TRYSORAU SPEED ~ Dadansoddiad Robert Davies

NI CHEISIAF roi cyfarwyddyd i'r darllenwyr faint a ddylent ei dalu am fap Speed!, dim ond eu helpu i wahaniaethu rhwng y gwahanol argraffiadau sydd ar gael.

Yn rhinwedd fy swydd ar staff Ystafell y Mapiau yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru daw ymholiadau gan y cyhoedd i ddyddio mapiau. Mae diddordeb cynyddol y dyddiau hyn mewn hen fapiau. Mae rhai perchenogion yn eu trin fel buddsoddiad, ond eraill yn eu chwennych am eu bod yn eitemau digon cain, ac yn haeddu eu lle ar y wal mewn llawer cartref. I'r sawl sydd yn dod i fyd mapiau am y tro cyntaf, mae'n debyg mai mapiau Speed yw y man cychwyn.

Ganed John Speed yn Farndon, Sir Gaer, ym 1552. Am gyfnod dilynodd ei dad fel teiliwr. Erbyn 1580 'roedd yn aelod o'r Merchant Taylor's Company. Cafodd ei noddi gan Sir Fulke Greville i gyhoeddi hanes Prydain Fawr. Ffrwyth ei holl lafur oedd yr atlas Prydeinig mwyaf poblogaidd yn yr ail ganrif-ar-bymtheg.

Nid mapiau Speed oedd y rhai cyntaf o siroedd Cymru, ac yn wir nid oeddynt yn ffrwyth arolwg o'r newydd. Defnyddiodd ffynonellau oedd eisoes ar gael, yn enwedig gwaith Saxton. Hynodrwydd pennaf ei fapiau yw'r cynlluniau tref a'r golygfeydd o eglwysi a ddefnyddiodd i'w haddurno. Dyma'r mapiau cyntaf i ddangos ffiniau y cantrefi, ond methodd gynnwys y manylion hyn ar ei fapiau o siroedd Dinbych, Fflint a Chaernarfon oherwydd ni chafodd weld dogfennau'r Siryf.

Maint y mapiau ar gyfartaledd yw 38 x 52cm a cheir gwasgnod Sudbury a Humbell y cyhoeddwyr arnynt, yn ogystal ag enw Speed, a Jodocus Hondius yr engrafiwr. Mae'r dyddiad 1610 ar bob un.

CYFLWR I
Tynnwyd prawf brintiau o'r platiau fel yr oeddynt yn cael eu paratoi rhwng 1605-10. Mae amryw o'r copïau hyn wedi goroesi. Mae cefnau y rhain yn lân, ac yn aml maent heb enw'r engrafiwr, gwasgnod y cyhoeddwyr, cantrefi a rhai enwau lleoedd, a dyddiad.

CYFLWR II
Ar gefn map a ymddangosodd yn y Theatre argraffwyd testun yn seiliedig ar Britannia Camden, a rhestr o'r cantrefi a'r plwyfi. Mae'r tudalennau hyn wedi eu rhifo a cheir nod yr argraffydd (printer's signature) arnynt. Ail osodwyd y testun gan Thomas Snodham ar gyfer yr argraffiad a gyhoeddwyd tua 1616. Argraffodd Snodham destun Lladin yn 1616 hefyd. Mae copiau o'r atlas Lladin wedi goroesi ac arnynt labeli cyhoeddwyr yn yr Iseldiroedd, a dyddiad diweddarach arnynt wedi eu glynu ar yr wynebddalen, ond maent i gyd yn perthyn i argraffiad Snodham 1616. Mae'r argraffiad Lladin yn rhwydd i'w adnabod oddi wrth iaith y testun, a gellir gwahaniaethu rhwng argraffiadau Saesneg 1612 a 1616 oddi wrth nod yr argraffydd ar y cefn:

  1612 1616
Penfro CC1 Hhh
Caerfyrddin Cc2 Iii
Morgannwg Bb2 Kkk
Mynwy Dd1 Lll
Brycheiniog Ee1 Mmm
Maesyfed Ee2 Nnn
Aberteifi Ff1 Ooo
Maldwyn Ff1 Ppp
Meirion Gg1 Qqq
Dinbych Gg2 Rr
Fflint Ff2 Sss
Caernarfon Hh1 Ttt
Môn Ii1 Vvv


CYFLWR III
Ychwanegwyd enwau'r hen lwythau a'r gorsafoedd Rhufeinig. Enwyd rhai afonydd, aberoedd ac ambell benrhyn yn ychwanegol. Gwelir tua 30 o enwau lleoedd newydd ar fap Sir Benfro. Mae nod yr argraffydd yn aros fel ag yn argraffiad 1616, ond ailosodir y testun. Mae enwau Sudbury a Humble yn aros ar y mapiau fel cyhoeddwyr. Ailgyhoeddwyd yr atlas yn 1623, 1627, 1632, 1646, (a 1650, 1651, 1652, 1653, 1654).

Ni ailosodwyd y testun ar gyfer y copiau o'r atlas sydd wedi cael eu dyddio 1650-1654. Maent fel copi 1646 ond bod rhai mapiau (nid rhai o siroedd Cymru) wedi eu hailddyddio. Gellir ystyried y rhain fel ymgais ar ran y cyhoeddwyr i glirio eu stoc argraffiad 1646.

Gellir adnabod argraffiad 1646 gan mai dim ond un llinell sydd rhwng y ddwy golofn o'r testun ar y cefn. Gwahaniaethir rhwng argraffiadau 1623, 1627 a 1632 trwy gymharu'r teip a ddefnyddiwyd i osod y testun. Gweler yr atgynyrchiadau o'r tabl isod:

Argraffiad 1627 oedd yr olaf i'w gyhoeddi tra 'roedd Speed yn fyw. Bu farw yn 1629 ac fe'i claddwyd ym mynwent St. Giles Cripplegate, lle mae cofeb iddo.

 

CYFLWR IV
Prynwyd yr hawl i blatiau Speed gan William Garret yn 1658-9. Gwerthodd ef hwy i Roger Rea, yr hynaf a'r ifancaf. Ailgyhoeddwyd y mapiau ganddynt tua 1665. Ceir gwasgnod Rea ar bob un o'r mapiau. Ychwanegir y dyddiad 1662 i'r wasgnod ar y map o Sir Fynwy; ac ar y map o Sir Gaerfyrddin newidiwyd y dyddiad yn y teitl i 1662. Ni fu unrhyw newid arall i'r map.

CYFLWR V
Yn 1676 cyhoeddwyd y Theatre am y tro olaf gan Thomas Bassett a Richard Chiswell, ac mae eu gwasgnod ar bob un o'r mapiau. Argraffwyd nifer helaeth o'r mapiau gan Bassett a Chiswell. Dyma'r argraffiad mwyaf cyffredin.

Yn ogystal, 'roedd y mapiau ar werth yn unigol, heb y testun ar y cefn. Defnyddiwyd rhai copiau i wneud setiau o fapiau a werthwyd fel atlasau gan Christopher Browne a Henry Overton, tan tua 1720.

CYFLWR VI
Yn 1743 ceir gwasgnod Henry Overton ar y mapiau. Hwn yw'r argraffiad cyntaf i ddangos y ffyrdd.

CYFLWR VII
Tua 1770 argraffwyd y mapiau am y tro olaf gan C. Dicey and Co. Ceir eu gwasgnod ar y mapiau ac eithro Dinbych a Mynwy.