DIWYGIAD A'R LLYFR GWEDDI gan Mary Ellis

MEWN ffair sborion er budd Cymorth Cristnogol y prynais yr hen Lyfr Gweddi. (Ond nid pris ffair sborion a delais amdano, chwaith). Mae'n glamp o lyfr clawr lledr gyda phatrwm wedi'i weithio arno, a sêl yr S.P.C.K. yn Saesneg ar y canol. Ond llyfr Cymraeg ydyw, a argraffwyd yn Rhydychen ym 1836. "Dyma'r argraffiad y bu Rowland Williams, Rice Rees a Nicander yn ei ddiwygio", meddwn i wrthyf fy hun, ac oherwydd hynny, petai dim arall, yr oedd yn rhaid ei brynu.

Yr hyn sydd ar yr wyneb-ddalen yw Llyfr / Gweddi Gyffredin / a gweinidogaeth y / Sacramentau / a / Chynneddfau / a seremonïau eraill yr Eglwys / yn ôl arfer / Eglwys Gyfunol Lloegr ac Iwerddon / ynghyd â'r / Psalmwyr, neu Psalmau Dafydd / Rhydychen / argraphedig yn Argraphdy y Brifysgol / gan Samuel Collingwood ac eraill argraphwyr i'r Brifysgol / Tros y Gymdeithas er Taenu Gwybodaeth Gristionogol / Ar werth yn eu Llyfrdy yn Great Queen Street, Lincoln's Inn Fields, Llundain / MDCCCXXXVI / Cum Privilegio.

Teimlai'r gwŷr eglwysig a ddefnyddiai'r llyfr ei bod hi'n hen bryd cael argraffiad diwygiedig. Cawn Peter Bailey Williams yn rhestru rhai geiriau ac ymadroddion dieithr, neu a oedd wedi newid eu hystyron, yn ei lythyrau at Tegid a Gwallter Mechain. Pan ddaeth y Frenhines Victoria i'r orsedd yn 1837, rhaid oedd cael argraffiad newydd o'r Llyfr Gweddi Gyffredin i gynnwys ei henw hi yn y gweddïau perthnasol, a gwelwyd cyfle i ddiwygio'r cyfieithiad yr un pryd.

Dewisodd pob un o'r pedwar esgob ei Gaplan Arholi yn Gymraeg i wneud y gwaith. Rowland Williams, ficer Ysgeifiog a gynrychiolai esgobaeth Llanelwy; Rice Rees, Athro Cymraeg Coleg Llanbedr esgobaeth Tŷ Ddewi; Yr Archddiacon W. Bruce Knight, esgobaeth Llandâf a'r Archddiacon John Jones, Llanfachraeth, sir Fôn, esgobaeth Bangor. Dewiswyd Morris Williams, Nicander, yn ysgrifennydd y Comisiwn. Curad Treffynnon ydoedd ar y pryd, ac yn gyfleus i ymgynghori â Rowland Williams.

***

YR YDYM ni heddiw yn ffodus am ddau beth. Yn gyntaf am i Rice Rees ddiogelu'r ohebiaeth a fu rhwng y pedwar comisiynydd, y taflenni cywiriadau a phentwr o bapurau eraill. Aeth y cwbl i Lyfrgell Caerdydd. Yn ail, am i'r Archddiacon A.O. Evans, Llanfaethlu, sir Fôn gyhoeddi'r ohebiaeth a fu rhwng y pedwar comisiynydd, y taflenni cywiriadau a phentwr o bapurau eraill. Aeth y cwbl i Lyfrgell Caerdydd. Yn ail, am i'r Archddiacon A.O. Evans, Llanfaethlu, sir Fôn gyhoeddi'r ohebiaeth mewn tair cyfrol drwchus, gyda rhagymadrodd, nodiadau manwl ac ysgrifau cofiannol.

Cyhoeddwyd A Chapter in the History of the Welsh Book of Common Prayer . . . annotated . . . by Albert Owen Evans, Bangor yn 1922. Jarvis & Foster oedd y cyhoeddwyr a'r argraffwyr, ac y mae'r cyfrolau o'r herwydd yn bleser i'w trafod.

