PWFF O HIRAETH ~ Rhodri Prys Jones yn codi stêm

 

G.W R. 4-6-0 Rhif 7812 'Erlestoke Manor' yng Ngorsaf Bewdley ar y Severn Valley Railway ar y 7fed o Ebrill 1980. Newydd gwblhau'r gwaith o ailadeiladu'r injan yr oedd y Severn Valley Railway Preservation Society bryd hynny. Treuliodd y peiriant flynyddoedd lawer yn y Barri. Ar ben blaen y peiriant gwelir y cod '89A' sef sied Amwythig Ile cedwid y peiriant ar gyfer tynnu trenau i Aberystwyth a Phwllheli. 

CAFWYD hwyl a miri mawr dros y Sulgwyn eleni mewn lle go annhebygol o'r enw Rainhill, ger Lerpwl. Dathlu yr oedden nhw am fod cant a hanner o flynyddoedd wedi mynd heibio er y diwrnod pell hwnnw pan gynhaliwyd y treialon peiriannau cyntaf yn Rainhill yn 1830. Y treialon hynny a wnaeth y 'Rocket', injian stêm fach semi a chyntefig iawn, yn un o beiriannau stêm enwoca'r byd.

Er i gwmni preifat adeiladu copi o 'Rocket' ar gyfer sioe Rainhill yn 1980, mae'r hen beiriant gwreiddiol i'w weld o hyd, yn y Science Museum yn South Kensington, yn cadw cwmni i un arall o beiriannau ager enwoca'r byd, 4-6-0 y Great Western Railway, rhif 4073, 'Caerphilly Castle', a adeiladwyd yn 1923.

Dyddiau braf oedd dyddiau'r 'Great Western Railway'. Fedra i yn bersonol mo'u cofio nhw o gwbl gan iddynt derfynu ar ddiwrnod olaf 1947 tair wythnos gyfan cyn i mi gael fy ngeni. Serch hynny, 'roedd digon o'r hen reilffordd a'i pheiriannau ager hardd yn weddill i beri i mi wirioni ar yr hyn a welwn – ac a glywn – yn ystod dyddiau fy mhlentyndod.

Cofiaf fel petai ddoe y wefr a gefais o sefyll ar draeth Glanyfferi, a minnau'n ddeg oed, yn syllu'n llygatrwth ar 'Castle' rhif 5080 'Defiant' yn rhuo trwy'r orsaf i gyfeiriad Llanelli, Abertawe a Phaddington. Peiriannau nobl oedd peiriannau'r hen gwmni, yn eu lifrai gwyrdd, a'r llinellau oren ar hyd ymyl pob panel yn pwysleisio siâp gosgeiddig y corff. Yn wir, ymddangosai'r peiriant fel petai'n waith artist yn hytrach nag yn waith peiriannydd. Sgleiniai'r pres oddeutu'r chwibanogl, y casglydd stêm, a'r platiau rhif ac enw, ac o gylch y simnai hirgron ceid rhimyn hardd o gopr.

Coffa melys hefyd am y diwrnod cyntaf hwnnw wedi i ni symud i Gresford ger Wrecsam, chanfod fod lein brysur Pen bedw - Paddington yn dringo'n serth i gyfeiriad Wrecsam nepell o'n tŷ newydd. Rhuthrais i gyfeiriad yr orsaf, ac yno'n rhuo i fyny'r un-mewn-wyth-deg-a-phedwar yr oedd un arall o beir­iannau gwyrdd, copr a phres y G.W.R. - Rhif 1013 'County of Dorset'.

Rhuthrodd ei gan tunnell o ddur a gwres drwy'r orsaf ac wrth iddo fynd gallwn weld y rhodenni cyplysu'n chwyrlio'r, echelydd a'r olwynion mawr yn gynt nag y medrai llygad eu dilyn. Roedd y cyfan yn ddramatig, yn gynhyrfus ac yn wledd i lygad hogyn bach.

***

BRODYR llai y 'Castles' a'r 'Counties' ar y G.W.R. oedd y 'Manors', y lleiaf o hen beiriannau yr hen gwmni i dderbyn enwau. Fe'u cynlluniwyd gan C.B. Collett, prif beiriannydd y G.W.R., ac adeiladwyd tri deg ohonynt i gyd rhwng 1938 a 1950.

Y rheswm paham y bydden nhw'n apelio cymaint ataf i oedd mai'r rhain oedd y peiriannau mwyaf a gâi eu defnyddio ar hyd hen system y 'Cambrian' trwy ganolbarth Cymru, ac fe'u gwelwn yn aml, yn Aberystwyth, Y Bermo a Phwllheli, yn Wrecsam, Amwythig a Chaerfyrddin. Daethant â grym go iawn peiriant rheilffordd mawr i linellau troellog, ysgafn y canolbarth am y tro cyntaf.

Atgof melys yw'r atgof hwnnw am 7803 'Barcote Manor' yn sefyll yng ngorsaf Aberystwyth yng nghanol haf 1962, yn disgwyl am yr hawl i ymadael, a'r peiriant yn sgleinio'n berffaith lân hyd at y 'byffars' a oedd wedi'u peintio'n wyn yn y sied y bore hwnnw. Ar ben blaen y peiriant crogai arwydd balch, 'The Cambrian Coast Express.'

