GWAWR ROBYN DDU ERYRI - Huw Walters a'r hen ddewin

Robyn Ddu yn ôl y Punch Cymraeg, Mehefin 11, 1859

OND ODID mai un o gymeriadau rhyfeddaf a mwyaf lliwgar Cymru yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg oedd Robert Parry, (Robyn Ddu Eryri), y bardd a'r darlithydd crwydrol. Fe'i ganwyd yng Nghaernarfon ym 1804 yn fab i'r teiliwr a'r meddyg Robert Parry, a'i wraig Mary. Bu'n aelod gyda'r Methodistiaid Calfinaidd am gyfnod, ymunodd â'r Wesleaid yn ddiweddarach, ond fe'i diarddelwyd gan yr enwad hwnnw ac ymunodd ag Eglwys Loegr gan fwriadu cymryd urddau eglwysig.

Sylweddolodd awdurdodau'r Eglwys, fodd bynnag, nad oedd Robyn yn gymwys i'w urddo'n offeiriad, ac mae'n hawdd gennym gredu hynny o dderbyn tystiolaeth cyfnodolion enwadol Cymraeg y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ôl y dystiolaeth hon, cymeriad anwadal, digon diegwyddor ac anfoesol ei fuchedd oedd y Du. Priododd a merch ifanc o gyffiniau Llangybi ym 1836, ond gadawodd hi yn ddirybudd. Yr oedd y ddiod hefyd yn un o'i hoffterau, ond achubwyd ef o grafangau Syr Siôn Heiddyn, a thorrodd ei enw wrth yr ardystiad ym Methesda ym 1836.

Derbyniwyd ef yn aelod yn Eglwys Annibynnol Ebeneser Bangor, flwyddyn yn ddiweddarach, a bu'n annerch cyfarfodydd dirwestol ledled Cymru am rai blynyddoedd wedyn. Ond cyhoeddwyd hanes ei gwymp ar dudalennau Seren Gomer ym mis Chwefror 1841:

'Roedd hanes fel hwn yn fêl ar ddannedd ei elynion (ac ni bu erioed yn brin o'r rheini) a mawr fu'r gloddesta a'r gorfoleddu ar dudalennau'r wasg gyfnodol. Cyfansoddodd Brutus, golygydd cecrus Yr Haul, ddrama ar yr helynt, ac fel hyn y canodd ‘Casiwr Rhagrith' yn Seren Gomer

            Ofer fu'n llafur hefyd - yn gwynnu
                    Hen genaw puteinllyd;
                Dwy fenyw mewn dau funud
                Wna'i Bob y dua'n y byd.

Bu Robyn yn grwydryn wedyn a chroniclir hanes ei grwydriadau yn ei gyfrol Teithiau a Barddoniaeth Robyn Ddu Eryri, a gyhoeddwyd yng Nghaernarfon ym 1857. Bu'n cadw ysgol mewn gwahanol fannau, yn pregethu a darlithio, a bu hefyd yn Ysgrifennydd Cymanfa Seintiau'r Dyddiau Diwethaf ym Merthyr Tudful. Brithir Udgorn Seion: neu Seren y Saint, un o gylchgronau'r Mormoniaid yng Nghymru a chyfieithiadau o'i eiddo o draethodau gan Brigham Young ac eraill o'r seintiau.

YR OEDD Robyn yn fardd yn ogystal ac enillodd nifer o wobrau gan faeddu Gwilym Hiraethog yn Eisteddfod Rhuthun. Ond ym mis Gorffennaf 1855 ymddangosodd rhifyn cyntaf cylchgrawn Cymraeg newydd yn dwyn y teitl Y Wawr: y Cylchgrawn Llenyddol a Chelfyddydol, a Robyn Ddu yn olygydd arno. Fe'i cyhoeddwyd gan D. Tudor Evans, Caerdydd yn swyddfa'r Principality, y papur wythnosol radicalaidd a olygwyd gan Ieuan Gwynedd.

Ceir crynodeb o amcanion y cyhoeddiad newydd yn y rhifyn cyntaf, ac addewid pendant gan y golygydd i gynnwys ysgrifau ar hanes enwogion, adolygiadau ar lyfrau, barddoniaeth, ac "erthyglau ar y celfyddydau breiniol (arts and sciences), y celfyddydau mudol (mechanics), pwysyddiaeth dwfr (hydrostatics), awyroliaeth (pneumatics), gwrthdoriad dwbl a thueddiad pegynol goleuni (double refraction and polarization of, light), gwefriad (electricity), a mildraethyddiaeth (zoology)."

Er hyn oll "nid ymdrechu am ddull mawreddog i ddenu sylw at ddawn ymadrodd a wneir, eithr amlygu pethau gan eu dwyn agosaf a ellir i ddealltwriaeth cyffredin."

Rhaglen uchelgeisiol oedd hon, a diau iddi brofi'n oruchelgeisiol, ac mae cynnwys Y Wawr yn ein hatgoffa o gyhoeddiad arall cynharach sef Y Brud a'r Sylwedydd, yr ymddangosodd wyth rhifyn ohono dan olygyddiaeth Joseph Davies, gŵr o Lanfair-­ym-Muallt ym 1828.

Llwythwyd, onid yn wir y gorlwythwyd rhifynnau'r Wawr ag erthyglau meithion yn trafod pynciau astrus y byd gwyddonol.

