Y LLANAST O LESTRI SY'N TROI'N DRYSORAU
gan Hafina Clwyd

GWAITH oes i unrhyw seicolegydd fyddai gwneud astudiaeth o'r rheini ohonom sydd yn dioddef o glwy difendio o'r enw 'hel llanast' neu, a rhoddi iddo deitl mwy aruchel – casglu pethau. Wedi'r cwbl, y mae trysor rhai yn llanast' i eraill. Aeth chwilota am bethau yn grwsâd oes i lawer un, tra bo eraill, fel fy nhad er enghraifft yn methu dirnad i beth mae angen poeni cymaint am y "fath 'nialwch, y fath dranglins, y fath gyboli".

Gall y chwiw yma eich taro yn hollol ddirybudd, yr un fath â dal annwyd. I beth mae o'n da? Ai greddf ydyw? Yr un math o reddf ag sy'n tynnu rhai i wylio pêl-droed, eraill i weddïo, eraill i greu awdl? Dywed Freud (ac nid wyf yn un o'i ffaniau o ar ei orau) mai llithro yn ôl i ryw gyflwr plentyndod y mae casglwr ac y mae'n cymharu'r ffenomena â phlentyn sy'n ystyfnigo rhag gwacáu ei gorff o garthion.

Bid fel y bo. Ceisiaf innau gyfiawnhau fy hun drwy ddweud mai awydd yw hyn am gael gweld pethau prydferth ar fy silffoedd i gyda bonws (ambell dro) o weld gwerth y manion hyn yn cynyddu fwyfwy.

***

RHYW bum mlynedd yn ôl y cafodd y clwyf hwn afael gefail arnaf pan brynais blât dathlu Eisteddfod Aberteifi. Hwnnw oedd y cyntaf o'r ugain plât sydd gennyf erbyn hyn. Nid wyf yn eu prynu onid ydynt yn apelio ataf neu o ddiddordeb Cymreig.

Un pnawn Sadwrn yr oeddwn yn nhref Rye yng Nghaint a gwelais mewn siop-hen-bethau blât ac arno lun o Tom Ellis gyda'r geiriau Late Liberal Whip. Tybiaf felly mai tua 1899-1900 y cyhoeddwyd hon. Yn Aberystwyth prynais un â llun Lloyd George arno ac un yn arddangos Gladstone yng Nghaer. Y mae gen i hefyd blât Abertawe glas a gwyn gyda phatrwm enwog y llanc yn gyrru'r gwartheg drwy'r afon arno.

Y gwallgofrwydd nesaf oedd hel mygiau diddorol ac y mae yma, erbyn hyn, gryn hanner cant ohonyn nhw, pob un â rhyw gysylltiad â Chymru; llun Gareth Edwards ar un, Owen Glyndwr, ar un arall o'r llong Kathleen & May a berthynai i fy nheulu yng nghyfraith ar un arall.

"Eisteddant yn rhes" yn wledd i fy llygaid i ac yn fagnet di-feth i fysedd pob ymwelydd.

***

A GWIRIONAIS ar Goss. Bum mlynedd yn ôl 'doeddwn i erioed wedi clywed sôn amdano. Rhyw fin nos yr oeddwn yn cerdded adre o'r ysgol yn Llundain drwy le nid anenwog o'r enw Camden Passage. Dyma feca casglwyr o bob rhan o'r byd. Saif nepell o orsaf yr Angel yn Islington; y mae'n fwy na llawer pentref yn y wlad ac ynddo y mae strydoedd culion a rhodfeydd llydan yn llawn o siopau hen bethau.

Y mae mynd ar sgawt drwy'r ardal hon yn ddigon i gynhyrfu gwaed unrhyw gasglwr; y mae pethau yma i'w prynu am bunt ac am ugain mil, clociau a dodrefn, llyfrau a phorslen cain, dillad Victoraidd a chardiau post, gwydr crisial a sosbenni haearn. Llygadrythol a bysedd-ddenol. Ac ar y cyfan yn rhatach nag unman arall.

P'run bynnag dyna lle'r oeddwn i y diwrnod hwnnw yn meindio fy musnes fy hun heb wybod fy mod ar fin dal feirws wenwynig farwol. O gornel fy llygad mi welais y peth delaf erioed; ffiol fechan, rhyw bum modfedd o uchder, ar ffurf cenhinen, o liw gwyn a gwyrdd tyner. Arni yr oedd arfbais tref Dinbych ac o dani farc hebog, yr enw W.H. Goss a'r geiriau hyn allan o King Henry V: The Welshmen did goot service (at Crecy) in a garden where leeks did grow.

Cydiais yn y ffiol a'i hanwylo, yr oedd yn ysgafn fel pluen, yn llyfn o dan fy mysedd, a'r crochenwaith yn denau, denau, ffrydolau. Naw punt oedd y pris.

Ac ebe'r wraig wrth y stondin: It's a Goss you know. Na wyddwn. Eglurodd eu bod yn werth eu casglu, yn mynd yn brin . . . stori big, meddyliais ond rhaid oedd ei brynu.

I lyfrgell wedyn a darllen hanes William Henry Goss. Deall iddo gael ei eni ym 1833. Bu'n brif gynllunydd i William Copeland yn Stoke ar Drent ac yno y dysgodd grochenna. Erbyn 1870 yr oedd wedi agor gweithdy enwog y Falcon Works a gwelir yr hebog ar bob darn o'i waith.

***

LLESTRI bychain yw gwaith Goss ac arfbais gwahanol drefi a chymdeithasau arnynt, fe'u gwerthid fel swfenirau. Ddeng mlynedd yn ôl medrid eu prynu am ychydig sylltau, erbyn hyn y mae rhai darnau yn werth eu cannoedd. Penderfynais fod raid cyfyngu rywffordd, a'r hyn a wnes oedd casglu rhai ag arfbeisiau Cymru yn unig. Y mae gennyf erbyn hyn ryw drigain darn ac y maent wedi treblu yn eu gwerth.

Un o fy ffefrynnau yw het Gymreig ac arfbais Rhuthun arni. Rhai eraill del yw sosban Llanelli, cwpan o Drefriw, canhwyllbren o Landudno, cawg o Drefyclawdd, crochan o Queensferry, cwpan a soser o Lanfair Talhaearn (o bob man) a chwpan-cariad fawr ac arbais Owain Glyndwr arni.

Manteision mwyaf casglu Goss yw eu bod yn parhau yn gymharol resymol eu pris a'u bod hefyd yn ddigon bach i'w gosod mewn cilfachau o gwmpas y tŷ. Yr anfantais fwyaf yw eu bod yn baradwys pryfed cop ac yn hunllef y glanhau gwanwyn. Ond nid yw pawb yn gwirioni 'run fath.