HEN ANRHEG I'R HEN FAM ~ Arolwg Bedwyr Lewis Jones

"EIN Tad yr hwn wyt yn y Nafi," meddai Goronwy Owen wrth ddechrau un o'i lythyrau at Rhisiart Morys, – y canol a'r mwyaf o'r tri brawd dawnus o Bentre-eiriannell, Môn. Mae'r cyfarchiad yn dal Rhisiart Morys i'r dim. 'Roedd ef ar y pryd yn glerc yn y 'Nafi Offis' yn Llundain. 'Roedd hefyd yn ddihareb am ei garedigrwydd, yn dad i Gymry alltud fel Goronwy a gai eu hunain mewn trafferthion. Ac ef, fel y cofiwch, oedd pennaf sylfaenydd Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion.

Ond nid am Rhisiart Morys fel un o ben-blaenoriaid cynnar Cymry Llundain yr wyf fi am sôn yn yr ysgrif hon. Mae yna agwedd arall ar ei weithgarwch sy'n nes o dipyn at ddiddordeb darllenwyr Y Casglwr, oherwydd rhwng 1744 a 1770 fe olygodd y gŵr hwn ddau argraffiad newydd o'r Beibl a phedwar argraffiad o'r Llyfr Gweddi Gyffredin, – ac mae rhai o'r argraffiadau hynny yn llyfrau go arbennig.

Erbyn 1740, a'r ysgolion cylchynol yn dysgu pobl gyffredin i ddarllen wrth y cannoedd, 'roedd galw mawr am Feiblau. Dywed Griffith Jones ei hun ei fod ef rhwng haf 1737 a Mawrth 1738 wedi dosbarthu 940 o gopïau. Dihysbyddwyd y stoc oedd yn sbâr o Feibl 1727, – yr argraffiad swyddogol diwethaf – a dechreuwyd pwyso ar y Gymdeithas Er Taenu Gwybodaeth Gristnogol – yr SPCK – i fynd ynglŷn ag argraffiad newydd.

Ym 1743 cytunodd hithau, neilltuodd £500 tuag at y costau, ac ym Mehefin 1744 Ymgymerodd Rhisiart Morys â'i olygu. Canlyniad hyn oedd argraffiad 1746 o'r Beibl a'r Llyfr Gweddi o wasg Joseph Bentham, Caergrawnt yn un gyfrol octafo.

Heblaw'r ddau Destament, y Llyfr Gweddi, a'r Salmau Cân, cynhwysai cyfrol 1746 bethau eraill yn ogystal. Yn un peth 'roedd ynddi draethawd, 'Mynegai'r Beibl', yn rhoi 'hanes y pethau hynotaf yn llyfrau'r Hen Destament a'r Newydd, yn dangos pa amser y digwyddasant a pha leoedd yn yr Ysgrythur y maent wedi eu gosod i lawr." 'Roedd ynddi hefyd dablau a mapiau.

***

Y DYDDIAD ar wyneb Beibl Caergrawnt Rhisiart Morys yw 1746, ond nid ymddangosodd am ddwy flynedd ar ôl hynny. Cwyno'n enbyd yr oedd William ym mis Mawrth 1747 'fod y Beiblau mor ddiog am ddyfod allan', ac nid hyd Fawrth 1748 y darllenwn yn llythyrau'r brodyr fod y gwaith o'r diwedd wedi ei orffen. 'Aie fe aeth y Beibl i ben,' meddai William yr adeg honno gan ychwanegu, 'Mae arnaf flys ei weled'.

Erbyn hynny yr oedd copi wedi cael ei gyflwyno i'r Esgobion ac i'r Senedd, ond bu'n rhaid i William aros pum mis arall cyn gweld un. Yna yn niwedd Medi 1748 wele gistiaid ac ynddi 25 copi yn cyrraedd Caergybi.

Bu cip ar yr argraffiad. 'Ni bu erioed y fath daro ym Môn ar lyfrau,' yn ôl William. Erbyn 1750 'roedd yr SPCK yn adrodd fod 15,000 o'r Beiblau wedi eu dosbarthu ac yn paratoi ar gyfer argraffiad arall. Gwahoddwyd Rhisiart Morys i olygu hwn eto.

Bwriodd yntau ati, gan gasglu cywiriadau gan ei frawd William, gan Richard Bulkley – person Llanfechell a'r 'Cymroaegydd gorau mae'n debyg ym Môn' – a chan eraill. Dyma argraffiad 1752, yn ôl yr wynebddalen, o wasg Tomas Bascett yn Llundain.

Cyrhaeddodd hwn Gaergybi yn Ebrill 1754 ac 'roedd William wedi ei blesio ynddo. 'Dyma Mr Ellis (person Caergybi) wedi cael tair cistiaid o Fiblau a darnau o Fiblau. Moliant i Dduw am y golwg prydferth!. . . I am vastly pleas'd with the Common Prayer, Testament and Singing Psalms bound together.'

'Roedd cyfrolau yn cynnwys y Llyfr Gweddi, y Testament a'r Salmau Cân; 'roedd hefyd gopïau yn cynnwys y Llyfr Gweddi, Y Beibl a'r Salmau; a chyfrolau eraill o'r Llyfr Gweddi a'r Salmau yn unig. Hepgorwyd Mynegai'r Beibl 1746, ond ychwanegwyd rhan newydd, sef `Hyfforddiadau i Ymddygiad Defosiynol a Gweddus yng Nghyhoedd Wasanaeth Duw'.

