TREBOR MÔN A'I WEITHIAU gan Dafydd Wyn Wiliam
- 1. Nodion o Gaergybi: Sef Cyfres o Lythyrau Hynafiaethol, Hanesiol, a Chofiannol
am Ynys Cybi (1877 Conwy) tt. 1-108. – 'roedd cynnwys y llyfryn hwn eisoes wedi
ymddangos yn Llais y Wlad (1875).
2. Casgliad o Hanes Cybi Sant A'i Eglwysi . . . (1880) Caernarfon) tt. 1-72 –
Traethawd anfuddugol oedd hwn a luniwyd ar gyfer Eisteddfod Môn, Caergybi,
Awst 1879.
3. Traethawd Bywgraffiadol Ar Gymmeriadau Hynod a Fagwyd yn Sir Fflint, O'r
Flwyddyn 1700 Hyd Y Flwyddyn 1885 (1886 Treorci) tt. 1-136. – Traethawd cyd-fuddugol
yn Eisteddfod Treffynnon 6 Hydref 1885.
4. Derwyddiaeth: Tomenau, Crugiau, Carneddau, Cromlechau, Cistfeini, Meini Sigl,
Meini Hirion, Llwyni, A Chylchau Derwyddol, Yn Ynys Môn Yn 0l Traddodiad A Dysg
(1890 Merthyr Tudful) tt. 1-120.
5. 'Llythyr Desgrifiadol, Cilcain A'r Amgylchoedd,' A'r 'Olygfa o Ben Mynydd
Y Dref.' Sef Tref Henafol Aberconwy, Am ba rai y derbyniodd yr Awdur y prif
wobrau a gynygiesid gan bwyllgorau Eisteddfodau y lleoedd uchod, Llungwyn 1888,
a Nadolig 1890. Hefyd y Chwe' Phenill Buddugol I'r "Foel Famau," 0
Eiddo'r Eisteddfod Gyntaf (1896 Pwllheli; tt. 1-128.
6. Diwrnod Yn Nolgellau: Y Lleoedd Mwyaf Dyddorol y Gellir Ymweled A Hwy Yn
Y Dref A'r Gymdogaeth (1904 Caernarfon) tt. 1-78 – cynullwyd y gwaith hwn ar
gyfer Eisteddfod Meirion, Calan 1902 eithr nid anfonwyd ef i’r gystadleuaeth.
7. Enwau Lleoedd Yn Môn: yn cynnwys oddeutu 800 0 Enwau Lleoedd,
Hen a Diweddar, gyda'u Hanesion Perthynasol. Hefyd Trem Frysiog Ar Y Wlad, Ei
Phoblogiad, Arferion y Trigolion, &c., Gyda Darluniau (1908 Y Bala) tt.
1-192 - traethawd anfuddugol yn Eisteddfod Môn, Caergybi, y Sulgwyn 1907.
8. Cymry Enwog Cyfnod y Tuduriaid (1915 Y Bala) tt. 1-128 – Traethawd anfuddugol
yn Eisteddfod Môn, Porthaethwy 1913.
9. Newmarket: Ei Hynafiaethau, Cofiannau, a'i Hanes
Presenol (1921 Y Bala) tt. 1-136 – traethawd ar gyfer Eisteddfod Trelawnyd 1
Awst 1910.
***
YR HYN a'm hysgogodd i restru llyfrau Trebor Môn oedd i mi daro ar gopi o Rif 3 uchod a brynwyd gan O.M. Edwards, Llanuwchllyn. Ysgrifennodd y prynwr y nodyn isod ar ei gopi:
- Ebrill 13. 1888. Dois hyd i ŵr hir coesfain, ceg potel, a
pharsel yn ei law, a'i bocedau'n llawn o lyfrau, yn araf ymdeithio ar y bore
gwlawog i fyny ffordd gul Cynllwyd. Yr oedd Phil y Go wedi dweyd wrthyf ei fod
yn medru hanes y byd o'i ddechre. Gwelais ar unwaith ei fod yn werthwr ei
lyfrau ei hun. Iaith Sir Fôn, golwg ddiniwed arno, yn cerdded o dy pregethwr i
dy person i werthu ei waith. Ni thal llyfrau Cymreig, ebe fo, oni hawkir hwy.
Dau o hwn oedd ganddo; ac yr oedd yn disgwyl y prynai person Mawddwy y llall.
Wyth milldir yno, dros y Bwlch, drwy'r gwlaw!
Yn fuan wedi'r cyfarfyddiad a gofnodir uchod fe ddechreuodd ambell ysgrif o waith Trebor Môn ymddangos yn Cymru sef y cylchgrawn graenus a olygid gan O.M. Edwards. Er enghraifft rhif 4, tt 62 a 205 'Dafydd Jones Y Cyntaf'; t. 319 'William Dykins (Derwynydd) Ffynnon Groyw, Ger Mostyn'; rhif 5, t. 139 'Parch Robert Hughes (Robyn Goch); rhif 9 tt. 59, 133 a rhif 10 268 'Diwrnod yn Aberffraw'. O holl lyfrau Trebor Môn credaf mai'r mwyaf poblogaidd ohonynt hyd heddiw yw Enwau Lleoedd yn Môn (1908), llyfr y cymer flynyddoedd i unioni'r dryswch a gyflwynir ar ei dudalennau.
Hwn, ysywaeth, yw prif borfa pobl Môn am ystyr enwau lleoedd. Anfonwyd un cyfansoddiad ar ddeg ar y testun 'Enwau Lleoedd ym Môn a'u Tarddiad' i Eisteddfod Caergybi 1907 a cheir beirniadaeth S.J. Evans yng nghyfansoddiadau'r Eisteddfod honno. Ymddengys bod yr Athro John Morris-Jones yn gyd-feirniad ag ef eithr ni cheir ei enw wrth Y feirniadaeth.
***
YN Y Rhagymadrodd i'w draethawd anfuddugol mae Trebor Môn yn llawdrwm ar y beirniaid. Cyn dyfynnu ei eiriau craffer ar ran o feirniadaeth S.J. Evans:
- . . . Mae'r awdur wedi yfed cyn ddyfned a neb o syniadau Dr. Owen Pughe. .
.0 ran diwyg y mae'r traethawd mewn llaw anhawdd ei darllen, ac o ran cynnwys,
cymysg rhyfedd yw o synnwyr cyffredin . . .
Wele ymateb y traethodwr:
- . . . mae'n rhy anhawdd i ymhonwyr golygiadau newyddion a
phenrhydd un 'ysgol newydd' ddymchwel cred a barn athrawon pwyllog a dysgedig
yr 'hen ysgol,' er pob ystryw a rhagfarn. Gwnaeth y Doethawr Puw fwy o
wasanaeth i'r iaith Gymraeg na holl Eirlyfrwyr y byd gyda'u gilydd, a haedda am
ei lafur mawr yr anrhydedd uwchaf gan ein cenedl . . . bydded i ryddid barn a
chydwybod gael chwareu teg, beth bynnag a fyddo daliadau crâch fanwl-feirniaid
(critics) ein hoes grebachlyd ni ar bethau henafol a diweddar.
Sut bynnag am yr ymgecru uchod rhaid edmygu Trebor Môn am ei ddiwydrwydd yn ysgrifennu naw o lyfrau ag iddynt apêl lleol. Pam na chafodd gilfach fechan yn Y Bywgraffiadur Cymreig Hyd 1940?