GOGONIANT Y GEIRIAU gan Gerald Morgan

 

Enghraifft o waith David Jones mewn dyfrliw yn cynnwys darn o ladin (o'r Beibl), Saesneg o waith James Joyce, Saesneg Canol o waith William Dunbar a'r Gymraeg o'r Efengyl yn l Ioan.

PETH enbyd yw ysgrifennu am arddangosfa heb erioed ei gweld, a gwell i mi gyfaddef ar unwaith. Bu un o arddangosfeydd hynotaf ein cyfnod (ym marn ychydig o bobl fel fi!) yn Llundain o 24 Hydref hyd 22 Tachwedd eleni, sef casgliad o 'arysgrifau' David Jones, y bardd ac arlunydd a fu farw ym 1974. Fe'i cynhaliwyd yn oriel Anthony d'Offay, 9, Dering St., New Bont St., ac y mae'r catalog yn cynnwys 29 o'r arysgrifau, i gyd ar werth am brisiau'n amrywio o 600 hyd 3,000 a rhagor.

Nid yw'r arysgrifau hyn wrth fodd pawb sy'n eu gweld. Gwelir mewn arysgrif ymadrodd, neu nifer o ymadroddion, mewn Lladin, Hen Saesneg a Chymraeg, oedd yn apelio i David Jones ei hun. Yn y rhai symlach, maent yn darllen yn rheolaidd ar draws y ddalen, ond y mae'r rhai llawnach yn cynnwys brawddegau sy'n rhedeg o gwmpas ymyl y ddalen.

Ffurf y llythrennau yw'r dull Rhufeinig diweddar o lythrennu ar gofebion, pan oedd ffurfioldeb manwl y cyfnod cynharach yn dechrau newid, a'r llythrennau'n dod yn fwy ystwyth. Defnyddiai bensil ar y dechrau (yn y pedwardegau), a chreion yn gefndir i'r llythrennau, ond erbyn diwedd y pedwardegau 'roedd wedi penderfynu ar y ffurf a'i bodlonai. Peintiai'r papur yn wyn, fel bod y cefndir yn fwy positif, ac yna gweithiai ar y llythrennau mewn paent - lliwiai'r llythrennau'n ddu, brown, coch a gwyrdd.

Mae'r arysgrifau'n hynod am eu bod hanner y ffordd rhwng 'celf' a 'lln'. Fel celf, dibynnent am eu hapl ar rediad y geiriau a'r llinellau, a'r amrywiaeth lliwiau, heb sn am ffurf y llythrennau eu hunain: mor wahanol i 'gywirdeb' gwaith ei gyfaill Eric Gill. Nid oedd, fel Gill, yn llythrennwr proffesiynol, ac ni ddyfeisiodd wyddor - y mae pob llythyren yn greadigaeth bychan.

***

FEL llenyddiaeth, nid ydynt yn greadigaethau newydd; yn hytrach, maent yn crisialu techneg beirdd megis T.S. Eliot (a David Jones ei hunan yn 'In Parenthesis' a'r 'Anathemata') o grynhoi dyfyniadau tra gwahanol i'w gilydd, a'u cyfosod o fewn cyd-destun y thema. Gellir nodi'n fras ychydig o'i ffynonellau yr Offeren, y Beibl, yr Aeneid, y gerdd Hen Saesneg 'Breuddwyd y Groes', heblaw'r ffynonellau Cymraeg a ddefnyddiai.

Yn ffodus, y mae rhai o'r goreuon o'r arysgrifau ar themu Cymraeg eisoes yn yr Amgueddfa a'r Llyfrgell Genedlaethol - er bod dyn yn pryderu am ddiffygion yn adeilad y Llyfrgell sy'n ein rhwystro rhag gweld y campweithiau hyn yn cael eu harddangos yn barhaol. 'Roedd yna ychydig o rai Cymraeg yn yr arddangosfa yn Llundain, megis 'Dewi Ddyfrwr, gwedda dros Gymru: Calan Mawrth, 1951'; diddorol yw sylwi nas cynhwyswyd y rhain yn y Catalog, fel petai'r arysgrifau Cymraeg yn isradd - ond nid yw'r prisiau'n isradd!

Un o'r rhai mwyaf hynod yw'r arysgrif 'Mulier cantat...' Mae'r Lladin yn frithwaith o ymadroddion am y Forwyn Fair a'r Ymgnawdoliad; yna ar hyd yr ymylon ceir dwy linell o waith Saesneg y Sgotyn William Dunbar, a'r frawddeg Gymraeg, 'Duw oedd y Gair, a daeth y Gair yn gnawd'. O'r wyth darlun yn y Catalog, 'Mulier cantat...' yw'r unig un sy'n cynnwys Cymraeg, ac ysywaeth y mae'r lluniau'n ddu-a-gwyn.

***

'ROEDD David Jones ei hun yn ystyried yr arysgrifau'n fath o gelfyddyd bersonol, breifat, ar gyfer ei gyfeillion, ac ar ei gyfer ef ei hun. Byddai'n gwneud copau o ambell un fel cerdyn Nadolig personol, a byddai'n llunio ambell arysgrif i anrhydeddu cyfaill. Y mae un hynod iawn i Mr Saunders Lewis yn bod (nid yn yr arddangosfa) ac y mae un yn y catalog i'r bardd Kathleen Raine, a luniodd yn 1968 efallai'r olaf o'r arysgrifau.

Rhaid i mi gyfaddef fy mod wedi gwirioni arnynt ers blynyddoedd, ac wedi bod yn awyddus iawn i weld copau ohonynt. Dywedir yn aml nad yw celfyddyd Gristnogol yn bosibl yn yr oes sydd ohoni, ond yr oedd David Jones bob amser yn eithriad. Y mae dŵr croyw ei ysbrydoliaeth Gristnogol yn llifo yn ei luniau dyfrlliw, ac yn yr arysgrifau hefyd.

Ac o ran y Gymraeg a Chymru, gwefreiddiol yw gweld ymadroddion Beiblaidd a gwaith y beirdd wedi eu trawsffurfio. Y mae arysgrifau David Jones yn medru ein cymell, yn null gwaith arlunwyr yr Oesau Canol, tuag at burdeb, hyd yn oed pan ystyrir lluniau yn gyfalaf ac yn fuddsoddiad.