BALEDI O'R HEN GANRIF gan Gerald Morgan
MI Wn fy mod wedi traethu ar y pwnc hwn o'r blaen, yn nhudalennau'r 'Casglwr' – ond y gwir yw fod y pwnc yn haeddu cyfres, pe bai gen i'r fedr a'r amser. Wedi i mi fod am gyfnod heb ychwanegu ond ychydig iawn at fy nghasgliad o faledi Cymraeg, fe ddaeth trysor i'm dwylo y dydd o'r blaen, a brysiaf i rannu fy llawenydd gyda'r Casglwyr cyfeillgar. Daeth amlen drwchus trwy'r post oddi wrth lyfrwerthwr mwyn a chall yn y Gogledd. Nid oeddwn yn disgwyl dim ganddo ar y pryd, ond 'roedd y cyfaill wedi darllen fy meddwl o bell, ac wrth i mi agor yr amlen, dechreuais wichian!
Oherwydd yn yr amlen 'roedd clwt o bapurau blêr a budron - casgliad o faledi Cymraeg o'r ganrif ddiwethaf a fu, ar un adeg, wedi eu cyd-rwymo. Fy ngobaith cyntaf oedd fod gennyf gasgliad un o ddatgeiniaid y ganrif ddiwethaf.
'Roedd y casgliad bach yn tynnu dŵr o'm dannedd. Pedwar-deg-saith o faledi Cymraeg, bron i gyd o'r 1850au a'r '60au. Cawsant eu rhwymo a'u hail-rwymo droeon, ond nid oes ôl clawr, dim ond ychydig o gotwm.
Mae'n wir nad oedd yr un o faledi Llanrwst yn eu plith, er siom i mi, ond yr oedd amrywiaeth y testunau a'r gweisg yn ddigon o gysur. Oherwydd, wrth gasglu baledi'r ganrif ddiwethaf, fe'i caf yn weddol rwydd i gael caneuon serch a moesol, ond yn fwy anodd i gael hyd i faledi am ddigwyddiadau pendant. Yma, yn y casgliad hwn, cefais fod baledi am lofruddiaethau, am Ryfel y Crimea, am Wrthryfel yr India, ac am Ryfel Cartref yr America.
***
WRTH gwrs, y mae digon o gerddi moesol yn y casgliad – dyna beth yw'r gyntaf oll, baled o safon farddonol erchyll:
- Careg Fedd y Prophwydi, neu, Gofadail er Coffadwriaeth am Bedwar Ugain
a Chwech o Weinidogion yr Efengyl . . .(H. Humphreys, Caernarfon)
Enw'r prydydd yw Evan Griffiths (Ieuan o Arfon), gŵr y mae dwy arall o'i gerddi yn y casgliad. Dyma flas o'r isafbwynt hwn yn hanes yr awen grefyddol :
- Pa le mae John Elias, Yn y bedd, &c.
James Davies, Hughes o'r Dinas, Yn y bedd,
John Williams o Lycheiddior,
A Griffith Jones Llanddowror,
A Moses gynt o Llanor,
Ac Arthur Jones o Fangor, Yn y bedd, &c.
Dyna'r arddull, ac y mae'n parhau am 18 pennill yn union yr un fath! Ar y diwedd ceir gorchymyn:
"Na argraffed neb y gân hon heb ganiatâd yr Awdwr."
Hyd y gwn, ni themtiwyd neb i anufuddhau.
Heblaw honno, ceir caneuon moesol a chrefyddol eraill yn y casgliad, megis:
Can i'r Rhai sydd ar yr Hen Long Wesleyaidd
sef cyfieithiad o gân Saesneg gan E.G. Williams, Braich Talog. Peth eithriadol yw cael dyddiad manwl ar faled, ond wrth gwt hon ceir y dyddiad Mai 4ydd, 1842; yr argraffydd oedd L.E. Jones, Caernarfon. Syndod yw'r fath fanylder yng ngwaith L.E. Jones, oherwydd 'roedd hwnnw'n un o'r bleraf ymhlith argraffwyr Cymru. Ceir hefyd:
- Ychydig o Bennillion yng Nghylch yr Eglwysydd, gan ddangos mai
yr Eglwysydd oedd gyntaf er dechreuad y byd i addoli.
