GAIR Y GWYBOD ~ Syr Thomas Parry a'r hen blant

FEL cyd-ddinesydd mi ym Mangor yn nhridegau'r ganrif mi ddeuthum i adnabod y Parch E. Curig Davies, gweinidog Ebeneser, un o gapeli'r Annibynwyr yn y ddinas (cyn iddo fynd i ddwylo'r Efengylwyr). Byddai ef a minnau'n cyfarfod yn bur fynych wrth brif swyddfa'r Post yn Ffordd Deiniol tua phum munud i hanner nos, oherwydd byddid yn casglu llythyrau am hanner nos, a siawns dda iddynt fynd i bob rhan o Gymru erbyn trannoeth, a hynny am geiniog a dimai (yr hen geiniog). 0! ryfedd fyd! Byddem ein dau'n cerdded adref dan sgwrsio hyd ben Love Lane, lle byddai'n llwybrau'n gwahanu.

Yn ystod y sgwrsio hwnnw y deuthum i wybod mai uchelgais mawr fy nghyfaill oedd gweld cyhoeddi math o wyddoniadur i blant yn Gymraeg, a mynnai i mi fod yn gyd-olygydd ag ef. Un o'r bobl hynny yw Mr Curig Davies chanddo ddawn ddewinol a pheryglus i berswadio dynion i wneud yr hyn a fyn ef, a bu raid i minnau ildio.

Hen ffyrm enwog Hughes a'i Fab, Wrecsam (dan gyfarwyddyd Rowland Thomas y pryd hwnnw) oedd y cyhoeddwyr i fod, ac aethom ni y golygyddion yno i drafod gyda'r gŵr tawedog, rhyfeddol o effeithiol hwnnw, Thomas Bassett. Dyna'r unig dro imi gyfarfod W. D. Davies, aelod arall o'r staff, athrylith gyfeiliorn oedd wedi bod cyn hynny ar staff sefydliad arall, sef Coleg y Methodistiaid Calfinaidd yn Aberystwyth.

***

Y SYNIAD oedd dilyn yr hen ddull o gyhoeddi gweithiau corffol a sylweddol eu defnydd yn y ganrif ddiwethaf, sef yn rhannau misol, a chael yn y diwedd bedair cyfrol o 576 o dudalennau yr un. (Ond tociwyd pedwar tudalen yn rhifyn diwethaf y gyfrol gyntaf, a chyfanswm y tudalennau yw 572).

Cyfleu gwybodaeth oedd y bwriad, a hynny mewn ffordd a fyddai'n ddiddorol i blant. Ar ddechrau pob rhifyn yr oedd adran "Rhyngom ni a'n gilydd", gan y golygyddion, pob un yn ei dro, ar amryfal bynciau megis nawddseintiau gwledydd Prydain, pontydd, argraffu, dewrder, ysgrifennu, etc. Wedyn yr oedd ym mhob rhifyn dair ar ddeg o adrannau yn cwmpasu cefndir pur helaeth o wybodaeth arlunio a cherflunio, barddoniaeth, cerddoriaeth, y bydysawd, y cyfnodau cynhanesiol, bywydeg, a gwahanol grefftau a galwedigaethau.

Ceisiwyd traethu hanes Cymru trwy ddisgrifio teithiau trwy'r siroedd, ac fe aed i Fn, Ceredigion a Sir Gaernarfon pedair erthygl i bob un. Yn yr adran "Dynion mawr y byd" rhoid hanes dau neu dri gŵr enwog bob tro, ac weithiau yr oedd rhai pur wahanol yn dod at ei gilydd, fel Twm o'r Nant, Cicero, a Stradivari yn un rhifyn. Yr oedd Mussolini yn ei rwysg y pryd hwnnw, newydd orchfygu Ethiopia, a chynhwyswyd yntau, a'i gystwyo'n ddidostur a chwbl deilwng.

Yn yr adran "Sut a Paham" ceid atebion i ofyniadau ynglŷn phethau cyffredin a chyfarwydd, fel p'run yw'r llong fwyaf yn y byd, a oes gan rai adar ddannedd, beth yw hawliau dinesydd Prydeinig, neu paham y cyll rhai dynion eu gwallt.

Yr adran olaf ym mhob rhifyn oedd "Y Cwpwrdd Cornel", lle'r oedd y teganau'n byw - Wil Cwac Cwac, Twm Teigr, Llew Blew, Pegi Biws o Japan, Mali Ml a'r lleill i gyd. Prin fod rhaid dweud mai Jennie Thomas (Bethesda y pryd hwnnw, cydawdur Llyfr Mawr y Plant) dan y ffugenw Modryb Siwsan, oedd yn gyfrifol am y Cwpwrdd.

Ysgrifennwyd i Gwybod gan ddau ar hugain o wahanol awduron (gan gynnwys gwragedd y golygyddion) ac yr oedd naw neu ddeg o rai eraill a roes gyngor a chefnogaeth, a phob un ohonynt yn gyfarwydd mewn rhyw faes neilltuol. Y mae'n bleser heddiw, ar l yr holl flynyddoedd, roi gair o glod i'r cynorthwywyr hyn oll am eu hymroddiad a'u prydlondeb o fis i fis. 'Rwy'n meddwl mai tua'u hanner sydd heddiw'n fyw, ac y mae hynny'n nifer go foddhaol ar l dwy flynedd a deugain.

