MAE'R HEN FARI'N DAL YN FYW gan D.Roy Saer
MARI Lwyd yw'r enw a roed fynychaf yng Nghymru ar y pen neu ffigur ceffyl yr arferai partïon 'Canu gwaseila' ei gludo o ddrws i ddrws yn ystod tymor y Nadolig. Y mae'r ffigur yn adnabyddus hefyd yn nefodau tymhorol rhai gwledydd eraill.
Ymddengys ei fod gynt yn hysbys drwy dde-ddwyrain Cymru a rhan helaeth o sir Gaerfyrddin eithr yn ystod y ganrif bresennol nis gwelwyd lawer iawn y tu allan i Forgannwg, lle nad yw eto wedi llwyr ddiflannu.
Y mae'r saith pennill a roir yma yn cynrychioli rhan agoriadol defod y Fari Lwyd, pan ganai'r parti y tu allan i'r drws gyfres o benillion traddodiadol. Yna dôi'r 'pwnco', sef y ddadl (a genid ar yr un dôn, mewn cyfuniad o benillion traddodiadol a rhai 'difyfyr') rhwng aelod o'r parti a gwrthwynebydd y tu arall i'r drws.
Tap AWC 7. Recordiwyd Hydref 1953 gan William Morgan Rees (gweithiwr rheilffordd, g.1883), Woodlands, Brynmenyn, ger Pwn-y-bont ar Ogwr, sir Forgannwg. Hyd at 1933 arferai WMR weld gwyr yn "canu gwaseilia", gan ddwyn y Fari Lwyd allan, yn y pentrefi i'r gogledd=ddwyrain o Ben-y-bont (Coety, Bryncethin etc.) |
Fel arfer, ceid tynnu coes yn lled galed wrth i'r naill ochr ddifrïo’r llall am ei ganu angherddgar, ei feddwdod, ei grintachrwydd, etc. Disgwylid i griw'r Fari Lwyd drechu yn y ddadl cyn ennill mynediad i'r tŷ a chael yno gacenni a diod, ac o bosibl, rodd ariannol.
Weithiau, o leiaf, wedi terfynu'r 'pwnco', canai'r parti benillion ychwanegol yn cyflwyno'i holl aelodau ac yr oedd hefyd gân ffarwél y gellid ei chanu wedi'r tipyn difyrrwch ar yr aelwyd. Yn ôl pob golwg, ar fesur triban ac ar dôn wahanol yr oedd y ddwy gân olaf.
(Addaswyd y defnyddiau uchod o'r gyfrol 'Caneuon Llafar Gwlad,' gol. D. Roy Saer, Cyfrol 1, Amgueddfa Genedlaethol Cymru, 1974.)