YR HEN AMSERAU gan Ted Huws
WRTH glywed am helyntion papur newydd y 'Times' yn ddiweddar trois at ôl-rifynnau o'r papur hynafol hwnnw sydd yn fy meddiant. Wrth gasglu adroddiadau a disgrifiadau o longddrylliad y 'Royal Charter' y cefais y papurau. Bûm mor ffodus â chael nifer o gopïau yn rhedeg o ddydd Iau, Hydref 27 1859 – sef trannoeth y trychineb.
Paragraff bychan iawn, wedi ei seilio ar delegram o Fangor sydd am y trychineb y bore Iau hwnnw. 'Roedd hi'n fore Gwener cyn i'r 'bobl uchaf gael y manylion trwy'r telegraff yn Nhraeth Coch ar arfordir dwyreiniol Môn.
Mae llawer o hanesion am y storm yn gyffredinol yn y papur. Yma yng Nghymru dywedir fod rheilffordd wedi ei malurio ar lannau Menai ac yn ardal Bagillt. Aeth coits fawr i luwch o eira (yn Hydref!) rhwng Aberhonddu a Merthyr. Chwythwyd tai i lawr yng Nghaerdydd a suddwyd nifer fawr o longau ar hyd arfordir Cymru heblaw y Royal Charter.
Ond wrth gwrs y Royal Charter a wnaeth yr argraff fwyaf ac a gafodd y sylw mwyaf. 'Roedd stori y 'Great Eastern' yn un hapusach gan iddi hi wynebu'r storm yn llwyddiannus ym mae Caergybi.
Ond nid dilyn y storm yw fy mwriad yma. Mae'n ddiddorol edrych ar y newyddion yn gyffredinol ac yn arbennig ar hysbysebion gant ac ugain o flynyddoedd yn ôl.
***
YN EIRONIG iawn mae un hysbyseb yn cyhoeddi mordaith nesaf y Royal Charter o Lerpwl i Melbourne ar y 5ed o Ragfyr. Cost y siwrnai oedd o £14 i fyny, ac addewid am gyrraedd yno mewn llai na thrigain niwrnod!
Mae'r dudalen flaen yn frith o hysbysebion mordeithiau i bedair congl yr ymerodraeth – India, Shanghai, Gogledd America, India'r Gorllewin. Yn wir, mae cyfran helaeth o'r papur yn rhoi sylw i fasnach llongau fel y gellid disgwyl. Gellid mynd ar fwrdd y Great Eastern ym mhorthladd Caergybi am hanner coron. Tybed faint o'r bobl leol oedd gan hanner coron i ddifyrru eu hunain felly?
I rai heb gymaint o ddiddordeb yn y môr gellid cael mynediad i'r sw yn Llundain am swllt i weld rhyfeddodau dieithr byd yr anifeiliaid. Mae'n amlwg fod y Palas Grisial mewn bri mawr hefyd gyda chyngherddau ac arddangosfeydd 'mawreddog'.
Mae blaenoriaethau'r oes yn amlwg yn y pedair colofn gyfan (allan o bump ar y dudalen i gyd) sy'n disgrifio cinio mawr yng Nghaeredin i'r Arglwydd Brougham.
***
I NI gasglwyr, mae'r hysbysebion am lyfrau yn ddiddorol. Dyma ddetholiad o'r rhai mwyaf diddorol i'm llygaid i: Rhaghysbysiad o gyhoeddiad llyfr coginio Mrs Isabella Beeton mewn cyfres o bymtheg i ddeunaw o rifynnau (3c bob mis) – y cyntaf yn dod o'r wasg ar y 1af o Dachwedd. Pedair cyfrol 'Life of Johnson' gan Boswell am 10s. Nofelau Disraeli am 3/6 yr un neu bum cyfrol (deng nofel) am 25s. 'Brenhiniaeth v Gweriniaeth' (Brasil nid Prydain!) am 9c a llyfr ar ddal llygod mawr heb drap na gwenwyn. Prysuraf i ddweud nad yw'r cynigion uchod yn dal mewn grym heddiw!
Os am bapur o fath arall, i bapuro wal, caech 12 llath am 6c. Punt y dunnell oedd y glo gorau ond 'roedd piano yn 75 gini.
Mae'r oes ddicensaidd yn dod i'r amlwg hefyd yn y colofnau chwilio a chynnig gwaith. 'Does dim byd yn ddiarth yn y ffaith fod mwy o hysbysebion gan bobl yn chwilio am waith na chan bobl yn cynnig gwaith. Morynion o bob disgrifiad, merched am ofalu am blant, merched yn cynnig gwnïo, sgrwbio neu dendio. Gweision o bob math, yn arddwyr a gofalwyr ceffylau - pob un yn dawel a rispectabl.
Ie, drych ar fyd pur wahanol i'r un y gwyddom ni amdano ac eto yr un oedd y problemau sylfaenol. Terfysg yn yr India (dipyn pellach na Gogledd Iwerddon) achosion o lofruddiaeth a dwyn yn y llysoedd, methdalwyr a phobl wedi gweld dyddiau gwell. Y cwbl i'w gael am rôt – ond dim croesair!