YR HEN FARWNADAU ~ Arolwg Gomer M.Roberts
Yr arch a'r papur tenau y gwelir trwyddo ym marwnad Dafydd Jones i Enoch Ffrancis, 1874. |
YN YSTOD y ddwy ganrif ddiwethaf fe gyhoeddwyd rhai cannoedd o alarnadau, neu farwnadau, yng Nghymru, a'r rheini yn bapurlenni – broadsides – ac yn llyfrynnau bychain o bedair neu wyth o dudalennau. Nid yw gwerth llenyddol y rhain yn uchel iawn y mae'n wir, ond er hynny taflant oleuni mawr ar arferion cymdeithasol a chrefyddol, a cheir ynddynt hefyd fanylion bywgraffyddol diddorol a phrin am bobl adnabyddus ac anadnabyddus.
Y mae'r traddodiad am alarnadu ar ôl y meirw yn un hen iawn, wrth gwrs, eithr nid am draddodiad clasurol y canu caeth mewn awdl neu gywydd y soniaf yn hyn o ysgrif ond am y canu poblogaidd ar y mesurau rhydd a ddaeth i fri mawr yng Nghymru cyn canol y ddeunawfed ganrif.
Gallwn feddwl mai yn nhridegau'r ganrif hon y dechreuwyd cyhoeddi'r mân farwnadau hyn. O'r hyn lleiaf, wrth graffu ar dudalennau Llyfryddiaeth y Cymry gwelaf mai yn 1736 y ceir yr enghraifft gynharaf gan Wilym Lleyn.
Cyfeirir at farwnad i Siôn Rhydderch o waith Jenkin Thomas, a argraffwyd yng Nghaerfyrddin yn 1736. Nid oedd Gwilym wedi gweld copi ohoni, eithr cyfeiria at lythyr Alun at ficer Ceri yn 1825, lle dywed y bardd fod ganddo gopi o'r farwnad a ddiogelwyd ymhlith nifer o almanaciau'r cyfnod (gw. Ceinion Alun, 1851, t. 72).
Yr enghraifft nesaf gan Wilym Lleyn, dan y flwyddyn 1741, yw Tair O Farnodau, neu Alarnadau Godidog, mewn Coffadwriaeth i'r Parchedig a tra duwiol ŵr Bonheddig Mr. William Steward (sic), yr hwn a ddiweddodd ei yrfa o fewn Plwyf Ciwjob (sic, Cusop) yn agos i Dre'r Gelli, o fewn Shir Frecheiniog y 22 o Fis Hydref 1740. Ni welwyd y farwnad hon ychwaith, i William Seward y merthyr Methodistaidd, gan Wilym Lleyn na chan ei olygydd, D. Silvan Evans. Mi roddwn i lawer, yn bersonol, am gael cip arni. A oes copi ohoni ar gael yn rhywle bellach ys gwn i?
William Williams, Pantycelyn oedd pen marwnadwr y ddeunawfed ganrif, ac yn ei ddydd fe gyhoeddodd 27 o lyfrynnau i goffáu 31 o bersonau rhwng 1761 a 1791. Coffawyd 14 o bersonau gan Ddafydd Wiliam yntau, rhwng y blynyddoedd 1763 a 1793.
***
YN YSTOD y blynyddoedd fe gesglais dros gant o farwnadau a gyhoeddwyd yn ystod y cyfnod 1757-1858, a gwelais ddegau lawer o rai eraill mewn cyfrolau 'amryw', ac mewn llyfrgelloedd. Dyma nifer y rhai a argraffwyd yn y gwahanol weisg, o blith y rhai a welais: Caerfyrddin, 64; Aberhonddu, 21; Trefeca, 19; Abertawe, 11; Aberystwyth, 9; Llanymddyfri, Caerdydd, Caernarfon, 5 yr un; Merthyr Tudful, Llanidloes, 4 yr un; Trefriw, Y Bala, Aberteifi, 3 yr un; Yr Wyddgrug, Llanrwst, Dinbych, Llanelli, Wrecsam, 2 yr un; a'r Bont-faen, Machynlleth, Croesoswallt, Talgarth, Pen-y-bont ar Ogwr, Castell-nedd, Llannerch-y-medd, Llandeilo, Caergybi, Porthmadog, a Bryn-mawr, un yr un.
