CODI HWYL I'R HEN BLANT
John Roberts - Golygydd Sboncyn

 

COMICS ! Pethau plant, sydd wedi mynd yn fusnes mawr ymysg casglwyr ymhob gwlad a fu'n cynhyrchu rhai yn y ganrif hon. Mi fu'n edifar gen i lawer tro na fuaswn wedi dal gafael yn yr 'Eagle' a'r 'Wizard' a ddarllenwn mor eiddgar bob nos Wener ac a daflwn ymaith mor ddifeddwl pan oeddwn yn hogyn dideledu yn ôl yn y pumdegau cynnar. Mae'n debyg fod y rhai hŷn ohonoch yn cofio'r un profiad efo comics cynharach na hynny hyd yn oed.

'Ond pan euthum yn ŵr' mi wyddoch beth y dylaswn fod wedi ei wneud, ond fel llawer un arall ni fedrais roi heibio'r pethau bachgennaidd. Felly pan gefais y cyfle, dyma fanteisio arno i geisio golygu comic Cymraeg newydd sbon y llynedd, sef Sboncyn.

Cymorthdal gan y Cyngor Llyfrau a ysgogodd Cyhoeddiadau Mei i geisio cyhoeddi comic Cymraeg a fyddai'n apelio at blant o wyth i ddeuddeg oed a dyma fynd ati'n griw bach brwdfrydig i geisio, rhoi pethau ar y gweill.

Chwilio am awduron i ysgrifennu'r degau o straeon a fyddai eu hangen o fis i fis, a sicrhau gwasanaeth parod rhai o awduron gwaith plant enwocaf Cymru, megis J. Selwyn Lloyd, Dafydd Parri ac Emily Huws, a rhoi cyfle i ambell un nad ysgrifennodd stori i blant erioed cyn hyn. Chwilio am arlunwyr, a gorfod mynd cyn belled â Chanolbarth Lloegr ac Essex yn ogystal â phob rhan o Gymru i sicrhau gwasanaeth arlunwyr proffesiynol, (beth bynnag ydi hwnnw!)

***

O'r diwedd lansiwyd y Sboncyn cyntaf fis Mai diwethaf, ac argraffu, yn bryderus braidd, 3000 o gopïau. 'Wn i ddim ydi cylchrediad yn fesur o lwyddiant unrhyw gynhyrchiad, ond y mis hwn gwerthwyd 7500 o gopïau, ac mae'r archebion yn dal i ddod o bob cwr o Gymru. Mae hyn yn sicr o fod yn glod, i'r cyhoeddwr a'i drefn effeithiol o ddosbarthu.

HEN amser pryderus oedd y misoedd cyntaf hynny wrth geisio rhoi 'Sboncyn' ar ei draed, ond bellach mae'n prysur ennill ei blwyf, beth bynnag fydd ei lwyddiant eto yn y dyfodol. 'Rydym yn arfer meddwl am bopeth Saesneg yn llwyddo'n dda, ond y mae llawer o gomics Saesneg wedi diflannu yn y blynyddoedd diwethaf.

Mae pob comic Saesneg yn cael ei ystyried yn fethiant os disgyn ei gylchrediad dan gant a hanner o filoedd, ac yn wir, mewn gwlad fawr fel Awstralia, hyd yn ddiweddar iawn, credid nad oedd yn werth iddynt gynhyrchu comics eu hunain. Hyd yn oed mewn gwlad fel Ffrainc y mae llawer o ddibynnu ar gynnyrch o'r America.

Ond i ddod yn ôl at y busnes casglu 'ma. Y mae cymdeithas lewyrchus iawn i gasglwyr comics, dan yr enw ACE, (Association of Comic Enthusiasts), a'i hamcan yw gwneud casglu comics yn fusnes `parchus' a chredadwy, ac i hel pob math o wybodaeth am gomics hen a newydd i'w haelodau. Dyna paham y gwahoddwyd ni i yrru Sboncyn g yn fisol iddi.

Bychan a chyfyng iawn fyddai eich casgliad chi pe baech yn casglu comics Cymraeg. Faint fedrwch chi enwi tybed? Cywirwch fi os wyf yn methu, ond medraf gyfrif ar un llaw y comics Cymraeg a ymddangosodd erioed. Medraf enwi Hwyl a Hebog a Sboncyn i chi, ac ysgwn i faint ohonoch sy'n meddu copïau o Llinos, y comic Cymraeg i ferched a ymddangosodd yn 1972-73 am flwyddyn yn unig.

Mae Hwyl dan olygyddiaeth Ivor Owen newydd ddathlu ei hanner cant (blwyddyn, nid rhifyn!), a mawr yw dyled plant Cymru iddo. Cofiaf yn dda hefyd fod yn un o bump o athrawon newydd o'r Coleg Normal a ddechreuodd Hebog i fechgyn yng ngwanwyn 1968. Cyhoeddwyd dros 60 rhifyn o Hebog dan olygyddiaeth yr amryddawn Gerallt Lloyd Owen. (Mae'n dda gen i ddweud fod gen i gopi o bob rhifyn a ymddangosodd.)

Wrth gwrs, yr oedd yr holl waith ar Hebog y pryd hynny yn hollol wirfoddol, ac er na thelid yr un ddimai goch i neb am arlunio nac ysgrifennu yr oedd hi'n fain iawn arnom, ac y mae'n syndod meddwl ei fod wedi dal ei dir hyd 1973, a hynny heb gymhorthdal o gwbl.

Mae'n dda fod y Cyngor Llyfrau a Chyngor y Celfyddydau o'r diwedd yn cydnabod pwysigrwydd y math hwn o lenyddiaeth plant, ac yn barod i fynd i'w pocedi cyhoeddus i gynnal y gwaith.

***

ER MAI nifer bychan iawn o gomics Cymraeg a gynhyrchwyd erioed, 'dyw cartwnau-strip ddim yn bethau dieithr yn Gymraeg. Roeddwn yn edrych y diwrnod o'r blaen ar rifyn Hydref 1932 o'r Ford Gron, ac ynddo dudalen gyfan o stori gartŵn gan Richard L. Huws. Mae'n rhaid cydnabod hefyd y gwaith pwysig a wnaeth arlunwyr fel J.O. Hughes, Hywel Harris, H. Douglas Williams a W. Mitford Davies yn y maes yma mewn cyhoeddiadau fel Cymru'r Plant a Hwyl.

Bellach y mae to newydd o arlunwyr yn bwrw'u prentisiaeth ar Sboncyn, – cartwnwyr o fri fel Jac Jones, Llangefni, Maldwyn Roberts, Groeslon ac Alan Jones a Charli Britton sy'n gweithio i Gyhoeddiadau Mei.

Sut y bydd hi ar 'Sboncyn' yn y blynyddoedd nesaf, 'does neb a ŵyr, ond mae'n sicr y bydd yn rhaid dal i ddibynnu ar gymorthdal. Ac er bod llawer iawn o Gymry yn gresynu at yr arferiad cyffredin bellach o dderbyn cymorthdaliadau, y mae’n hollol sicr na fyddai modd cynnal cyhoeddiad fel Sboncyn hebddynt.