***

GYNTED â'i fod allan 'roedd Rhisiart Morys wrthi ar gynllun arall, sef argraffu set o 54 o ddarluniau Ysgrythurol ar gyfer y Beiblau a'r Llyfrau Gweddi. Cyhoeddodd 'proposals' erbyn Awst 1754. Amau gwerth y 'cutts' a wnâi ei frawd William ar y dechrau a rhyw led-rwgnach fod yn rhaid gadael y llyfr (sef ei gopi ef o argraffiad 1752) heb ei rwymo tan na cheffir y darluniadau.

Erbyn haf 1755 'roedd y lluniau'n barod. Ar ôl hynny y rhwymwyd hwy mewn rhai copïau o Destament Newydd a Llyfr Gweddi 1752. Yn y cyfrolau hyn cynhwyswyd wyneb-ddalen ddwbl arbennig.

***

MAE enwau'r engrafwyr yn ddiddorol. Ffrancwyr oedd pedwar ohonynt, sef Simon Ravenet, Charles Grignon, Louis Scotin a Pierre Canot, pob un ohonynt yn gweithio ar y pryd yn Llundain ac yn feistri ar eu crefft. Sais oedd Walker a Chymro oedd y seithfed, Ryland.

'Roedd Rhisiart Morys wedi cael gafael ar waith engrafwyr gorau'i ddydd i harddu rhai copïau Cymraeg.

Yn y copïau arbennig o'r Llyfr Gweddi ym 1755 fe ellid cael hefyd wyth tudalen o gerddoriaeth. Dyma 'Williams's Salms' y cyfeiria William Morris atynt, – 24 o donau ar gyfer y salmau, yn cynnwys wyth tôn newydd 'o Gyfansoddiad Ifan Wiliam'. Evan Williams o Langybi yn Eifionydd ac athro'r delyn yn Llundain oedd y cerddor a'i donau ef ynghlwm wrth rai copïau o Lyfr Gweddi 1752 oedd 'y rhai cyntaf a gafodd y genedl yn argraffedig', yn ôl R.D. Griffith.

***

AR ôl gofalu am argraffiad 1752-5 cafodd Rhisiart Morys seibiant oddi wrth ei waith golygu, ond yna ym 1766 ailymaflodd ynddi. Ymgymerodd â golygu dros yr SPCK argraffiad mawr o'r Llyfr Gweddi ar gyfer yr eglwysi. Dyma argraffiad ffolio 1768, o wasg Mark Baskett yn Llundain, – 'un o'r rhai harddaf a welodd Cymro yn ei iaith ei hun', fel y dywedodd John Thomas, Biwmares ar y pryd. Fe'i gwerthid am '18/- yn llennau, a 5/- caead garwgroen llo, a I/- ychwaneg os bydd enw'r plwyf a'r wardeniaid ar y caead'.

 

Dwy o wyth tôn wreiddiol Ifan Wiliam

Ddwy flynedd yn ddiweddarach daeth pedwerydd Llyfr Gweddi Rhisiart Morys, y tro hwn yn argraffiad octafo o wasg J. Archdeacon, Caergrawnt, 1770. Yn ogystal â'r Hyfforddiadau, Y Llyfr Gweddi a'r Salmau Cân, fel yn argraffiad 1752, cynhwysai hwn yr wyneb-ddalen arbennig a gynlluniodd y golygydd ym 1755, tonau Evan Williams, a'r 'LIV o Ddarluniadau'.

Fe ddywedir yn aml mai yn argraffiad 1770 yn unig y ceir y lluniau, ond fel y gwelsom fe gynhwyswyd y rheini mewn rhai copïau o argraffiad 1752 a ymddangosodd ar ôl 1755.

***

MAE argraffiad 1770 yn un hardd. Mae'r argraffwaith ynddo'n bleser i'n llygad ac mae'n hawdd cytuno â Gwilym Lleyn fod hwn 'yn un o'r llyfrau harddaf a gyhoeddwyd' yn ystod y ddeunawfed ganrif. Gwelais un copi a'r darluniau – y cyts, chwedl y Morrisiaid – wedi eu lliwio â llaw yn las a melyn a phorffor, etc. : 'roedd yn drysor i dynnu dŵr o ddannedd unrhyw gasglwr!

Y flwyddyn y cyhoeddwyd hwn, 1770, o wasg John Ross yng Nghaerfyrddin ymddangosodd yr argraffiad cyntaf o Feibl Peter Williams, – y Beibl 'â nodau arno', a'r Beibl cyntaf i gael ei argraffu yng Nghymru. Yn hwn mae dau fap, un o 'Deithiau Plant Israel yn yr Anialwch' a'r llall o 'Deithiau yr Apostolion'.

Rhodd Rhisiart Morys i'r Cymry yw'r ddau. Yn Ebrill 1770 anfonodd ef 'ddeunaw mil o fapiau ar gerdded i Gaerfyrddin i'r Bibl mawr sydd ar fin ei orffen.' Mae'r mapiau'n gyswllt diddorol rhwng Beiblau dau olygydd gwahanol iawn i'w gilydd.