Y mae ambell farwnad yn nodedig ar gyfrif yr hyn a geir ar y ddalen-deitl, ar wahân i'r argraffwaith. Ar ddalen-deitl marwnad Dafydd Jones o Gaeo i Enoch Ffransis (Aberhonddu, 1774) ceir darlun o glawr arch ddu, sy'n cynnwys llythrennau cyntaf ei enw – 'E.F.' – ac arwyddluniau ar ffurf calon a chroesau, &c. Y mae dalen-deitl Tair Marwnad, &c (Trefeca, 1785) yn unigryw o ran ei haddurniadau cywrain. Ni welais erioed ei chyffelyb ymhlith y nifer lluosog o farwnadau a fu'n fy llaw.
Diddorol yw sylwi ar 'wrthrychau' y marwnadau, sef offeiriaid, gweinidogion a phregethwyr, 117; blaenoriaid, diaconiaid ac aelodau eglwysig, 22; un bardd, un meddyg, ac un myfyriwr. Canwyd 28 o farwnadau i ferched.
***
FEL ARFER yr enw a ddefnyddir wrth goffáu yw marwnad, ond gwelais hefyd a ganlyn: galarnad, galareb, galar-gân, galargerdd, cân o alarnad, cân alarus, galarnadau calon, cân o goffadwriaeth, penillion er coffadwriaeth, cân goffadwriaethol, cerdd gofawl, coffadwriaeth o neu am farwolaeth, duwiol goffadwriaeth, cofgolofn galar, colofn o goffadwriaeth, derwen wylofain, ehediadau y meddwl ar farwolaeth, myfyrdod ar farwolaeth, bywyd a dedwydd farwolaeth, myfyrdod ar farwolaeth, cwyn yr unig ac och'neidiau hiraeth, gwaeddolef (y ddau olaf o'r eiddo Thomas William, Bethesda'r Fro), &c., &c.
Yr alareb ryfeddaf, efallai, yw Dagrau Hiraeth, neu Alareb Goffadwriaethol, William Jones, Pontsaeson i 230 o weinidogion yr efengyl, a gyhoeddwyd yn 1885 yn Aberystwyth. Catalog fel a ganlyn sydd ganddo ar ddeuddeg o dudalennau:
- Ble mae'r enwog John Elias,
Ble mae Moses Jones o'r Dinas,
Roberts, Amlwch, ble mae hwnnw!,
Yn y gladdfa gyda'r meirw.
Ar ddiwedd y farwnad i Sara Efans, merch y Parch Daniel Efans o Fynydd-bach, Abertawe, o waith Ioan Efan o Dreforys (Abertawy, 1822) fe ychwanegir y tri phennill a ganwyd "wrth gychwyn o'r Corff oddiwrth y Tŷ tua'r Bedd", ynghyd â'r dôn `Breindref (Borough)' y canwyd y geiriau arni.
Sylwaf, ynglŷn â rhai marwnadau Methodistaidd, fod y Cyfarfodydd Misol yn caniatáu eu cyhoeddi a'u gwerthu. Hysbysir ar ddalen flaenaf marwnadau Evan Rees i Ebenezer Morris, Blaen-wern a David Evans, Morfa Mawr (Aberystwyth, 1825 ac 1862) eu bod wedi eu cyhoeddi trwy gydsyniad Cyfarfod Misol Sir Aberteifi.
Felly hefyd am alarnad Benjamin Evans i Ebenezer Richard (Aberystwyth, 1837), "a gyhoeddwyd ac a argraffwyd trwy Gydsyniad Cyfarfod Misawl y Trefnyddion Calvinaidd". Cyhoeddwyd galarnad Howell Howells, Tre-hyl (Caerdydd, 1842) gan Thomas Morgan "dan nodded Cyfarfod Misol Sir Forganwg".