Y dyddiau hyn, pan mae'r Comisiwn Litwrgiaidd, gyda'i amryfal aelodau a'i arbenigwyr yn cyfarfod yn rheolaidd mewn mannau canolog, ni allwn ond rhyfeddu at yr hyn a gyflawnodd diwygwyr 1836/39 gan ddibynnu'n llwyr ar ohebu drwy'r post. Yr hyn sydd yn taro dyn yn rhyfedd heddiw, fodd bynnag yw mai yn Saesneg y 'sgrifennent.

Ac eto, o gofio holl lythyrau'r llenorion Cymraeg yn y ganrif ddiwethaf, ni ddylem synnu dim.

***

I'R SAWL sy'n gyfarwydd â'r Llyfr Gweddi Gyffredin o 1841 ymlaen, nid yw argraffiad 1836 i'w weld yn ddieithr ond mewn manylion. Ar ddechrau'r Foreol Weddi dywedir fod yr "Ysgrythur Lan yn ein cynhyrfu mewn amrafael fannau . . ." a'r diwygwyr wedi ei droi'n "mewn amrywiol fannau." Ar ddiwedd y Gollyngdod "megis y delom o'r diwedd i'w lawenydd tragwyddol" sydd yn 1836, a "modd y delom o'r diwedd" yn 1841.

Yn yr ail golect am dangnefedd," . . . a'th wasanaeth yw gwir fraint" (1836), "sydd wir fraint" (1841). Ymddiffyn sydd yn 1836 drwyddo, am Amddiffyn. Yn 1836 gweddïo dros "ein grasusaf ddaionus Arglwydd, Frenin Gwilym" a'i frenhines Adelaide a wnaed. Gweddi dros yr Eglwyswyr a'r bobl yw'r un dros Esgobion a'u curadiaid. Newidwyd hyn i "Yr offeiriaid a'r bobl."

Yn y Litani "Y gogoned, lân fendigaid Drindod" sydd yn 1836. "Yr ogoned, lân etc." yn 1841. "Oddiwrth bob terfysg, dirgel frad a gwrthryfel; oddiwrth bob ffals ddysgeidiaeth, opiniwn annuwiol a sism" (1836) Newidiwyd i "oddiwrth bob gau ddysgeidiaeth, heresi a sism". Diddorol yw sylwi mai Ymraniadau oedd cynnig Peter Bailey Williams am sism.

Yn 1836 erfyniwyd am i'r Penswyddogion i "faentumio'r gwir"; "Amddiffyn y gwir" yn 1841. Weithiau mae'r ystyr yn dywyll, e.e. "Teilyngu o honot ymddiffyn ac amgeleddu y plant amddifad a'r gwragedd gweddwon a phawb a'r y sydd yn unig, ac yn goddef pwys plaid orthrech". Daeth yn fwy dealladwy fel "yn goddef gorthrymder." Newidwyd ysglandrwyr i enllibwyr.

Cafodd y gair buchedd ei newid i bywyd bron yn ddieithriad. Yn y Colect am y Sul cyntaf yn Adfent, ". . . yn awr yn amser y fuchedd farwol hon", a ". . . gyfodi i'r fuchedd anfarwol drwyddo ef". (1836). Yn y Colect am Ddydd Nadolig cadwyd at ". . .trwy fabwys a rhad" yn 1841, "rhad is a famous old Welsh word", meddai Bruce Knight.

Ond ffafrio'r gair gras a wnaent at ei gilydd, gan ddilyn Ellis Wynne (argraffiad 1710). Yn y weddi dros "Holl Ystâd eglwys Crist sy'n Milwrio yma y ddaear" yr oedd "Dyro rad, nefol Dad" yn taro'n chwithig ar glustiau Rowland Williams a Nicander, a chytunai Rice Rees â hwy.

Yn y Colect am ddydd Troad Sant Paul ". . . gan ddal ei ryfedd ymchweliad ef mewn coffa" sydd yn 1836; "ei ryfedd dröedigaeth" a aeth i 1841. Yng ngwasanaeth y Cymun newidiwyd "Ministriad y Cymun" i "Weinyddiad y Cymun", a throes bar yn llid. Ond gadawyd y gair anach yn Ffurf Gweinyddiad Priodas, lle gofynnir i'r pâr priodasol ". . . o gwŷr yr un ohonoch un anach". Rhwystr yw ystyr anach, ac ni welai Rowland Williams reswm dros ei newid.

