GEMAU'R COCOS gan Dafydd Wyn Wiliam

MEDD R.T. Jenkins am John Evans ('Y Bardd Cocos') yn Y Bywgraffiadur Cymreig Hyd 1940 t. 229 'Caiff Evans ei le yn y Geiriadur hwn fel yr enghraifft ogoneddusaf o'i ddosbarth. Yn wir, prin ei fod yn 'llawn llathan,' . . .' Er gwaethaf (neu oherwydd) hynny daeth John Evans i fri mawr a phrawf o hynny yw fod tri argraffiad o'i waith wedi eu cyhoeddi. Sawl prifardd a gafodd yr anrhydedd hwn? Wele restru'r tri chyhoeddiad:

    1. Llyfr O Waith Yr Awen Rydd A Chaeth, Gan John Evans, Yr Archfardd Cocysaidd Tywysogol. Porthaethwy: Cyhoeddedig Gan Yr Awdur Pris Chwecheiniog. d.d. tt. 36. Ar y tudalen olaf ceir Bangor: Cyhoeddedig dros yr Awdwr, gan Jones a'i Gyf.'

    2. "Bardd Cocos." - Ei Hanes, Ei Swydd, Ynghyd Ai Weithiau Barddonol Gan Alaw Ceris. Pris Swllt. Porthaethwy: Argraffwyd gan Williams a Harrison (T.H. Williams). d.d. (Ceir 10 Chwefror 1923 ar derfyn y Rhagymadrodd) tt. 52.

    3. Cocos Detholiad O Farddoniaeth Y Bardd Cocos. (Gwasg y Tŵr 1980) tt. 16. Yng nghefn y llyfryn ceir 'Argraffwyd gan lfor G. Jones ar Wasg y Tŵr, Foel  Graig, Llanfair­pwllgwyngyll.'

Cefais y ddau lyfryn cyntaf yn rhodd gan ddau gyfaill caredig a phrynais y trydydd yn ddiweddar.

***

AR DERFYN yr argraffiad cyntaf o'i waith fe nododd yr awdur 'Ni chaniateir argraffu dim o'r gwaith hwn heb ganiatâd yr awdur . . .' Nid oes gennyf gwbl sicrwydd pryd yr aeth y Bardd Cocos ‘i ffordd yr holl ddaear' eithr yr unig John Evans a gladdwyd ym mynwent Eglwys Llandysilio (Porthaethwy) rhwng 1880 a 1900 yw hwnnw a oedd yn byw yn Nhyddyn Mostyn Cottage ac a gladdwyd Medi 28 1888 yn 62 oed.

Yn ôl Cyfrifiad 1871 fe breswyliai John Evans, gwr sengl 45 oed gyda'i fam weddw Mary Evans yn 3 Penclip Road, Llandysilio. Mae'n debyg mai ef oedd y Bardd Cocos. Sut bynnag am hynny, yn 1923, fe benderfynodd Thomas Roberts ('Alaw Ceris' 1851-1932) ail gyhoeddi gwaith John Evans.

Gwnaeth hynny gan ychwanegu llun yr archfardd, rhagymadrodd, arolwg o waith y bardd ac un gerdd nad oedd wedi ymddangos yn y casgliad cyntaf sef 'Marwnad I'r Diweddar Barch. C. Stephens, Y Dyn Mawr 0 Danymarian'. Gwendid mawr yr ail argraffiad hwn yw fod Alaw Ceris wedi ymyrryd â rhaniadau penillion rhai o'r cerddi fel y'u ceir yn yr argraffiad cyntaf. Ni ddylid ar unrhyw gyfrif ymyrryd yn y modd hwn â chocoswaith. Dylai'r sawl a fyn astudio neu fyfyrio gwaith John Evans droi at yr argraffiad cyntaf o'i waith.

***

GWENDID mawr a berthyn i'r trydydd argraffiad (1980), sy'n cynnwys detholiad o ddwsin o gerddi John Evans, yw fod rhagymadrodd y bardd wedi ei hepgor. Sut y gall neb obeithio deall y farddoniaeth heb yn gyntaf ddarllen y rhagymadrodd? Gwaeth fyth y mae'r detholiad wedi ei gymryd o ailargraffiad llwgr Alaw Ceris. Rhaid, ar fyrder, gael argraffiad safonol o waith y Bardd Cocos gydag atodiad yn cynnwys ffrwyth ei awen nas argraffwyd yn y casgliadau uchod. Wele rai ychwanegiadau y gellid eu rhoi yn yr atodiad. Fe'u cefais gan fy nghyfaill caredig y Parchedig Owen Elis Roberts.

Mewn eisteddfod fe alwyd y Bardd Cocos i'r llwyfan i gyfarch y bardd buddugol. Ymatebodd a gwelwyd bod rhan o'i grys yn ymwthio trwy dwll ym mhen ôl ei drowsus. Ebr Bardd Peibro, a oedd yn hoff o bibell, wrtho:

Fel hyn y canodd John Evans ar y testun 'Beddargraff fy Nhad':

Ef hefyd a grynhôdd y wybodaeth werthfawr am ei dad a geir yn y cwpled isod:

Diau fod eto rai perlau o waith John Evans y byddai'n fuddiol eu cynnwys mewn argraffiad newydd safonol, y pedwerydd!