CANIAD SOLOMON gan Derec Llwyd Morgan
UN O'R pregethau rhyfeddaf a gyhoeddwyd yn llyfryn yn y Gymraeg yw'r bregeth Dail Pren y Bywyd, a gyhoeddodd Edmund Jones Pont-y-pwl yn 1745 (gweler Llyfryddiaeth y Cymry, t. 402). Nid ef a'i lluniodd. Ac y mae'n rhyfedd nid yn herwydd ei chynnwys, ond yn herwydd amgylchiadau'i chreu. Mae'r neb sy'n berchen copi ohoni yn berchen ar ddarn o'r nef, yn llythrennol bron! Canys o'r fan honno y daeth hi.
Fe wyddys fod gan Edmund Jones gryn ddiddordeb mewn ysbrydion ac arwyddion a thylwyth teg a phethau felly. A gellir yn hawdd ddychmygu'r croeso brwd a roddodd un diwrnod i Solomon Owen Caradoc – O fendigedig enw! – a ddywedodd wrtho iddo un noson gael pregeth yn rhodd Duw yn ei gwsg.
Ni cheir gair o sôn am y Solomon hwn yn y Bywgraffiadur, a rheswm da pam. Hyd y gwyddys, y bregeth hon yw'r unig beth a adawodd ar ei ôl. Tlotyn ydoedd, yn ôl y rhagymadrodd i lyfryn 1745, a faged i 'Lafurwriaeth' ac i edrych ar ôl 'Dâ a Defaid'. Bugail syml, felly. Ond nid mor syml chwaith. Hoffai lyfrau, eu prynu a'u benthyca. Yr oedd yn wybodus mewn diwinyddiaeth, ac yn meddu ar 'feddwl tra myfyriol'.
***
RHAID bod y meddwl yn effro ddydd a nos. Fel y dywedwyd eisoes, liw nos y daliodd eiriau'r bregeth a ddaeth iddo. Dyma'r hanes: 'yn y Nôs o'r 20fed o fis Mawrth, yn y flwyddyn (1742), rhwng deuddeg o'r Glôch a'r Borau, (dysgodd bennau', athrawiaethol y BREGETH . . . mewn Breuddwŷd. A phan y cytododd, efe a 'scrifennodd i lawr yr ystyr, mor belled ag yr oedd ei Gôf a'i Ddeall yn cyrhaeddyd.'
Aeth â'r llawysgrif wedyn at y dywededig Edmund Jones, yr hwn ar gais Solomon a'i pregethodd i'w gynulleidfa, a fodlonwyd yn fawr ynddi, am fod ei chynnwys mor wych ac am fod amgylchiadau'i chael mor rhyfeddol.
Mae'n gwbl briodol, o dan yr amgylchiadau, mai o Lyfr y Datguddiad y daw ei thestun, Pennod xxii, adnod 2. Ys myn Edmund Jones, ni raid amau ffynhonnell Solomon, oblegid y mae anfon negesau i'w genhadol yn eu cwsg yn 'un o'r amrywiol Ffyrdd' sydd gan yr Arglwydd o `ddadguddio ei sanctaidd Ewyllŷs i'w Bobl', - gweler Numeri xii. 6.
Gan ddieithried y ffordd hon yn 1742, maentumiodd Jones y dylai pob gweinidog o bob enwad trwy 'Brydain-fawr draddodi y Traethawd hwn unwaith i'r Cynulleidfaoedd sydd tan eu gofal.' Go brin i neb ohonynt ddilyn ei gyngor. Ond os myn neb pregethwr heddiw ei ddilyn, eled i Lyfrgell Coleg y Gogledd neu i'r Llyfrgell Genedlaethol i'w nôl!