A sn am rawd y blynyddoedd, bu cymaint o newid yng Nghymru ac yn y byd er pan gyhoeddwyd Gwybod nes bod rhyw gymaint o werth hanesyddol yn rhai o'r pethau a geir ynddo. Ceir erthygl ar chwarel fawr Bethesda pan oedd y diwydiant llechi yn bur llewyrchus. Y mae hwnnw wedi crebachu'n drychinebus erbyn hyn. Wrth sn am waith y ffarmwr sonnir, gyda chryn ryfeddu, am yr arfer ddieithr o gynaeafu gwair yn wlyb a'i gadw mewn seilo.

***

YR OEDD cael helaethrwydd o ddarluniau yn amcan pendant. Pwrpas y darluniau oedd egluro'r testun a'i wneud yn fwy diddorol, nid cynnal y stori a'i dwyn yn ei blaen, fel mewn rhai cyhoeddiadau heddiw.

Comisiynwyd artistiaid o Gymry rai gweithiau, yn arbennig y gŵr mwyn hwnnw, Mitford Davies, oedd yn byw yn y Star, rhwng Llanfair-pwll a'r Gaerwen ym Mn.

Yr oedd gŵr ifanc o artist yn byw yn Llanllechid, ger Bangor, y pryd hwnnw, a ddaeth yn dra adnabyddus yn ddiweddarach, sef John Petts, a chaed rhai darluniau o'i waith yntau.

I blant Cymru heddiw y mae dalennau Gwybod yn edrych yn ddiantur a hen-ffasiwn. Defnydd darllen sydd yn y llyfr, a hwnnw wedi ei argraffu'n golofnau yn y dull traddodiadol, ac fel y dywedwyd, nid trwy luniau y cyflir gwybodaeth. Y mae hefyd rai pynciau sy'n aruthrol o bwysig heddiw ond a anwybyddwyd yn llwyr yn Gwybod, megis chwaraeon. Nid oes air o sn am y bl droed na rygbi na hoci na thennis na hwylio na sgo na dim o'r cyfryw grefyddau, am y rheswm cwbl ddigonol nad oedd y gweithgareddau aflonydd hyn yn apelio y dim lleiaf at y golygyddion.

Yn yr adran ar gerddoriaeth, offerynnau'r gerddorfa symffoni oedd testun y trafod nid oedd neb wedi dyfeisio'r Trwynau Coch na Mynediad am Ddim na'r un peiriant arall i frefu'n amhersain. Soniwyd am y gofod yn yr adran 'Rhyfeddodau'r Cread', fel y lle y mae'r sr yn symud, nid y lle y mae dynion yn teithio.

Ar y llaw arall, yr oedd un o bynciau amhoblogaidd ein hoes ni i'w weld yn sleifio rownd ambell gornel, sef crefydd. Ar ddechrau rhifyn cyntaf Gwybod fe ddywedir "Ni fwriedir i'r gwaith fod yn gyhoeddiad crefyddol na sectyddol mewn unrhyw ystyr." Ond gorffennir yr adran gyda'r geiriau "Ni ellir gwneud synnwyr o'r Byd heb gymryd Duw yn ganiataol. Duw sydd wedi ei feddwl allan yn y dechrau ac yn ei greu a'i berffeithio o hyd."

Yr oedd un adran gyfan yn ymwneud 'r Beibl. Ond ni chafodd crefydd fynd yn ormes ar y cyhoeddiad fel yr oedd yn tueddu i wneud gyda chyhoeddiadau cyffelyb yn y ganrif ddiwethaf.

Gwahaniaeth amlwg rhwng Gwybod a chyhoeddiadau heddiw yw fod ei iaith yn gywir o ran orgraff a phriod-ddull, a bod yr argraffu'n ddifrychau. A rhaid crybwyll y pris. Yr wyf newydd weld copi o Gwyddoniadur y Plant, cyhoeddiad newydd lliwgar a thra atyniadol. Y mae ynddo 60 o dudalennau, a'r pris yw 3.50. Yr oedd Gwybod yn 572 o dudalennau, a'i bris oedd naw swllt o'r hen arian.

Bu'r diwedd yn drist. Erbyn gorffen cyhoeddi'r gyfrol gyntaf yr oedd yr ail ryfel byd yn dri mis oed, ac yn wyneb yr ansicrwydd a'r enbydrwydd penderfynodd y cyhoeddwyr roi'r gorau i'r fenter. Ni welwyd byth mo'r tair cyfrol arall oedd wedi eu bwriadu. Petai'r cyhoeddwyr wedi gallu rhagweld y gwerthu da a ddaeth ar lyfrau Cymraeg yn ystod y rhyfel, buasent wedi penderfynu'n dra gwahanol.