***
GOFALAI'R beirdd am eu hawlfraint, ac fe hysbysir ar ddalen-deitl marwnad Evan Richards, Rock i Forgan Howells, Tredegar, gynt o Gasnewydd (Bryn-mawr, 1852): "Nid oes i neb Argraffu y Farwnad hon heb ganiatâd yr Awdwr". Ar ddalen-deitl galarnad 'Methodist Galarus' i John Jones, Tal-sarn (Caernarfon, 1857), fe hysbysir: "Ni oddefir i neb ddatganu yr Alarnad hon ar hyd yr heolydd, na'i hail Argraffu, heb ganiatâd".
Mae'n ddiau y cenid rhai o'r marwnadau ar yr heolydd ac yn y ffeiriau, er mwyn eu gwerthu, oblegid y mae gennyf gopi o farwnad Richard Williams – Dic Dywyll, y baledwr – i John Elias (Caernarfon, 1841), ac fe hysbysir arni: "Cenir ar Fryniau'r Iwerddon", un o geinciau poblogaidd y baledwyr.
Cyn diwedd y ganrif ddiwethaf bu newid yn hanes cyhoeddi marwnadau, oblegid aeth y farwnad i goffáu hwn-a-hwn yn destun cystadleuaeth mewn eisteddfodau. Gwawriodd dydd y bryddest farwnadol.
Enillodd D. Brython Hughes wobr am bryddest ar Ddaniel Rowland yn Eisteddfod Aberaeron, ac fe'i cyhoeddwyd (Castellnewydd Emlyn 1865). Cafwyd pryddestau marwnadol i Ddaniel Davies, Tan-y-groes a John Jones, Blaenannerch, gan John Parry, yn Eisteddfod Aber-porth, a chyhoeddwyd y rheini hefyd (Aberteifi, 1878). Gweithiau arobryn eisteddfodol oedd Llinellau Coffadwriaethol Edward Williams, gan Benjamin Davies (Machynlleth, 1882), Marwnad Goffadwraethol John Williams, gan John Davies (Conwy, 1883); a Marwnad T. Penry Evans gan 'Rhidian', yn Eisteddfod Pontarddulais (Aberdâr, 1889). Gellid enwi llawer rhagor o farwnadau'r dosbarth hwn oblegid y maent yn lleng.
***
AETH Y canu a'r cystadlu yma'n rhemp, ac yn fasnach hefyd ymhlith y beirdd. 'Roedd gan rai o'r beirdd, fe ddywedir, `farwnadau stoc', a thrwy newid enwau ac amrywio rhediad llinellau a phenillion gellid eu cymhwyso yn ôl y galw a'r amgylchiadau, i alaru ar ôl llaweroedd.
Yn ystod y ganrif hon byddai teulu galarus yn comisiynu bardd i gyfansoddi marwnad, ac argreffid copïau ohoni i'w rhannu ymhlith y tylwyth agosaf. Argreffid y marwnadau hyn ar bapurlen drwchus, gan gynnwys darlun o'r ymadawedig yn ogystal â'r farwnad. Yn ystod fy nghrwydriadau ar hyd a lled Cymru er y flwyddyn 1924 gwelais lawer o'r rhain wedi eu fframio'n barchus ac yn hongian ar furiau ystafelloedd gorau'r cartrefi.
I gloi hyn o lith, dylwn sôn am ddau gasgliad o farwnadau a gyhoeddwyd yn y ganrif ddiwethaf. Y cyntaf yw Saith o Farwnadau Williams Pantycelyn (Abertawe, 1854), a gyhoeddwyd gan y gŵr prysur hwnnw Dafydd Morris o'r Hendre, Llandybie. Yr ail yw cyfrol Thomas Levi. Casgliad o Hen Farwnadau Cymreig (Wrecsam, 1872). Yn yr olaf ceir dros ddeugain o farwnadau "yn dal cysylltiad â Chyfundeb y Methodistiaid', ac y mae'n gyfrol ddefnyddiol iawn, gan fod marwnadau go brin yn y casgliad.