GYRFA A CHEFNDIROEDD LEILA MEGÁNE AC OSBORNE ROBERTS ~ Arolwg G.Milwyn Griffiths
YN DDIWEDDAR daeth casgliad eithriadol o ddiddorol i'r Llyfrgell Genedlaethol, casgliad o apêl arbennig i'r rhai sy'n ymddiddori mewn cerddorion. Papurau, llythyrau, ffotograffau a thoriadau papurau newyddion yn ymwneud â bywyd a gyrfa'r gantores Gymraeg Leila Megáne, (neu Maggie Jones o Bwllheli), 1891-1960, yw cynnwys y casgliad.
Efallai mai ei hunangofiant, 'A Springtime of Song' (mewn teipysgrif) yw'r eitem bwysicaf a mwyaf cynhwysfawr oherwydd rhydd ei hanes o'i phlentyndod hyd ddiwedd ei gyrfa. Nid hanes sych, ffeithiol ydyw o gwbl. Yn wir mae'n llawer mwy na hanes Leila Megáne ei hun. Ar y cychwyn cawn ddarlun o fywyd yn Llŷn a all fod yn bwysig iawn i unrhyw hanesydd cymdeithasol sy'n astudio'r cyfnod hwnnw. Yna cawn ei hymateb i fywyd dieithr y byd cerddorol yn Llundain ac yn ddiweddarach yn Ffrainc.
Caiff y darllenydd wefr wrth ddarllen am Gymraes fach gyffredin, merch Thomas Jones, Arolygydd yr Heddlu, yn dod yn un o gantorion enwocaf ei dydd, yn ffrind i bobl enwog y byd cerddorol fel Jean de Reszke a'i wraig Marie, Dame Nellie Melba, Adelina Patti, Luise Tetrazzini, Syr George Power, Syr Henry Wood, Syr Harry Lauder, a Ben Davies, a phobl fel David Lloyd George a'i wraig gyntaf, Margaret, ac yn ddiweddarach, Ffransis, Iarlles Dwyfor.
***
EFALLAI mai'r casgliad pwysicaf o lythyrau (44) yw'r rhai oddi wrth ei hathro cerddorol yn Ffrainc, yr enwog Jean de Reszke a fu'n denor godidog yn ei ddydd. Derbyniodd ef a'i wraig Leila Megáne i'w cartref a bu fel un o'r teulu. Drwy Jean de Reszke y cafodd gyfle i fentro i fyd yr opera a gwneud enw iddi ei hun mewn dwy opera arbennig, sef 'Werther' gan Massenet, ac 'Orpheé', gan Gluck.
Ceir 15 o lythyrau oddi wrth yr Iarlles Ffransis o Ddwyfor sy'n profi iddynt fod yn gyfeillion agos iawn. Ymhlith eraill a ysgrifennodd ati (10 llythyr) oedd yr actor a'r dramodydd Emlyn Williams.
Mae pob albwm sy'n cynnwys ffotograffau yn drysor ar ei ben ei hun. Nid oes rhaid ceisio dyfalu darlun o bwy yw un ohonynt, oherwydd ysgrifennodd Leila Megáne bytiau bach diddorol, yn ei llaw ei hun, gogyfer â phob un.
Ceir un albwm yn llawn o ddarluniau teuluol yn cynnwys nifer o'i gŵr Osborne Roberts a'u merch Isaura. Ceir albwm arall yn llawn o luniau enwogion y dydd yn gerddorion a gwleidyddion a chymwynaswyr.
Mae toriadau papurau mewn un neu ddau albwm sy'n adlewyrchu ei gyrfa gerddorol o'r dechrau hyd y diwedd, a cheir cyfres o 20 o erthyglau a ysgrifennodd Betty Roberts amdani yn y Caernarvon and Denbigh Herald o Hydref 7, 1956 – Mawrth 16, 1957.
Leila Megáne yn nyddiau ei bri |
***
YN OGYSTAL â'r casgliad yn ymwneud yn uniongyrchol a Leila Megáne, gellid dweud bod yma gasgliad arall, llawn mor bwysig yn gynwysedig yma, sef toriadau o bapurau newyddion yn ymwneud â bywyd ei gŵr, Osborne Roberts, ynghyd a llawysgrifau o'i gyfansoddiadau cerddorol anghyhoeddedig yn ogystal â'r rhai a gyhoeddwyd. Cadwodd Leila Megáne bob llythyr o gydymdeimlad a dderbyniodd pan fu ef farw.
Mae edrych drwy'r lluniau, a'r llythyrau, y rhaglenni cyngherddau a'r toriadau hyn oll yn rhoi cip ar fyd sydd yn dangos yn hudolus wrth gofio mai merch fach gyffredin o Bwllheli oedd Leila Megáne wedi'r cwbl. Ond gwelwn, er iddi feistroli Ffrangeg ac ymgyfathrachu â'r mawrion, nad anghofiodd mai Cymraes oedd hi. Mynnodd gynnwys cân Gymraeg ym mhob cyngerdd ar hyd a lled y wlad yma ac yn America, a chyfansoddodd ei gŵr nifer o ganeuon iddi hi'n arbennig. Daeth 'Y Nefoedd' yn un o ffefrynnau cynulleidfaoedd ymhobman. Pan fu'n canu yn Downing Street ym mhartïon Lloyd George, gofynnid iddi ganu 'Dafydd y Garreg Wen' bob amser.
Dengys ei bod wedi meddwl llawer am safle cerddoriaeth yng Nghymru a chredai'n gryf yn ôl ei datganiadau, y dylid cael Cwmni Opera Cymreig. Nid yw hyn yn syndod wrth gofio mai trwy gymorth nifer o garedigion fel yr Arglwydd ac Arglwyddes Glanusk a nifer o bobl debyg y cafodd hi gyfle i gael gwersi cerddorol.
Cerddorion ynghyd - Osborne Roberts a Leila Megáne |
Mae hwn yn gasgliad eithriadol o bwysig i'r Llyfrgell Genedlaethol. Diolch i Leila Megáne am iddi gadw popeth mor ofalus a threfnus ac i'w merch Mrs Isaura Hughes am wneud yn sicr bod papurau ei mam a'i thad yn ddiogel mewn lle y byddant o fewn cyrraedd i'r rhai sy'n ymddiddori yn y byd cerddorol.