BARGEN I BAWB - Y Golygydd
CYFRAN werthfawr ymhob ystyr – o'r rhifyn hwn yw'r hysbysiadau. Ar y naill law cewch wybodaeth am y cyfrolau sy' newydd ymddangos ar y farchnad ac ar y llaw arall, cewch restrau o'r cyfrolau a fu'n newydd unwaith ond sydd bellach yn brin ac yn anodd cael gafael arnynt. Diau y manteisiwch yn llawn ar yr arlwy a gynigir i chwi.
Rhaid tynnu sylw arbennig at hysbysiadau'r gwerthwyr llyfrau ail-law. Mae hyd yn oed y gwerthwyr yn ei chael yn fwy a mwy anodd cael gafael ar y rhain, ac o ganlyniad mae dygn angen arnynt am y gefnogaeth lwyraf os ydynt i oroesi. A chan mai codi i'r entrychion mae'r prisiau, dyma'r amser i ymweld â'r siopwyr yma.
Ewch i Landudno at D. Lloyd Hughes, i Bwllheli at Watkin Owen, i Gaernarfon at Eirug Wyn. Ac mae Eirug Wyn o hyn allan, am stopio printio, a phastio catalogau ac am ddewis rhoi'r hysbysrwydd a'r prisiau yn helaeth yn Y Casglwr. Ni raid tynnu sylw casglwyr at ei ddwy dudalen yn y rhifyn hwn.
Cofiwch chwithau, ddarllenwyr, y cewch chwi hysbysu'ch angenrheidiau llyfryddol yn Y Casglwr - a hynny am ddim. Manteisiwch ar y cyfle da chi.
CALENNIG
Y Nadolig yma eto fe roddwn gyfle i'n darllenwyr anfon anrheg i ffrind a helpu i chwyddo aelodaeth Cymdeithas Bob Owen. Dyma i chi syniad am galennig – talu dwybunt tâl aelodaeth i rywun neu rywrai am 1981. I bob aelod newydd am y flwyddyn sy'n dod fe anfonir y rhifyn hwn o'r Casglwr iddo trwy'r post yn rhad ac am ddim. Fe gaiff eich help a'ch cyfraniad groeso mawr gan yr Ysgrifennydd, Dafydd Wyn Wiliam, Llwyn Llinos, Bodedern, Ynys Môn. Medrwch gael ganddo hefyd ol-rifynnau o'r Casglwr – ond nid pob un – i gwblhau eich cyfrolau. Y breuddwyd yw cael mil o aelodau i'r Gymdeithas. Tipyn o ffordd i fynd, ond yr ydym ar ein taith – yn nesu gyda phob rhifyn.