Watcyn Powel frawd iau o'r enw John. Ar yrfa eglwysig y rhoddodd ef ei fryd, ac i brifysgol Rhydychen yr aeth i ymbaratoi. Ymaelododd â Choleg Oriel ym 1610, a graddio yn BA yn 1613 ac yn MA yn 1618. Bu'n Rheithor Llansanwyr yn y Fro rhwng 1621 a 1635, ac yn Rheithor Trefflemin (plwyf cartrefol Iolo) o 1627 ymlaen. Ni wn pryd y bu farw, ond nid ef oedd yn Nhrefflemin yn 1650 i gael ei droi o'i swydd gan y Piwritaniaid.

Pan oedd John ar fin cychwyn am Rydychen yn 1610, fe ganodd ei frawd Watcyn gywydd iddo, yn llawn cynghorion buddiol. Nid yw'n gywydd crefftus, a thebyg mai gwaith prentis ydoedd. Ond argreffir ef yma, wedi'i ddiweddaru, yn y gobaith y bydd i'r genhedlaeth bresennol o fyfyrwyr elwa ar ei gynghorion.

Llyma gywydd a wnaeth Watcyn ap Hywel iddi frawd Suôn ap Hywel pan oedd ef yn myned i Rydychen.

Watcyn ap Hywel a'i cant.