Mae'r baledwr, John Thomas ("Gwyliedydd ffordd haiarn Caer a Chaergybi") yn gobeithio am ddyfodol eciwmenaidd:
- Ni fydd dim son am yr enwadau
Na dim gofyn, 'Beth wyt ti?'
Pa un ai Wesley, ynte Baptist,
Ynte Calfin mawr wyf fi?
Ond yn gofyn am y galon
A'th anghenion mae bob dydd;
A chynnyg iti ddinas Noddfa,
Ond inni ei geisio ef trwy ffydd.
Mae pedair o'r baledi hanesyddol yr oeddwn mor falch o'u cael yn y casgliad yn waith Abel Jones ('Bardd Crwst'), ac yr oedd hynny'n destun balchder hefyd, gan nad oedd gen i cyn hyn ond un faled o'i waith. Honnai Abel Jones mai efe oedd yr olaf o'r baledwyr breiniol; bu farw'n hen ŵr yn Nhloty Llanrwst ym 1903. Y baledi hanesyddol hyn yw:
- 1. Can am yr holl Alanasdra a'r brwydrau a fu yn yr India ynghyda Chwymp Delhi,
ar yr 20fed o Fedi, 1857 . . . (dim argraffydd)
2. Can Newydd am gymeriad Twr Malakoff ynghyda chymeriad Sebastopol. Trwy yr hyn y collwyd nifer mawr o'n Milwyr (d.a.)
3. Can Newydd ar y Rhyfel Presenol yn nghyd a Chymeriad Sweaborg . . . (d.a.)
4. Brwydr Rhwng yr Alabama a'r Kearsage . . . 19 Mehefin 1864 . . . ger Porthladd Cherbourg, yn Ffrainc. (d.a.)
***
HEBLAW'r pedair hyn, ceir dwy arall o gerddi Abel Jones, 'Dammeg yr Annuwiolion yn y Farn' (arg. E. Griffiths, Abertawe) a'i gerdd fwyaf poblogaidd, 'Twyll y Cribddeilwyr' (arg. D. Jenkins, Aberystwyth).
Heblaw'r baledi hanesyddol, ceir dwy ar ddamweiniau diwydiannol:
- 1. Can Ddifrifol, yn gosod allan yr Olygfa Arswydus a Ganfyddwvd yn Ngwaith Haiarn
Penycae, Swydd Fynwy, Ar foreu yr 22ain o Hydref, 1863 . . . gan E.G. (Ieuan o
Eifion).
2. Can Newydd, er Coffadwriaeth am y Ffrwydriad dychrynllyd a gymerodd le yn Ngwaith Glo Risca, Sir Fynwy, Dydd Sadwrn, Rhagfyr 1af, 1860 . . (Dim enw bardd nac argraffydd).
Wrth gwrs, ni fyddai'r casgliad yn gyflawn heb faledi mwrdwr, ac y mae un am Benjamin Walters, o Berin Hall, Bradford, a laddodd ei dad, ei chwaer a'i phlentyn dau fis oed. Yn anffodus, ni cheir dyddiad y llofruddiaeth, nac enwau'r bardd a'r argraffydd. Ceir wedyn:
- Cerdd Newydd yn gosod allan yr hanes am y Llofruddiaeth Erchyll yn Mhentrefoelas,
Mawrth 26ain, 1867, pryd y lladdodd dyn ei gariad mewn gwaed oer yn nhŷ ei thad . . .