Bu'r Manors yn teithio'n ôl ac ymlaen ar hyd rheilffyrdd Canolbarth Cymru tan 1964. Bryd hynny, a British Rail yn cefnu ar bob peiriant ager ac yn mynnu defnyddio peiriannau olew diesel yn eu lle, 'roedd yn naturiol i ni gredu y byddai'r 'Manors' druain yn cael eu llusgo i'r iard sgrap. A dyna ddigwyddodd.

Llusgwyd rhai i Swindon a'u torri yno, ac aeth eraill i ierdydd preifat i'w chwalu. Llusgwyd chwech, a fu'n drigolion siediau Croesnewydd (Wrecsam), Amwythig a Machynlleth i iard sgrap gŵr o'r enw Dai Woodham yn y Barri. Penderfynodd yntau bryd hynny fod ganddo ddigonedd o waith yn chwalu tryciau, a gadawodd y peiriannau ager i sefyll yng nghanol dociau'r Barri. Yno, yng nghanol tua dau gant a hanner o beiriannau tebyg, y rhydodd y chwe 'Manor' am flynyddoedd lawer.

***

YN Y cyfamser, tyfodd y diddordeb mewn ail-adeiladu hen beiriannau stêm ac ail-agor hen reilffyrdd wedi'u cau, yn enwedig yn Lloegr. Ail-agorwyd y Severn Valley Railway, y North Yorkshire Moors Railway a'r Keighley and Worth Valley Railway a llu o rai eraill, llai. Roedd yn rhaid i'r rhain wrth stoc o beiriannau stêm, ac erbyn iddyn nhw gael eu traed o danynt yn ariannol tua dechrau'r saithdegau, nid oedd ond un man ar ôl lle gellid pwrcasu peiriannau addas, sef iard sgrap byd-enwog Dai Woodham.

Erbyn heddiw, mae cant a deuddeg o'r peiriannau a brynodd Mr. Woodham i'w chwalu wedi eu llusgo ymaith i'w hail-adeiladu. Daeth nifer helaeth o'r peiriannau a welsoch ar y teledu yn arddangos eu crandrwydd yn nathliadau 'Rocket 150' yn Rainhill yno wedi treulio blynyddoedd yn rhydu yng nglaw a gwynt hallt dociau'r Barri.

Beth tybed a ddigwyddodd i'n cyfeillion y 'Manors'? Do, fe lwyddodd y rhain i ddianc hefyd. Pleser aruthrol i mi oedd cerdded i orsaf Bewdley ar y Severn Valley Railway yn ddiweddar a chanfod 'Hinton Manor' ac 'Erlestoke Manor' (7819 a 7812) yn sgleinio fel petaent newydd eu gwneuthur yn Swindon. Mae 7827, 'Lydham Manor' a fu gynt yn cludo teithwyr trwy Gorwen, Cyffordd Y Bala, Llanuwchllyn a Dolgellau yn awr yn y Torbay Steam Railway, ac mewn cyflwr ardderchog wedi trwsio helaeth. Ar hanner eu trwsio mae 7820, 'Dinmore Manor' a 7822, 'Foxcote Manor', y naill ar 'Rheilffordd Gwili' Bronwydd Arms, Caerfyrddin a'r llall yn eiddo i'r Foxcote Manor Preservation Society yng Nghroesoswallt.

A'r ddau arall? – canys y mae saith o'r tri deg eto'n fyw – yn Didcot y cewch weld 7808, 'Cookham Manor' na fu erioed yn y Barri ond a brynwyd yn syth oddi wrth British Rail gan y Great Western Society.

A'r olaf? Os gyrrwch chi gar o Worcester i Bewdley, fe welwch ar ddarn o reilffordd ymhell uwchlaw'r ffordd cyn Gyrraedd tref Bewdley, ysgerbwd injian sy'n rhwd byw. Bu 7802 'Bradley Manor', pencampwr ar y dasg anodd o ddringo'r rhiw serth o Fachynlleth i Dalerddig ers talwm, yn gorwedd yn y Barri am bymtheng mlynedd cyn cael ei bwrcasu gan Y Severn Valley Railway yn ddarnau sbâr ar gyfer 7819 a 7812.

Serch hynny bu cryn brotestio yn erbyn y canibaleiddio hwn ymhlith aelodau'r gymdeithas sy'n cynnal y rheilffordd honno, a chyn hir, mae'n debyg y gwelir 'Manor' arall yn fyw ac yn iach yng Nghanolbarth Lloegr. I mi, fodd bynnag, peiriannau Cymru ydy'r rhain i gyd. Er yr enwau Seisnig a roddwyd arnynt, yma yng Nghymru y bu'r rhain yn gwasanaethu am gyfran helaeth o'u hoes. Yng Nghymru, fe'u diogelwyd rhag eu toddi mewn ffwrneisi, ac yng Nghymru hefyd fe erys y cof amdanynt yn fyw yng nghalonnau llawer ohonom sy'n hiraethu am y dyddiau hynny pan welid plufyn gwyn o fwg yn codi uwchben dyffrynnoedd ac arfordir hardd ein gwlad. Bellach diflannodd y peiriannau stên i gyd bron ar wahân i'r ychydig sydd weddill ar y rheilffyrdd a brynwyd gan gymdeithasau o'r sawl sy'n eu caru.