WILIAM LLŶN ~ Ioan Mai Evans yn cofio

YN SICR i chi mae yna ddiddordeb cynyddol mewn achyddiaeth yn ddiweddar yma. Cymdeithas hel achau eisoes yn gweithredu yng Nghlwyd ac un arall ar y blociau yng Ngwynedd.

"Mi gaiff o hanes i nain gin i os na fydd o'n ddistaw", os aiff hi'n ffrae ffyrnig ynte, ac y mae hanes pob nain a nain i honno fel rheol yn y Beibl teuluaidd. Ac yn unigeddau'r mynyddoedd mi fyddai'r nain yn siarad am gyfyrder hwn a'r llall, cyfnitherod, neiod a nithod o hil gerdd. Yn eu bythynnod gynt onid ribidirs ar y cof fyddai enwau gwraidd a changhennau i'r hen deulu?

Clywais adlais o hynny mewn sgwrs radio lawer blwyddyn yn l bellach gan Llewelyn Wyn Griffith, yn sn un bore Nadolig am flwch baco Ifan Sin Robat Sin Jms, un o'i hynafiaid ym mhen y Rhiw, Llŷn. Y siaradwr yn ei ddull cartrefol a chwbl wyddonol yn olrhain ei deulu yn l bum cenhedlaeth i amser y brenin Jms.

Ar y radio y funud yma dyma sn am y Fonesig Diana Spencer, pisyn landeg yn l y 'Daily Post' bore wedyn, a pheth o waed uchelwyr Eifionydd yn rhedeg yn ei gwythiennau. Spencer, meddwn innau wrth gofio y llun prin hwn a gawsom drwy ganiatd caredig y Llyfrgell Genedlaethol i ddathlu pedwar canmlwyddiant marw Wiliam Llŷn.

***

A DYMA'r busnas achau yma yn ein gwthio'n l mor bell phedwar cant o flynyddoedd, ac yma mae Wiliam Llŷn neu un o'i ddisgyblion yn olrhain ryw Spencer yn l i ryw dywysog cynnar. Y bardd o Lŷn, yn l y dysgedigion wedi byw yn y rhan olaf o Oes Aur Achyddiaeth y Cymro, a chydio yn nhraddodiad rhai fel Tudur Aled.

Yna pontiodd athro Wiliam Llŷn, sef Gruffudd Hiraethog, yr hen draddodiad a chyfnod oedd yn dangos mwy o ddylanwad dieithr fel Herodraeth. Wrth draed y Gamaliel hwn o Lansannan y rhoddwyd y deyrnged "nid oes dim yn anwybodus i Wiliam Llŷn", neu mewn llawysgrif arall 'Heralds in Wales', fe geir "William Llien of Oswestre, deceased was the best." Ac yn ei hiraeth am gael ei Athro Gruffudd, yn ei l:


Cart achau y bardd

Fe gydnabyddir hefyd fod i lawysgrif Wiliam Llŷn, gymeriad arbennig iawn fel y gwelir.

Llawysgrif Wiliam Llŷn