DYDD Y PETHAU BYCHAIN gan G.Haulfryn Williams

RAI blynyddoedd yn ôl, cefais fy ngalw yn rhinwedd fy swydd fel archifydd i dŷ bychan di-nod yn un o bentrefi Arfon. Yr oedd perchennog y tŷ wedi marw ac yr oedd ei chwaer wrthi'n chwalu'r cartref, ac wedi dod o hyd i swp o gofnodion gwarcheidwaid y tlodion ym mhlwyf Beddgelert. Cefais y dogfennau'n rhai digon defnyddiol, ac fe'u derbyniais hwy'n ddiolchgar – cewch eu darllen heddiw yn Archifdy Caernarfon.

Ond yr hyn a wnaeth y siwrne yn neilltuol o werthfawr oedd gweddill cynnwys y tŷ. Bu'r teulu'n ffarmio am ganrifoedd ar gyrion Beddgelert, ond tua 1910, gwerthodd tad y ddwy chwaer ei stoc, gan brynu'r tŷ teras bach y soniais amdano eisoes, a symud i ardal y chwareli er mwyn ennill bywoliaeth fel chwarelwr. A chydag ef daeth holl gynnwys yr hen gartref, dau gwpwrdd tridarn, dwy ddresel, hen setl, ac yn y blaen, y cyfan yn enghreifftiau gwych o grefftwaith cefn gwlad blynyddoedd cynnar y ddeunawfed ganrif.

Nid oedd prin le i mi wasgu heibio'r cyfoeth dodrefnol hwn wrth fynd i'r tŷ, ac ni welais, a siawns na welaf byth eto, y fath ogof Aladdin o ddodrefn yn nwylo'r perchnogion gwreiddiol.

Chwarae teg i'r chwaer oedd ar ôl, nid oedd hi am werthu dim o'r celfi, gan ei bod hi'n awyddus i'r pethau gael cartref mewn amgueddfa. Cewch weld darnau o'r tŷ rhyfeddol hwnnw yn yr Amgueddfeydd ym Mangor a Sain Ffagan; ac oherwydd y cysylltiadau teuluol i'r Gatrawd aeth y dresel i "mess" y swyddogion ym Marics Caernarfon.

***

BU llawer o gasglu ar ddodrefn cain ers canrif a mwy, a ffurfiwyd nifer o gasgliadau preifat o ddodrefn derw gwledig dros y blynyddoedd, megis Casgliad Ynysgain, sydd i'w weld heddiw yn Amgueddfa Bangor. Yn sgîl y casglwyr gwreiddiol daeth dilynwyr y ffasiwn am hel dodrefn hynafol – a hyn i gyd tra oedd y werin yn chwennych dodrefn ysgafnach a mwy modern. Pan nad oedd y werin yn taflu'r dresel i'r buarth a'r gist dderw i'r beudy, yr oeddynt yn eu gwerthu am sylltau i bobl o'r ochr draw i Glawdd Offa.

Ar ben hyn, dim ond y dodrefn mawr cadarn a wrthsafodd dreigl y blynyddoedd – a rhaid cofio fod poblogaeth Cymru wedi tyfu'n aruthrol ers dyddiau'r seiri crefftus a weithiai mewn derw i greu'r celfi sydd mor werthfawr heddiw.

Canlyniad hyn oll, wrth gwrs, yw'r prinder o ddodrefn hen ond o ansawdd da – sefyllfa sy'n arwain at brisiau uchel am bethau nad ydynt hyd yn oed o'r safon orau. Gwacawyd cartrefi Cymru o'n treftadaeth i raddau helaeth. Erbyn hyn, nid syndod a ddaw i ran y sawl sy'n ceisio gwerthu darn am ei fod o'n werth pumpunt, ond siom am nad yw'n werth mwy na phum cant! Yn y fath hinsawdd, prin y gall neb obeithio hel casgliad da o hen ddodrefn heddiw heb fod yn barod i wario miloedd o bunnau.

Oherwydd hyn, y mae diddordeb yn codi yn y celfi mân oedd i'w cael yng nghartrefi'r wlad o gwmpas yr aelwyd, yn y gegin, yn y stabl a'r beudy hyd yn oed. Heb obaith am lenwi tŷ efo dodrefn Cymreig, mae pobl yn dechrau bodloni ar bethau modern neu atgynhyrchiadau, gan ganolbwyntio ar ddangos parch a hoffter at ein treftadaeth trwy ddewis petheuach dibwys bob-dydd yr oes a fu fel addurniadau.

***

MAE HYN yn agor maes newydd a ffrwythlon i'r casglwr. Caiff y boddhad o achub a diogelu creiriau yr hen ffordd o fyw, gan greu rhyw fini-Sain Ffagan ar ei silff-ben-tân. Ac, o fagu tipyn o wybodaeth yn y maes, mae cyfle o hyd iddo daro ar rywbeth yn yr helm neu'r certws yn ei gartref – neu mewn arwerthiant, am y nesa' peth i ddim – a fydd yn ychwanegiad o bwys i'w stôr o drysorau.

Yn sicr, bydd celfi bach yn codi yn eu pris fel y bydd y ffynonellau'n sychu a'r duedd i hel y fath bethau'n cryfhau. Mae pris canwyllbrennau pres eisoes yn ddiarhebol o uchel, £30 neu fwy am bâr cymedrol eu maint, ac mi fyddwch yn lwcus i daro ar ysgelet bres am lai na £40 bellach. Ond eto, credaf fod y prisiau hyn yn mynd i godi'n sylweddol a chyson.

Ceir gwell bargeinion, efallai ym myd nwyddau haearn a phren, ond eto, mae'r rhain yn dra diddorol ac yn bur atyniadol. Ar ben y rhestr siopa, gosoder canwyllbrennau brwyn, yn arbennig y rhai gyda choesau haearn, a haearnau goffro; ym maes y gwaith coed, mits a stampau menyn, ac unrhyw waith turniwr - ac wrth gwrs os cewch lwy serch go iawn am bum punt neu ddeg, wel, prynwch hi ar unwaith!

Mae'r rhestr bron yn ddiddiwedd, ond mae'n sicr y codir gwerth pethau fel crochan haearn, fflat neu haearn smwddio hen-ffasiwn (yn arbennig os oes stondin gydag ef), glaniadur (siswrn snyffio), cyllyll a ffyrc gyda handeli wedi'u rifetio, a gefel dân a'u tebyg.

Daw mwy a mwy o werth i unrhyw bethau fel hyn sydd o wneuthuriad yr efail neu'r crefftwr lleol. Ac yn y bôn, onid yw casgliad o'r fath greiriau'n fwy teilwng o sylw'r Cymro na helfa ogoneddus o grochenwaith Swydd Stafford neu bethau felly?