Trwm, a dweud y lleiaf yw cynnwys Y Wawr, ac eto 'roedd iddo gylchrediad cymharol eang. Gwerthwyd rhwng 1,700 a 2,000 o gopïau yn fisol, ac fe'i dosbarthwyd yn y prif drefi megis Aberteifi, Caernarfon, Aberystwyth, Merthyr Tudful a Chaerfyrddin, gan gynnwys ambell bentref digon anghysbell fel Swyddffynnon yng Ngheredigion.

Gallai'r golygydd ymffrostio bod ei gyhoeddiad yn gwerthu dwy fil o gopïau erbyn y degfed rhifyn yn Ebrill 1851, a hynny ar waetha'r ffaith fod amryw o ddarllenwyr wedi cwyno ynglŷn â' r cynnwys, a'i safon - "Cwyna rhai" meddai Robyn, "fod pethau yn Y Wawr uwch eu cyrhaeddiad. Da gennym ein beio am hyn, oblegyd hyspysiad ydyw nad ydym yn gofyn arian am ddywedyd wrth bobl yr hyn a wyddant eisoes."

Ond daliodd y golygydd at ei bolisi gwreiddiol, a chafwyd erthyglau ar alsawdd (algebra), effaith yr hin ar boblogaeth y byd, pwysiant priodol (specific gravity), a gwyddorion arddangosyddol (Mathematics), hyd y rhifyn olaf - y pymthegfed, a gyhoeddwyd ym Medi 1851. Mae'n dra thebyg gyda llaw, mai cyfieithiadau o'r Saesneg yw'r mwyafrif o'r erthyglau hyn, ac mai Robyn Ddu ei hun a'u cyfieithodd.

GO BRIN fod neb yn troi tudalennau'r Wawr erbyn heddiw; digon sych a diflas yw ei gynnwys ar y cyfan, er ei fod yn adlewyrchu cyfnod arbennig yn hanes Cymru a'i llenyddiaeth. Yn y rhifyn cyntaf hysbyswyd y darllenwyr fod cyhoeddwr Y Wawr am gynnig gwobr o £1 am y traethawd gorau ar 'Agwedd Bresennol Llenyddiaeth yng Nghymru', a chopïau o'r cylchgrawn yn rhad ac am ddim am flwyddyn gron i'r ail-fuddugol.

Ychwanegwyd at y gwobrau erbyn y Mehefin canlynol, - £5 a bathodyn arian i awdur y traethawd arobryn y tro hwn. Dewiswyd Tegid i gloriannu'r cyfansoddiadau, a chyhoeddwyd ei feirniadaeth yn y rhifyn dilynol. Dyfarnwyd y wobr i Thomas Stephens, y fferyllydd llengar o Ferthyr Tudful ac awdur y gwaith arloesol hwnnw - The Literature of the Kymry (1849).

Y mae'n draethawd sylweddol a chynhwysfawr ac fe'i cyhoeddwyd yn dair rhan yn Y Wawr ym misoedd Gorffennaf, Awst a Medi 1851. Aeth Stephens i gryn drafferth wrth gasglu defnyddiau at y gwaith; bu'n gohebu a pherchnogion a golygyddion y mwyafrif o'r cyfnodolion Cymraeg yn holi am fanylion ynglŷn â chylchrediad eu cyhoeddiadau, a chynhwysodd y wybodaeth hon yng nghorff ei draethawd.

Cedwir yr ohebiaeth hon bellach, gyda llaw, yn y Llyfrgell Genedlaethol (Lisgr. 964-965E).

PRIN, A dweud y lleiaf yw'r dystiolaeth sydd ar gael am gylchrediad cylchgronau a newyddiaduron Cymraeg y cyfnod hwn, ac nid anfuddiol fuasai cynnwys rhestr Thomas Stephens yn hyn o lith:

Y Geiniogwerth  
Y Cronicl (S.R.)
Y Gymraes
Y Golygydd
Athraw i Blentyn
Y Wawr Ddydd
Y Tywysydd
Y Diwygiwr
Yr Amserau
Y Drysorfa
Y Bedyddiwr
Y Wawr
Y Traethodydd
Seren Gomer
Y Dysgedydd
Y Drysorfa Gynulleidfaol
Ifor Hael
Yr Athraw Dirwestol
Yr Haul
Yr Adolygydd
Yr Eurgrawn Wesleyaidd
Y Tyst Apostolaidd
Yr Ymofynydd

12,900
7,320
3,350
3,300
3,000
2,580
2,500
2,400
2,000
2,300
1,809
1,700
1,600
1,500
1,512
1,500
1,050
1,025
1,000
900
900
900
800

Ond daeth Y Wawr i ben ym 1851 ar ôl pymtheg o rifynnau. Daliai'r golygydd i grwydro, darlithio a phregethu. Cynorthwyodd y Parchedig Arthur Jones, Bangor, gyda'i gyfieithiad o The life of Christ (Fletcher), ac yn ôl Gwyneddon, un a'i hadnabu'n dda, eiddo Robyn Ddu yw'r rhan helaethaf o'r cyfieithiad.

Terfynodd ei grwydriadau yn Llwydlo o bobman, lle bu farw yn wyth a phedwar ugain mlwydd oed yn Nhachwedd 1892 - a chladdwyd ef ym mynwent eglwys Ludford.