***

NID oedd gwasanaeth Urddo Diaconiaid, nac Offeiriaid na Chysegru Esgobion yn argraffiad 1836, ac ni welai cynrychiolwyr yr S.P.C.K. na gwŷr Gwasg Prifysgol Rhydychen yr angen am eu cynnwys. Eu hesgus oedd na fedrai yr un esgob siarad Cymraeg! Nicander, druan oedd yn gorfod wynebu'r Saeson unllygeidiog hyn yn Rhydychen, ac erfyniodd ar Rice Rees i geisio cael gan yr esgobion a'r boneddigion eu hargyhoeddi.

Gwnaeth hwnnw ei orau; Beth, meddai pe bai Arthur Johnes yn clywed nad oes gwasanaeth ordeinio i fod yn y Llyfr Gweddi o hyn ymlaen? Dyna helynt a godai! Awdur y llyfr "The Causes of Dissent" oedd Arthur Johnes, yn beirniadu'r eglwys am gam-ddefnyddio ei chyllid ac yn ymosod ar yr esgobion Seisnig.

Ar ddiwedd y llyfr ceir Llyfr y Psalmau . . . ar fesur cerdd yn Gymraeg trwy waith Edmund Prys, gydag wyneb-ddalen iddo'i hun. Ond fe'i gadawyd allan o fersiwn 1841 gan fod casgliadau o emynau wedi dyfod yn ddigon cyffredin erbyn canol y ganrif.

Yr Emynau sydd ar ddiwedd y llyfr yw Veni Creator . . ., Cân Ambros neu Te Deum; Cân y Tri Llanc neu Benedicte; Cân Zacharias neu Benedictus; Cân Mair neu Magnificat; Cân Simeon a'r Iesu yn ei freichiau a elwir Nunc Dimittis; Gweddi'r Arglwydd, y Credo a'r Dengair Deddf mewn penillion; Galarnad Pechadur, sef emyn Rowland Fychan, Na thro dy wyneb, Arglwydd Glan; Emyn i'w ganu ar ôl y Cymun; Emyn i'w ganu mewn Cynhebrwng neu Wylnos, Myfi yw'r Adgyfodiad mawr, gan Ellis Wynne. (Fe'i rhoes yn ei argraffiad o Lyfr Gweddi 1710 er mwyn llenwi tudalen weili!

Yn olaf ceir pedwar gwahanol fesur o'r Gloria Patri, sef Gogonaint i'r Tad, i'w ganu ar ddiwedd y Salmau. Yn argraffiad 1841 aeth Veni Creator, Tyr'd Ysbryd Glân i'n c'lonnau ni i'r Gwasanaeth Cysegru Esgobion, a gollyngwyd y lleill.

***

ERBYN hyn mae llyfrau Gwasanaethau Bore a Hwyr; y Cymun Bendigaid; a'r Gwasanaethau Achlysurol wedi eu hawdurdodi i'w harfer ar brawf ers 1969. Ni chawn ein cyfarch mwyach fel "Annwyl gariadus frodyr", ac ni fyddwn yn ein cyffelybu ein hunain i "ddefaid ar gyfrgoll", nac yn ein galw ein hunain yn "ddrwgweithredwyr truain". Wrth gael ein gwahodd at yr allor i gymuno, nid oes raid i ni fod "mewn cariad perffaith â'n cymdogion", ac ni chawn "eiriau cysurus" i'n hysbrydoli tuag yno.

Ond y mae'n rhaid diwygio. Ni thâl i ni siarad â Duw gyda geirfa'r oes o'r blaen, a siarad â'n gilydd yn iaith heddiw. Mae'r Colect am yr ail Sul yn Adfent yn y llyfr presennol yn dweud yr un peth ag yn yr hen un:—

Er hynny, mae rhediad y brawddegau cwmpasog yn y Colectau y cefais i fy magu arnynt yn rhoi rhywbeth i'r enaid yn ogystal ag i'r glust.