Y bardd oedd 'Glan Seiont', ond eto nid oes enw'r argraffydd wrth y gerdd. Mae'r unig gerdd yn y casgliad o waith Dafydd Jones, Llanybydder, un o'r mwyaf toreithiog o'r baledwyr, hefyd yn gerdd am lofruddiaeth:
- Can Newydd, yn rhoddi hanes y diwedd truenus a ddaeth i Mary Griffiths,
merch o'i genedigaeth o Sir Benfro . . .
Mae'r rhan fwyaf o'r gweddill o'r casgliad yn gerddi digon cyfarwydd, megis fersiwn o 'Ffarwel fo i Langyfelach Lon', ond rhoddir Caernarfon yn lle Llangyfelach; ceir hefyd 'Traeth-odl ar Ewyllys Adda' o waith Bardd Nantglyn, 'Myfyrdod am Ddydd y Farn', 'Cerdd Person Aber', 'Hen Wlad fy Nhadau', 'Can y Meddwyn', a:
- Can Ddigrifol yn rhoddi hanes Cawl neu Botes Pen Hwrdd, ynghyd a'r dull o'i ferwi
yn y dyddiau presennol, gyda llai o drafferth na'r dyddiau gynt (E. 0. G. sef Ieuan o Eifion)
Y gorau ohonynt o ddigon yw:
- Can Newydd, sef, achwyniad Sian William Harri, o Gwmtaf, oherwydd iddi
briodi Twm y Cybydd, yr hwn, gyda'i gynygion teg a'i arian mawr, a'i denodd;
ac ar ôl hynny ni safodd at ei addewidion.
Roedd bywyd Sian yn wynfyd pan oedd yn ferch ifanc:
- Pan yr ow'n ym mlodau’m, hie'ngctyd
Cawn bob math o wisgoedd hyfryd:
Dandy caps, yn llawn rubanau
Acartificials o bob lliwiau.
Polka dress, a'r shawls o'r hardda',
Bombazines ac alapacca
Neisedi sidan ac umbrelo,
A'r crinoline, bum bron'i anghofio.
Ond mae Twm y Cybydd yn feistr corn arni, nes iddi achwyn:
- Mae'n well i mi gael un o'r Irish,
Er ei fod e' yn lled anhrefnus,
Neu faledwr hyd y gwledydd, -
Mae pob math yn well na'r cybydd.
Mae'r pennill olaf yna'n dangos hiwmor anghyffredin ar ran y baledwr dienw hwn.
***
FEL y dywedais ar y dechrau, fy ngobaith oedd y gallai'r casgliad fod yn un a berthynai gynt i un o'r datgeiniaid. Ond ofnaf na all hynny fod yn wir. Heblaw'r baledi, ceir dau bamffledyn wedi eu cydrwymo â'r caneuon:
- 1. Hanes am Effeithiau yr Ystorom Ddychrynllyd, yr hon a ddigwyddodd ar Nos
Sabbath Ionawr 6, 1839, yn cynnwys darluniad o'i heffeithiau arswydus mewn
amrywiol fannau, ar Dir a Mor. Conwy: Argraffwyd gan Hugh Jones. Tt. 16.
2. Hanes Thomas Edwards, yr Herwheliwr. A gyhoeddwyd ar ei ddymuniad ei hun, er dangos i Ieuengtid Cymru y canlyniadau niweidiol o adael eu gorchwylion priodol i ddilyn Lladrad-hela, Seguryd, a Chymdeithion Drwg. Bala, Robert Saunderson. Tt. 16.
Pwy oedd y casglwr dyfal hwn, a sicrhaodd y fath amrywiaeth o faledi, ni chawn wybod. 'Roedd wedi crynhoi cynnyrch gweisg Abertawe, y Bala, Conwy, Llangollen, Abergele, Caerfyrddin, a phedair gwasg wahanol o Caernarfon, heblaw'r gweddill (hanner y casgliad) nad oes enwau argraffwyr wrthynt. Ac rwy'n falch i'r sypyn hwn syrthio i'm dwylo i, ac o'r cyfrifoldeb o gadw'r cyfan yn eu trefn wreiddiol, fel y dymunasai'r casglwr gwreiddiol.